Gweithdy CoMManDO Mehefin 2024
Ddiwedd mis Mehefin, cynhaliwyd Gweithdy’r Ganolfan Ymchwil i Ddylunio, Optimeiddio, Gweithgynhyrchu ac Efelychu Mecaneg Cyfrifiannu (CoMManDO) ym Mhrifysgol Wrecsam. Cafodd y gweithgareddau a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod, eu harwain gan yr Athro mewn Technoleg Awyrofod, Alison McMillan. Mynychwyd y digwyddiad gan nifer o bobl o wahanol sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ar draws gwahanol ddisgyblaethau, gan gynnwys cyfrifiadura, celf a pheirianneg. Roedd y fformat hybrid yn galluogi mynychwyr o bob cwr o'r byd i ymuno â’r digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o Ewrop ac India.
Diwrnod Un: Rhannu Gwybodaeth Arsylwi’r Ddaear gyda Chymunedau (EOCKS)
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Cymru wedi cael y cyfle i gael mynediad at ddata arsylwi delweddau lloeren gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Planet Labs. Yn ystod diwrnod cyntaf y gweithdai CoMManDO, daeth ymchwilwyr a myfyrwyr PhD o bob rhan o Gymru at ei gilydd gyda gwahanol ddarparwyr er mwyn rhannu gwybodaeth am y llwyfan a thrafod defnyddiau / cyfleoedd ymchwil posibl.
Llwyfan Amgylchedd Cymru
Rhoddodd Andy Schofield, Cyfarwyddwr Llwyfan Amgylchedd Cymru, gyflwyniad i’r llwyfan ac edrychodd ar rai o'r rhwystrau sy'n effeithio ar y rhai yn y byd academaidd wrth sgwrsio â Llywodraeth Cymru ac i'r gwrthwyneb. Mae Llwyfan Amgylchedd Cymru yn helpu i bontio'r bwlch rhwng ymchwilwyr, darparwyr tystiolaeth a llunwyr polisi drwy:
- Ddatblygu cymunedau ymchwil mewn gwahanol feysydd gan gynnwys gwell ansawdd dŵr i Gymru, carbon glas, rheoli cronfeydd dŵr a diogelwch tomenni glo
- Hwyluso cyngor a thystiolaeth arbenigol
- Rhannu gwybodaeth
- Galluogi cydweithio drwy gronfa ddata o ymchwilwyr a meysydd o ddiddordebau ymchwil
Trafodwyd y cydweithio rhwng Llwyfan Amgylchedd Cymru a Planet, gan gynnwys y nifer sy'n derbyn trwyddedau, prosesau cofrestru a cheisiadau am ddata. Cafwyd sgwrs am y cyfleoedd y gellir eu rhannu a rhai enghreifftiau o’r cydweithio sy’n digwydd ar hyn o bryd megis y prosiect ymchwil Dinesydd (Dinasyddion) Ecolegol cyfredol gyda'r Coleg Celf Brenhinol, Sefydliad Stockholm yn Efrog, a Phrifysgol Wrecsam.
Profiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru
Arweiniwyd y sesiwn nesaf gan Dr Helena Sykes, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Synhwyro o Bell. Dywedodd Helena fod Cyfoeth Naturiol Cymru, corff a noddir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn defnyddio Planet ers nifer o flynyddoedd i helpu i reoli’r perygl o lifogydd, mynd i'r afael â throseddau gwastraff a rheoli treth gwaredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.
Rhannwyd astudiaethau achos cyfredol gan gynnwys y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd 2020-2025 sy'n defnyddio data arsylwi daear Planet i fapio systemau draenio mawndir nad ydynt wedi cael eu mapio o’r blaen. Mae ceisiadau eraill yn cynnwys gwaith mewn perthynas â’r llanw a chyfrif defaid!
Nododd Helena fod angen y data yn aml i edrych ar beth aeth ymlaen cyn ac ar ôl digwyddiadau i chwilio am 'dystiolaeth' o'r hyn sydd wedi digwydd ac adolygiadau newid tymhorol o flwyddyn i flwyddyn a arweiniodd at drafodaethau ynghylch ceisiadau ymchwil posibl.
I gloi sesiwn y bore, cafodd yr ymwelwyr ginio a thaith o amgylch y campws.
Planet: Prosiect Adfer Llifogydd
Fe wnaeth yr Athro Alison McMillan dywys y sawl a oedd yn bresennol drwy sesiynau cyntaf y prynhawn, gan edrych ar sut orau i ddefnyddio'r drwydded Planet. Edrychwyd ar brosiect adfer bwyd gyda chydweithio trawsddisgyblaethol a oedd yn cyffwrdd â Chyfrifiadureg a Pheirianneg, Ecoleg, Fforenseg, Archaeoleg, Cenhadaeth Ddinesig a Chelf.
Pam dewis Adfer Llifogydd fel prosiect? Cafwyd trafodaethau ynghylch y ffaith fod llifogydd yn digwydd yn gynyddol aml, y bygythiadau i fywyd a'r amgylchedd a'r effaith ariannol ar unigolion a chwmnïau. Mae data Planet yn cynnig cyfleoedd ymchwil megis adfer safleoedd llifogydd, arwydd o weddillion fforensig neu archeolegol a dylunio camau lliniaru.
Yna trafodwyd y camau nesaf i alluogi’r prosiect i symud ymlaen, gyda'r grŵp yn bwriadu mentro i roi cynnig ar brosiect bach a fydd yn sail i gais mwy am gyllid, gyda phob disgyblaeth sy’n cydweithio â rôl a chyfraniad penodol.
Sesiwn Rhannu Gwybodaeth
Neilltuwyd sesiwn olaf y diwrnod i Rannu Gwybodaeth. Agorwyd y sesiwn gyda chyflwyniad gan Claire Horton, Llywodraeth Cymru, a roes gyflwyniad ar y wybodaeth a gafwyd yn ystod ei gwaith yn ystod y cyfnod arbrofol o ddefnyddio Planet, a'r rhesymeg ynghylch ehangu'r sylfaen defnyddwyr i gynnwys prifysgolion Cymru. Nododd fod manteision defnyddio Planet o'i gymharu â darparwyr data arsylwi eraill y Ddaear i’w priodoli i ansawdd a maint y cytser lloeren arsylwi: delweddau eglurder o safon uchel, ac amlder uchel arsylwi data.
Roedd prosiectau blaenoriaeth ar gyfer achosion defnydd Claire yn cynnwys arsylwi diogelwch tomenni glo, arsylwi a gwarchod coedwigoedd, a mapio defnydd tir. Roedd data arsylwi Planet yn fodd i nodi gweithgareddau a allai fod yn anghyfreithlon. Defnyddiwyd y data hefyd i gefnogi prosiect plannu coed yn Uganda, mapio digwyddiadau llifogydd, darganfod safleoedd archeolegol, a monitro difrod gor-bori i forfa heli.
Yna daeth y sesiwn yn fforwm trafod bwrdd crwn, a chodwyd nifer o bynciau. Roedd y rhain yn cynnwys trafodaeth ar safleoedd ar gyfer ymdrochi diogel. Mae safleoedd sy'n cael eu sefydlu fel safleoedd ymdrochi yn cael eu profi am ansawdd dŵr, ond y broblem yw sefydlu bod safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymdrochi. Ni fyddai delweddau arsylwi Planet yn adnabod pobl unigol, ond mae’n bosib y gallai nodi presenoldeb nifer o bobl yn ymdrochi.
Cafwyd trafodaeth am ganfod planhigion ymledol fel Canclwm Japan a’r Ffromlys Chwarennog, ac am amddiffyn adar ysglyfaethus a mamaliaid sydd mewn perygl fel llygod y dŵr a gwiwerod coch.
Gofynnwyd cwestiynau am sut y gellid defnyddio data arsylwi Planet yn effeithiol i bwrpas cadwraeth, o ystyried yr hyn y gellid ei weld yn uniongyrchol, a’r hyn y gellid dod i gasgliad yn ei gylch. Er enghraifft, gallai defnyddio arbenigedd arall fel olrhain sut mae gwrthrychau yn symud mewn dŵr, awgrymu lleoliadau ar gyfer adnabod sbwriel mewn dŵr ar ôl llifogydd. Cwestiwn arall oedd mesur sut mae'r newidiadau mewn terfynau cyflymder rheoli traffig wedi gwella ansawdd aer. Gellid nodi hyn o ran iechyd coed, a gellid croesgyfeirio data arsylwi Planet o'r Ddaear gyda mesur dendrocronoleg.
Yna daeth diwrnod llawn mewnwelediad a her i ben.
Diwrnod Dau: Gweithdai
Sut i wella ein mynegeion papur a metrigau ymchwil eraill?
Lansiwyd yr ail ddiwrnod gan yr Athro Alison McMillan, yn edrych ar 'wneud yn well gydag ymchwil' a sut i wella metrigau ymchwil.
Soniodd Alison am:
- Mynegeion H i a beth maen nhw'n ei olygu
- Cofrestru ar gyfer rhif ORCID
- Dewisiadau cyfnodolion, sut mae 'da' yn edrych a beth i'w osgoi
- Fframwaith a chyhoeddiadau Rhagoriaeth Ymchwil a sut i gefnogi ein gilydd
- Cyngor ar gyfer ysgrifennu papur gan gynnwys cyd-awduron, dyfyniadau, adolygiad cyfoedion ac ati...
Rhannwyd arfer gorau a oedd yn ffordd dda i ail-ffocysu i ddechrau'r diwrnod, gyda'r nod o gefnogi ein gilydd i gyhoeddi'n fwy effeithiol er budd yr unigolyn a'r cyd.
Y Bawen
Mae Y BAWEN, menter newydd Canolbarth a Gogledd Cymru, yn cynnwys adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, a chanolfan ymchwil CoMManDO Prifysgol Wrecsam. Wedi ei disgrifio fel "Ceisio cynnig mwy o ehangder o dechnegau a thechnolegau arloesol i ddeall problemau mwy heddiw yn well ac i ffurfio datrysiadau mwy cadarn nag y credwyd eu bod yn bosibl o’r blaen", dechreuodd y sesiwn gydag ymarfer bwrdd crwn fel y gallai’r rhai a oedd yn bresennol sgwrsio am feysydd o ddiddordebau ymchwil i edrych ar bosibilrwydd cydweithio ar rai prosiectau.
Fe wnaeth yr ymarfer hwn arwain at sgyrsiau diddorol ar-lein ac yn yr ystafell, gyda’r trawsgroesiad rhwng Celf a Pheirianneg yn bwynt siarad sylweddol. Siaradodd y rhai a oedd yn bresennol am sut mae rhai pobl yn ofnus / yn wyliadwrus o beirianwyr a’r modd y gall gweithio gydag artistiaid helpu i ddarparu rhyngwyneb haws, sy’n golygu y bydd mwy o bobl yn eu derbyn. Mae cysylltedd yn allweddol.
Prosiect MOVE-IT
Ffocws y sesiwn MOVE-IT, dan arweiniad yr Athro Alison McMillan, oedd galwad i weithredu i fidio am arian fydd ar gael yn fuan. Byddai ymchwil sy'n ymwneud â cherbydau trydan yn sail i'r cais a chyflwynodd Alison amryw o ystyriaethau i'r grŵp i ddechrau’r drafodaeth:
• Cymhellion cychwynnol
• Cadwyni gweithgynhyrchu a chyflenwi
• Materion ymchwil a thechnoleg
Ar ôl cinio, cafwyd trafodaeth bwrdd crwn yn canolbwyntio ar gulhau’r dewisiadau yn seiliedig ar frwdfrydedd/diddordebau'r grŵp, gyda hynny’n sbarduno sgyrsiau amrywiol yn llawn potensial. Cafodd cyfraniadau, cyllidebau a methodolegau prosiectau posibl hefyd eu hystyried ochr yn ochr â'r gofynion gweithredol o gyflwyno'r cais.
Cymrodoriaeth Advance HE ac aelodaeth o gyrff proffesiynol arall, a siarteriaethau
Daeth ein Deon newydd ar gyfer Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg, yr Athro Anne Nortcliffe, â'r gweithgareddau i ben gyda sesiwn ar aelodaeth broffesiynol; soniodd Anne am Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch, Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol a Statws Siartredig , y 'sut' a’r 'pam' a'r dylanwad ar eich statws proffesiynol. Darparodd enghreifftiau bywyd go iawn o brofiad personol bu hynny o gymorth i ddwyn yr arweiniad at ei gilydd ac arwain at sgyrsiau amrywiol a oedd yn ymwneud â phrofiadau.
Cafwyd dau ddiwrnod gwych yn ymdrin â phynciau ymchwil o bwys ac yn darparu cyfle rhwydweithio gwerth chweil. Diolch i'r holl gyfranwyr ac i'r Athro Alison McMillan am roi'r cyfan at ei gilydd, edrychwn ymlaen at y gynhadledd CoMManDO nesaf. Yn y cyfamser, os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o Ganolfan Ymchwil CoMManDO, e-bostiwch eich maes diddordeb at Alison: a.mcmillan@wrexham.ac.uk.