Seminar Ymchwil yn y gyfres a drefnwyd yn wreiddiol gan FAST
Ym mis Rhagfyr, bu Dr Jixin Yang yn cadeirio’r bedwaredd Seminar Ymchwil yn y gyfres a drefnwyd yn wreiddiol gan FAST. Y thema oedd Gwyddoniaeth Gymhwysol a chyflwynodd y siaradwr cyntaf seminar a chanddi deitl cymhleth iawn yr olwg i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r maes:
‘Nanocrystalline cellulose: An investigation of greener synthesis approaches and applications in novel, eco-friendly formulations.’
Kev Jones, myfyriwr PhD, a gyflwynodd y sgwrs hynod ddiddorol hon ynglŷn â chellwlos crisialog maint nano sy’n deillio o blanhigion. Mae’r crisialau hyn i’w cael mewn gwrthrychau o bob math, megis cardfwrdd, gwlân cotwm a phapur. Cydnabyddir ledled y byd bod cellwlos crisialog yn ddiogel, yn fiogydnaws (hynny yw, nid yw’n achosi adwaith niweidiol) ac yn fioddiraddadwy, felly gellir ei ddefnyddio mewn deunyddiau pecynnu, wrth adeiladu ac yn y diwydiannau fferyllol; ymddengys fod y crisial bychan bach hwn yn dipyn o arwr. Yn wir, mae cryfder mecanyddol cellwlos yn gryfach na dur!
Caiff ei ddefnyddio hefyd i dewychu hylifau arbennig, megis sos coch. Soniodd Kev am ei frawd a’r modd y bu bron iddo â chael enwogrwydd ar ôl iddo gysylltu â Heinz a gofyn a fyddai modd i’r cwmni ddefnyddio poteli plastig yn hytrach na photeli gwydr er mwyn i bobl gael sbario bwrw gwaelod y botel i gael gafael ar y sos.
Yna, soniodd Kev am arbrawf lle ychwanegwyd nanogrisialau cellwlos at gwm arabig. Trwy ychwanegu ychydig bach o gellwlos crisialog, cynyddwyd gludedd y gwm arabig (hynny yw, fe dewychodd y gwm arabaidd). Mae Kev wedi cofnodi’r effaith a bydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith ymchwil hwn er mwyn gweld pam y mae hyn yn digwydd.
Rydym ar dân eisiau clywed mwy gan Kev – llwyddodd i gyfathrebu materion gwyddonol yn eithriadol o effeithiol. (Os byddwch angen unrhyw awgrymiadau, rydym yn siŵr y byddai’n fodlon cynnig help llaw.)
Yna, cadeiriodd ein Cadeirydd ei sesiwn ei hun, sef ‘Renewable Energy – A Case Study on Chinese Approaches’. Rhoddodd Dr Jixin Yang fraslun o’r hyn a ddeilliodd o COP29 a gynhaliwyd yn ddiweddar, sef bod yn rhaid i wledydd leihau allyriadau carbon yn gyflym, yn barhaol ac mewn modd ystyrlon – neges debyg iawn i’r rhai a glywyd yn y gorffennol.
Cyflwynodd Jixin ystadegau’n ymwneud â thargedau sero net gwahanol wledydd, a dywedodd fod Bhwtan eisoes wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer allyriadau carbon sero net (da iawn Bhwtan)!). Ond yn achos gwlad lawer fwy fel Tsieina, mae’r dasg yn fwy o lawer. Tsieina yw’r allyrrwr carbon deuocsid mwyaf drwy’r byd, a hi hefyd yw’r wlad sy’n cloddio ac yn cynhyrchu’r swm mwyaf o lo. Ond Tsieina hefyd yw’r wlad sy’n buddsoddi fwyaf mewn ynni adnewyddadwy; ac mewn gwirionedd, mae hi ar y trywydd iawn ar gyfer cyflawni ei nodau.
Aeth Jixin yn ei flaen i archwilio ffynonellau ynni adnewyddadwy Tsieina, megis Argae’r Tri Cheunant y bu disgwyl mawr amdano, a fydd yn lleihau llifogydd yn fawr mewn ardaloedd wrth ymyl Afon Felen ac Afon Yangtze. Erbyn hyn, mae’r argae a’r orsaf ynni’n cynhyrchu 3% o ynni Tsieina, a hi yw’r orsaf ynni fwyaf drwy’r byd. Mae hi hyd yn oed wedi gosod record ar gyfer y swm mwyaf o ynni a gynhyrchir yn flynyddol.
Mae ynni’r gwynt yn agwedd arall ar ynni adnewyddadwy (Tsieina yw arweinydd y byd o ran cynhyrchu ynni’r gwynt); a hefyd bio-ynni/ynni biomas; ac ynni’r haul (Tsieina yw’r gweithgynhyrchwr dyfeisiau ffotofoltäig mwyaf drwy’r byd). Ymddengys fod Tsieina ar y trywydd iawn ar gyfer cael gwared â’r label mai hi yw’r allyrrwr carbon deuocsid mwyaf drwy’r byd.
Diolch i’r ddau ohonoch am gyflwyno gwybodaeth mor graff ynglŷn â gwyddoniaeth gymhwysol ac ynni adnewyddadwy. Bydd y Seminar Ymchwil FAST nesaf yn sôn am Dechnoleg a Pheirianneg, ac fe’i cynhelir ar 24 Ionawr, 2-4pm. Gobeithio y gwelwn ni chi yno!