Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil, Ebrill 2025
Cadeiriodd Mandy Robbins sesiwn Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil anhygoel arall ym mis Ebrill, gydag amrywiaeth hyfryd o siaradwyr o’r adran Fusnes, Peirianneg, ac Addysg!
Yn gyntaf, amlinellodd Eranda Abeysinghe, Darlithydd Cyfrifeg a Chyllid ac Ymchwilydd PhD, bresenoldeb llwyddiannus mewn cynhadledd gyda chymorth gan Wobr Datblygu Ymchwil y Swyddfa Ymchwil. Mynychodd a chyflwynodd Eranda mewn Cynhadledd British Accounting and Finance Association (BAFA) ym mis Gorffennaf y llynedd, y 25ain Gweithdy ar Gyfrifeg a Chyllid mewn Economïau Datblygedig yng Ngwlad Pwyl.
Yn benodol, teitl gwaith ymchwil Eranda oedd `Ymchwiliad i effaith strategaethau rheoli costau cynaliadwy sefydliadau i wella bioamrywiaeth anifeiliaid’, gan gyflwyno adolygiad llenyddiaeth ar astudiaeth achos yn Sri Lanka. Gyda phoblogaeth o 6,000 o eliffantod a 22 miliwn o bobl, mae’r gwrthdaro rhwng bodau dynol ac eliffantod yn flaenoriaeth ar yr agenda; mae colli cynefinoedd yn gwthio eliffantod Sri Lanka i wrthdaro â bodau dynol. Mae busnesau’n cyfrannu at y gwrthdaro, er enghraifft, drwy adeiladu ffensys trydan, gan arwain at ragor o eliffantod yn cael eu hanafu neu eu lladd. Ond, gyda’r boblogaeth ddynol yn cynyddu’n ddi-dor, mae hyn yn arwain at ragor o ardaloedd amaethyddol ac eliffantod yn dewis yr opsiynau bwyd hawdd (Mae Eranda yn tynnu coes eu bod yn hoffi bwyd tecawê, hefyd!)
Yn y gynhadledd, dywedodd Eranda ei fod wedi cael profiad da, a dyna’r gynhadledd dramor gyntaf iddo. Derbyniodd lu o adborth ar ei waith, rhai pethau cadarnhaol, a rhai pethau negyddol, a dysgodd am agweddau newydd i archwilio gwahanol feysydd o’r gwaith.
Yr ail i gyflwyno oedd Dr Yuriy Vagapov, Darllenydd mewn Peirianneg Drydanol, ac fe adroddodd ar bresenoldeb yng Nghynhadledd 59 Peirianneg Pŵer Prifysgolion Rhyngwladol yng Nghaerdydd mis Medi diwethaf. Eto, gyda chymorth gan Wobr Datblygu Ymchwil, cyhoeddodd Yuriy ddau bapur: Profi prototeip o dechnoleg ffan sy’n cael ei lywio gan ymyl ar gyfer gyriant trydanol awyren cyflymder uchel, a Dysg Ymarferol rheoli motor ar sail DSP i fyfyrwyr peirianneg.
Ar gyfer y papur cyntaf, esboniodd Yuriy y rhwystr bach yn eu taith brofi. Mae’r tîm yn ceisio cyrraedd 15,000 o droeon pob munud ar gyfer pob motor o’r ffan a lywir gan ymyl (30,000 o droeon yn gyfan gwbl), ond eu hanawsterau yw trefnu gwrthdroyddion i ddarparu cyflymder uwch. Ar hyn o bryd, mae’r tîm wedi cyflawni 10,000 tro bob munud bob motor, yn golygu 20,000 o droeon yn gyfan gwbl, sy’n gyflawniad anhygoel ynddo’i hun ar gyfer y math hwn o fotor ffan wedi’i batentu! Daliwch ati â’r gwaith da, tîm.
I orffen, cyflwynodd Dr David Crighton â’r teitl, Beth sy’n gwneud blog academaidd da?
(Nid oedd yn gwybod go iawn)
Arweiniodd David ni drwy ei yrfa, gan rannu â hiwmor sut ysgrifennodd yn y gorffennol ar gyfer radio, hysbysebion cylchgronau, sgriptiau, a rhaglen i’r BBC, a’r cwbl heb gael eu defnyddio! Dywedodd David mai elfen allweddol o ysgrifennu yw adrodd stori gymhellol, ac yna aeth yn ei flaen i ddweud wrthym am ei bresenoldeb yn y Gynhadledd Addysg a Moeseg yn Warsaw, a sbardunodd un o’i flogiau.
Trafododd y blog dan sylw y teimlad o fod yn academig dosbarth gweithiol mewn byd dosbarth canol, gan lywio syndrom ffugiwr niweidiol a’r ymdeimlad parhaus o ddim bod yn llwyr berthyn. Un enghraifft o hunan-amheuaeth oedd pan gredodd fod ei gyflwyniad crynodeb i’r gynhadledd wedi’i dderbyn mewn camgymeriad.
Tra yr oedd yng Ngwlad Pwyl, tarodd David ar hap ar berson arall o Lerpwl, a’i osododd ef yn ôl mewn amgylcheddau cyfarwydd a chysurus. Llwyddodd gyflwyniad David yn y gynhadledd, ac nid oedd ôl o’r amheuon; ysgrifennodd fynychwr nodyn iddo ar ddarn o bapur gwastraff yn gofyn iddo rannu ei draethawd ymchwil PhD gan y byddent â diddordeb mawr ei ddarllen.
Gorffennodd David y sgwrs gyda rhai awgrymiadau am ddefnyddio straeon personol a’u defnyddio fel strwythur ar gyfer eich blog. Mae blogio’n rhoi lle i’ch llais, gan alluogi arddull ysgrifennu bersonol a myfyriol.
Diolch i’n holl siaradwyr a mynychwyr ym mis Ebrill - edrychwn ymlaen at eich gweld eto.