Fy Nhaith at gyflawni PhD
Gan Andrea Cooper
Cefais fy ngeni yn y chwedegau a fy magu yng Nglannau Mersi. Fi yw’r hynaf o bedwar o blant ac roeddem yn byw gyda fy mam, a thrwy’r mynediad coblog roedd fy Nain Holmes yn byw. Rwy’n cofio roedd fy mam a nain yn ferched cariadus, caredig, gwydn a oedd yn rhoi eu teulu yn gyntaf bob amser. Roedd teulu fy mam i gyd yn byw yn Swydd Amwythig, hi oedd yr unig un i symud i ffwrdd, y ddynes bert a swil hon gyda dewrder llewes. Roedd hi'n dyner ond yn amddiffynnol o'i nyth ac roeddem yn meddwl ei bod yn rhy llym. Roeddem ni bob amser yn blant oedd yn gorfod dod i’r tŷ tra roedd hi dal yn olau er mwyn i ni allu mynd i'r gwely'n gynnar a bod yn barod i'r ysgol, ac roedd mam yn ein 'gorfodi' ni gyd i fynd am dro teuluol ar brynhawn ddydd Sul waeth beth oedd y tywydd. Cawsom i gyd ein magu i fod yn foesgar, i wneud fel y dywedwyd wrthym, i ofalu am ein gilydd, a thrin pobl eraill yn garedig.
Roedd mam a nain yn byw bywyd caled, nid oedd dim byd yn hawdd iddyn nhw ac roedden nhw'n gweithio'n galed heb fawr o amser na phethau da iddyn nhw eu hunain. Roedd mam (y plentyn ieuengaf o naw - gyda'r enw hardd Andelle ar ôl afon Ffrengig) yn ymfalchïo ein bod yn lân ac yn cael prydau o fwyd poeth a bod ei dillad gwyn ar y lein yn lân iawn. Roedd hi'n ymdopi gyda’r arian oedd ganddi i dalu'r biliau ac yn cadw to uwch ein pennau - ceisio cadw'r beilïaid draw o'r drws trwy lanhau tri bore'r wythnos i bobl grand, arian parod yn ei llaw fel ei fod yn cael ei guddio rhag y ' gwasanaethau cymdeithasol' (nawdd cymdeithasol) - tan gafodd hi ei dal.
Roeddem ni bob amser yn ymddwyn ac yn gwneud yn dda yn y dosbarth a chwaraeon yn yr ysgol. Roedd disgwyl i ni wneud yn dda yn yr ysgol oherwydd ein bod ni'n 'disglair' ond alla' i byth gofio bod disgwyl i mi wneud unrhyw beth gydag addysg - hyd yn oed pan oedd mam a dad yn llawn balchder wrth i mi basio'r arholiad 11+ i fynd i'r ysgol ramadeg i ferched. Doeddwn i ddim yn cael mynd i’r chweched dosbarth oherwydd roedd rhaid i chi wisgo eich dillad eich hun ac roedd tyllau yn fy mhâr o sgidiau. Dywedodd fy mam wrthyf flynyddoedd yn ddiweddarach (ac mae'n dal i ddweud) y byddai hi wedi hoffi i mi fod yn nyrs, fel y byddai hi wedi hoffi bod.
Yng nghanol fy ugeiniau dechreuais fy astudiaethau addysg uwch yng Nghartrefle rhan o Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) sydd bellach yn Brifysgol Wrecsam. Astudiais yma oherwydd dyma oedd yr agosaf ond hefyd un o'r lleoedd gorau i astudio Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Cynhyrchais ddarn A+ o ymchwil ar ferched sy'n torri'r gyfraith a byddwn wedi bod wrth fy modd yn dilyn gyrfa academaidd ond roedd gen i fy nghymhwyster proffesiynol ac fel 'mam sengl' roedd angen i mi fynd allan ac ennill arian.
Rwyf bob amser wedi cael fy swyno gan ferched ac mae gennyf chwilfrydedd gwirioneddol am syniadau o wreictod neu fenyweidd-dra. Trwy synwyrusrwydd merch yn tyfu i fyny gwelais rai pethau - merched yn gwisgo'n ddoniol gyda theits du ac esgidiau gwyn yn aros o gwmpas y depo bysiau ar ben ein stryd; merched yn ysmygu ac yfed yn y dafarn ar ddydd Sul pan aethom i mewn i ofyn i'n tad am botel o lemonêd R Whites i fynd gyda'n cinio; y barforwyn yn y neuadd snwcer lle'r oedd fy nain yn glanhau a roddodd gnau i mi o'r llun cardbord o ddynes hanner noeth wrth ddysgu sut i gyfri a sillafu wrth wylio Sesame Street ar y teledu lliw yn lolfa'r merched; a'r llu o ferched yn mynd i mewn ac allan o'r neuadd bingo. Profais olygfeydd ac arogleuon y bywyd bob dydd hwn yn mynd ymlaen o'm cwmpas yn swynol.
Fe wnaeth y merched hyn a phrofiadau fy mam a fy nain o’r cyfnodau da a drwg o fywyd fy helpu i ddatblygu tosturi cynhenid tuag at ferched. Yn enwedig i ferched sy’n fregus ar adegau a'r merched hynny sy'n profi anghydraddoldeb difrifol. Ar hyd y ffordd fel oedolyn rwyf wedi amrywio o fod yn ffeminydd radical i ffeminydd ryddfrydol, i fod yn rhy brysur gyda phethau eraill i chwifio'r faner a hyd yn oed i deimlo ei fod yn amherthnasol i alw fy hun yn ffeminydd. Yn fy mhumdegau rwyf nawr yn fam i bedwar ac yn Nain Cooper sy'n cael ei charu cymaint ag oedden ni'n caru ein nain, ac rwy’n helpu i fagu fy wyrion i fod yn ddynion da fel fy ngŵr (a'm brodyr). Mae hefyd yn amser nawr i ni blant gymryd ein tro i fod yn addfwyn ac amddiffyn ein mam.
Yn rhyfeddol, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyflawni fy uchelgais o astudio ar gyfer PhD - cael y cyfle i ysgrifennu ac yn bwysig iawn i archwilio mwy am 'ferched cyffredin eraill' a sut maen nhw'n gwneud. Yn fy ymchwil, rwy'n ceisio cysylltu profiad bob dydd grŵp o ferched 'cyffredin' sydd wedi troseddu â materion cyhoeddus o anghydraddoldeb, anghyfiawnder, a cham-fanteisio.
Gan ddilyn yn ôl traed dwy o'm merched, bu i mi ddod yn ôl i astudio yn Wrecsam. Dyma'r agosaf o hyd ond yn bwysig iawn mae ganddi un o'r enw da gorau ar gyfer astudio cyfiawnder troseddol. Ar ôl peidio ag astudio ers dros ddeng mlynedd ar hugain dechreuais yn betrus gydag MA ac rwyf mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gefais. Fel myfyriwr aeddfed a ffeminydd rwyf wrth fy modd â'r ffordd y mae'r brifysgol yn nodedig o ran cynhwysiant cymdeithasol ac rwy'n falch o fod yma.