Cyfres Seminarau Ymchwil FACE | Tachwedd 2024

Cynhaliwyd Seminar Ymchwil gyntaf FACE o’r flwyddyn academaidd (Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg) ym mis Tachwedd, gyda chynrychiolwyr o Gyfrifiadura a Chelfyddydau. Cadeiriodd y sesiwn gan yr Athro Alec Shepley, ynghyd â chyflwyno rhan ohoni.  

Cyflwyniad i Fodelau Iaith Mawr (LLMau) 

Y siaradwr cyntaf oedd Dr Phoey Teh, Darllenydd mewn Cyfrifiadura Cymdeithasol, a roddodd drosolwg o LLMau. Trafododd Phoey effaith LLMau ar gyhoeddiadau ysgolheigaidd, gan ganolbwyntio ar deitlau a chrynodebau a gynhyrchir. Siaradodd Phoey am ddulliau ymchwil un o’u papurau diweddar, gan bwysleisio pwysigrwydd deall yr offer a dulliau a ddefnyddir mewn LLMau, gan gynnwys cynhyrchu testun ac ymgorffori nodweddion. Mae LLMau yn defnyddio dysgu gan beiriant ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau megis ymateb i wybodaeth, adnabod llais, a chyfieithu. 

Yr Astudiaeth 

Amcanion yr Ymchwil: Anelodd Phoey a chydweithwyr at asesu cydlyniad teitlau a gynhyrchwyd gan AI o’i gymharu â theitlau a gynhyrchwyd gan ddyn, yn seiliedig ar grynodebau. Defnyddiasant ddull llinell amser i gategoreiddio teitlau cyn AI ac yn ystod cyfnod AI, gan fynd ati i ymchwilio’r cydberthnasau rhwng teitlau gwreiddiol a theitlau a gynhyrchwyd gan AI. Cychwynasant nhw drwy gasglu set ddata o 15,000 o deitlau a chrynodebau, a’u crynhoi ar gyfer dadansoddiad manwl. 

Dulliau Dadansoddi: Cymharodd y tîm debygrwydd semantig rhwng teitlau a gynhyrchwyd gan AI a’r rhai a gynhyrchwyd gan ddyn, drwy ddefnyddio tebygrwydd cosin a phellter Levenshtein. Gwnaethant hefyd ddatblygu model i fesur darllenadwyedd testun yn seiliedig ar hyd y frawddeg a chymhlethdod y gair. I orffen, gwnaethant ddefnyddio techneg ystadegol a elwir yn Ddadansoddiad Amrywiant (ANOVA) i gasglu’r gwahaniaethau mewn cymedrau ar draws amrywiaeth o setiau data. 

Canfyddiadau a Goblygiadau: Gwnaeth y tîm ddarganfod bod teitlau a gynhyrchwyd gan AI yn aml yn dangos tebygrwydd uchel i deitlau a gynhyrchwyd gan ddyn, yn dangos patrwm mewn testun AI a gynhyrchir. Trafododd Phoey sut mae LLMau wedi trawsnewid lledaeniad ymchwil a phatrymau cyfeiriadau ar draws disgyblaethau, a hefyd yn ystyried yr ystyriaethau moesegol o ddefnyddio AI mewn ymchwil, yn cynnwys preifatrwydd data a dilysrwydd y cynnwys a gynhyrchir. Yn y dyfodol, awgrymodd Phoey y dylid ymchwilio beth yw swyddogaeth LLMau mewn ymchwil cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol. 

Darllenwch y papur cyhoeddedig. 

Mapio ac Ymgysylltiad Cymunedol 

Ein hail siaradwr oedd yr Athro Alec Shepley, a siaradodd am y prosiect a ariennir ar y cyd, Llwyfan Map Cyhoeddus. Cyflwynodd Alec y prosiect sy’n anelu at gynnwys cymunedau lleol mewn cynllunio a gwneud penderfyniadau drwy fapio eu hamgylcheddau, gan ganolbwyntio ar Ynys Môn. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys creu llwyfan map cyhoeddus sy’n cyfuno data cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yn cael ei adnabod fel “brechdan ddata.” 

Yr Astudiaeth 

Cynhaliwyd gweithdai i ddysgu aelodau’r gymuned sut i ddefnyddio offer mapio ffynonellau-agored fel OpenStreetMap a Wikimedia i ddogfennu eu hoff lefydd a phrofiadau.  Ysgogwyd y fenter gan lywodraeth leol sy’n ceisio bod yn rhagweithiol mewn ymgysylltiad cymunedol, gan ddefnyddio dulliau amgen ar gyfer casglu data drwy ymarferion artistig, yn unol â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). 

Digwyddiadau Rhyngweithiol ac Ymgysylltiadau Artistig: Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhyngweithiol o’r enw “Lle Llais”, yn cynnwys perfformiadau a chasgliadau data drwy amrywiaeth o gyfryngau artistig. Amlygodd y prosiect brofiadau synhwyraidd ar gyfer plant, yn eu galluogi i ymgysylltu â’u hamgylchedd trwy wrando, blasu a chreu celf. Roedd yr ymgysylltiad yn fwy llwyddiannus gyda grwpiau ysgol, a oedd yn frwdfrydig ac yn gydweithredol. 

Cyfranogiad Ieuenctid a Chyfleoedd Cyflogaeth: Anelodd y prosiect at gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc trwy eu darparu gyda rolau fel cynhalwyr a mapiwr, ac felly yn rhoi synnwyr o berchnogaeth iddynt. Cafwyd amrywiaeth o berfformiadau artistig, yn cynnwys barddoniaeth a cherddoriaeth eu hintegreiddio i ddigwyddiadau i wella cyfranogiad cymunedol. 

Ewch i wefan Llwyfan Map Cyhoeddus 

Cynhwysiant a Hygyrchedd mewn Celfyddydau 

Ein trydydd siaradwr oedd Dr Grace Thomas, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymgysylltiad Celfyddydau, sydd wedi bod yn ymchwilio’r rhwystrau mae unigolion ag anableddau yn wynebu wrth geisio cael mynediad at gyfleoedd celfyddydau, yn pwysleisio’r angen ar gyfer ymarferion cynhwysol. Mynegodd ganran sylweddol o’r unigolion a arolygwyd diffyg hyder mewn hygyrchedd rhaglenni celfyddydau, yn nodi’r angen ar gyfer marchnata a phrosesau archebu gwell. Rhannodd Grace enghreifftiau o sefydliadau sy’n ceisio gwella hygyrchedd, yn amlygu’r llwyddiannau a’r heriau sy’n bodoli. 

Ymgysylltiad Cymunedol a Dinasyddiaeth Ecolegol 

Siaradwr olaf y prynhawn oedd Dr Tracy Simpson, Ymchwilydd Ôl-ddoethurol ar gyfer y prosiect Dinasyddion Ecolegol. Roedd eu ffocws ar ddeall dinasyddiaeth ecolegol a rhwydweithiau llawr gwlad sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd. Trafododd Tracy bwysigrwydd mentrau lleol a chyfraniad cymunedol mewn arferion ecolegol, yn pwysleisio’r angen ar gyfer gweithrediad casgliadol. Amlygwyd amrywiaeth o brosiectau cymunedol, gan arddangos sut mae gweithrediadau lleol yn gallu arwain at effeithiau amgylcheddol sylweddol. 

Ymchwil a Chydweithrediad: Trafododd Tracy eu hymchwil ar ymgysylltiad cymunedol mewn ymarferion ecolegol, yn canolbwyntio ar sut i greu ardaloedd cymdeithasol cadarn a chydweithio gyda sefydliadau lleol i ddeall anghenion y gymuned a gwella strategaethau ymgysylltu. Ar y cyfan, mae’r ymchwil yn anelu at ddatblygu fframwaith i awdurdodau lleol gynnwys cymunedau’n well mewn prosesau gwneud penderfyniadau. 

Ewch i wefan Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol 

Ymunwch â FACE ar gyfer Seminar nesaf y gyfres ar 26 Chwefror 2025.