FFYRDD HAWDD O FWYTA’N IACH AC YN RHATACH

Students having coffee in kitchen

Fel myfyriwr prysur gallwch deimlo nad oes amser nac arian genych i fwyta'n iach. Ond gall dysgu ychydig o driciau hawdd eich helpu i arbed amser ac arian a theimlo'n well hefyd!

Ffrwythau a llysiau

1.    Mae ffrwythau a llysiau rhydd sydd yn eu tymor yn rhatach fel arfer. 
2.    Mae ffrwythau a llysiau tun yn wych i’w storio tan rydych eu hangen, cyn belled â’ch bod yn dewis y rhai sydd             mewn dŵr neu sudd ffrwyth i osgoi siwgr a halen.
3.    Llysiau wedi’i rewi, yn enwedig o ddewis ‘own-brand’, yn gyflym, rhad ac yn faethlon.
4.    Mae ffrwyth a llysiau wedi’u paratoi yn ddrud, o ystyried y gallwch eu bilio a’u thorri eich hun.
5.    Defnyddiwch ffrwyth sbâr mewn smwddi neu ysgytlaeth.    
6.    Gallwch dorri a rhewi llysiau ychwanegol am rywbryd arall, neu defnyddiwch nhw mewn cawl, ponco (omelette)           neu frittata.

HEW fruit

Cig, pysgod, codlysiau

Mewn prydiau fel tsili, Bolognese a stiw gallwch eu swmpo hefo llysiau ychwanegol neu ffacbys, cyw-bys a ffa.

1.    Gall cig rhatach fel clun cyw iâr a ‘drumsticks’, gwddf oen, coes cig eidion a lwyn porc cymryd yn hirach i’w                   paratoi/ coginio, ond yn aml mae ganddynt fwy o flas.
2.    Gall cigyddion rhoi cyngor i chi ar sut i goginio nhw, ac yn aml mae ganddynt fargeinion gwych ar feintiau mawr o         gig.
3.    Mae pysgod yn faethlon iawn ac mae yna digon o fargeinion ar gael mewn archfarchnadoedd.
4.    Mae ffacbys, codlysiau a cyw-bys yn faethlon ac yn rhad iawn, felly beth am fynd heb gig yn amlach?

Sglodion

Yn lle sglodion wedi ffrio, beth am roi taten drwchus neu letemau tatws melys yn y popty hefo ychydig o olew llysiau neu had rêp? Byddent yn amsugno llai o olew na sglodion teneuach a gallwch gadw’r croen am ffibr ychwanegol. Mae dewis lletemau tatws melys yn cyfri at eich ‘pump y diwrnod’. Os hoffech fod yn dda iawn, ysgeintiwch lysiau blas, paprika neu naddion tsili ar eich taten yn lle halen.

HEW bake

Prydau

Eisiau arbed arian ar eich biliau nwy/trydan, gwario llai o amser wrth y sinc yn golchi llestri a lleihau’r siawns of wario’n wirion ar brydau parod? Paratowch swp o fwyd a/neu goginio i ffrindiau.

Gwnewch bot fawr of chilli, pasta pob neu bastai pysgod a gwahodd ffrindiau a chydletywr i fwyta hefo chi- efallai wnewn nhw coginio pryd i chi ryw ddydd.

Gallwch hefyd rhannu’r pryd a’i rhewi i’w ddefnyddio yn yr wythnosau i ddod, neu os nad oes ots gennych, bwyta’r un pryd am ychydig o ddyddiau a rhowch y cyfrannau yn yr oergell.

 

Ysgrifennwyd gan Laura Edwards. Gwnaeth Laura raddio o Brifysgol Hull ac mae hi wedi treulio 18 mlynedd yn gweithio ym maes newyddiadura a chysylltiadau cyhoeddus. Mae hi’n Swyddog Ymgysylltu Digidol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.