Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil – Gorffennaf

Ddechrau mis Gorffennaf, cyflwynodd ein siaradwyr sgyrsiau 6 munud yn sôn am eu prosiectau ymchwil cyfredol. Y siaradwr cyntaf oedd yr Athro Wulf Livingston. Soniodd am brosiect gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â defnyddio canabis. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anelu at gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030: ar hyn o bryd, mae 5% o’r boblogaeth yn smygu.

Yn yr astudiaeth hon, cydweithiodd ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam gyda Phrifysgol Caerfaddon. Cynhaliodd y tîm gyfweliadau ac arolygon ansoddol gydag oddeutu 50-60 o bobl a oedd yn smygu canabis yn rheolaidd. Yn ôl y cyfranogwyr, eu prif reswm dros smygu canabis oedd er mwyn helpu i wella’u hiechyd meddwl, e.e. helpu i ymdopi â gorbryder a phwysau bywyd. Canabis oedd dewis gyffur y boblogaeth hon. Ond er bod canabis yn helpu’r cyfranogwyr, dywedasant hefyd ei fod yn cael effaith anghyson a’i fod yn achosi gorbryder, gan roi eu hiechyd meddwl yn y fantol wrth ei orddefnyddio. Roedd smygu yn hanfodol i’r ffordd y defnyddient y cyffur, yn hytrach na’u bod yn ei ddefnyddio mewn ffordd arall; felly, go brin y byddent yn rhoi’r gorau i smygu.

O ganlyniad, efallai y byddai archwilio ffyrdd o leihau niwed yn strategaeth well o safbwynt iechyd y cyhoedd, trwy fynd ati i reoleiddio’r defnydd o ganabis. Nid oedd y boblogaeth hon, sydd wedi defnyddio canabis ers amser maith, yn sylweddoli y gallai smygu canabis arwain at risgiau iechyd tebyg i smygu nicotin yn unig.

Yna, soniodd Julian Ayres o’r adran Addysg am addysgu ar sail ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam – “O’r Fferm i’r Bwrdd”. Mae’r egwyddor sydd wrth wraidd hyn oll yn golygu creu perthynas rhwng cynhyrchwyr a bwytai, gan anelu at hyrwyddo defnydd o gynnyrch lleol, rhoi cymorth i dyfwyr a chyfrannu at gynaliadwyedd ac ymdeimlad o reolaeth – gwybod o ble y mae ein bwyd yn tarddu.
Fel yr esbonia Julian, “mewn addysg ym Mhrifysgol Wrecsam, er bod ein cysyniadau blaenorol wedi dod dan ddylanwad ysgolheigion allanol, mae’r ffaith ein bod wedi ehangu ymchwil a gwaith doethurol yn ddiweddar yn arwydd o newid. Y dyhead yw y bydd gwaith ymchwil, a seilir ar ein dealltwriaeth o’r gymuned, rhanddeiliaid y brifysgol a nodau’r amgylchedd academaidd, yn cael ei ddefnyddio mewn modd ymarferol a buddiol.”

Roedd y cyflwyniad yn anelu at weld sut y llwyddodd ymchwil ddoethurol Dr Sue Horder (Deon Cyswllt Materion Academaidd yn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd), a gynhaliwyd yn 2019, i lywio’r ymchwil ddoethurol ddilynol a wnaed gan Julian Ayres yn 2023, gan arwain at greu a gweithredu modiwl gwytnwch mewn Addysg Uwch. Nod y modiwl hwn yw helpu i ddal gafael ar fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn 2024, a chynorthwy eu llwyddiant academaidd.

Fe wnaeth ymchwil ddoethurol Dr Horder ddadansoddi dylanwad credau epistemolegol myfyrwyr ac athrawon ynglŷn â’u cysyniadau o addysgu ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y data a ddefnyddiwyd yn cynnwys blogiau myfyriol, adborth gan fyfyrwyr ac athrawon a chyfweliadau. Yn y blogiau myfyriol, bu modd i’r myfyrwyr a’r athrawon fyfyrio’n feirniadol, gan ysbrydoli’r ymchwil ddoethurol ddilynol gan Julian Ayres ynglŷn â dal gafael ar fyfyrwyr a gwytnwch myfyrwyr mewn addysg. Datgelodd trafodaethau gyda Dr Horder gysylltiad arwyddocaol rhwng y dystiolaeth yn y blogiau ac astudiaeth Julian Ayres, gan awgrymu defnydd posibl yn y dyfodol.

Bu’r dull, a gadarnhawyd gan adborth myfyrwyr ac athrawon, yn llwyddiannus o ran meithrin myfyrdodau beirniadol dyfnach, gwella hunanymwybyddiaeth a gwella hunanreolaeth, a hefyd o ran gosod nodau ar gyfer cynnydd academaidd a datblygiad proffesiynol.

Arweiniodd y gwaith ymchwil hwn at dreialu’r dull blogio myfyriol mewn gwahanol fodiwlau yn y brifysgol, yn cynnwys EDS620 Dysgu Proffesiynol ar gyfer Athrawon dan Hyfforddiant TAR ac FY305 Gwytnwch mewn Addysg Uwch a Thu Hwnt ar gyfer myfyrwyr blwyddyn sylfaen, a achredwyd yn ddiweddar gan y brifysgol.

Felly, mae’r dull ‘o’r fferm i’r bwrdd’ yn ffordd o arloesi methodolegau dysgu ac addysgu newydd sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo ein dysgwyr, gan roi eu hanghenion wrth galon a chraidd unrhyw ddull newydd.

Ein trydydd siaradwr oedd Dr Chris White, Darlithydd Iechyd Meddwl a Llesiant, a soniodd am ei ymweliad diweddar â’r Senedd yng Nghaerdydd. Llenwodd Chris ffurflen ‘Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil’ ar-lein (ac atododd ei bapurau ymchwil). Yna, cafodd ei wahodd i gyflwyno tystiolaeth gerbron y Senedd yn ymwneud â’i bwnc arbenigol, sef Teithio Llesol. Rhannodd Chris ei feddyliau ynglŷn â’r ymweliad. Dywedodd fod y sesiwn rwydweithio a gynhaliwyd ar ôl y cyflwyniadau wedi bod yn amhrisiadwy, a’i fod bellach yn aelod o’r pwyllgor Teithio Llesol. Wrth fyfyrio ar wersi hollbwysig ei ymchwil, esboniodd Chris fod gan wahanol ardaloedd safbwyntiau ynglŷn â Theithio Llesol; mae nifer o ardaloedd eisiau cymryd rhan mewn teithio llesol, ond ychydig ohonynt mewn gwirionedd a gaiff eu hannog yn llwyddiannus i ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb. Mae hyn wedi llesteirio cynnydd o ran polisïau Teithio Llesol yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi effeithio ar fuddsoddiad ariannol yn y maes. Mater polisi arall a drafododd Chris oedd y modd y mae Teithio Llesol wedi troi o fod yn bolisi Trafnidiaeth i fod yn fater Iechyd y Cyhoedd. Ond nid yw Teithio Llesol wedi llwyddo’n rhy dda pan gaiff ei gyflwyno yn y fath fodd, a hefyd ceir materion eraill mawr eu heffaith, fel tueddiadau i ganolbwyntio ar drin yn hytrach nag atal. Mae hyn yn golygu bod Iechyd y Cyhoedd wedi cael llai o flaenoriaeth ymhlith y sector iechyd ehangach. Felly, gellid dadlau bod ystyried Teithio Llesol fel mater Iechyd y Cyhoedd yn cyfateb i osod rhywbeth “ar ris isaf un yr ysgol”. Dywedodd Chris wrth grŵp y Senedd y byddai llwybrau cyfrifoldeb cliriach ar gyfer Teithio Llesol yn helpu’n fawr i wrthdroi rhai o’r prosesau hyn.

Mae cyflwyno tystiolaeth i’r Senedd ar ffurf Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn ffordd wych o dynnu sylw aelodau’r Senedd atoch chi a’ch gwaith. Cymerwch gipolwg ar feysydd cyfredol sydd o ddiddordeb.

Y siaradwr olaf yn y Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil oedd Dr Jason Woolley, Darllenydd mewn Cyflogadwyedd a Darlithydd yn y Cyfryngau Creadigol. Soniodd Jason am brosiect ymchwil cyfredol a gynhelir ar y cyd â’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Sweden. Mae Jason yn archwilio effaith y ‘dewis gormodol’ ar gynhyrchu cerddoriaeth, yn enwedig offer digidol wrth recordio; a oes yna ormod o ddewis a gormod o offer ar gael i alluogi cynhyrchwyr i wneud penderfyniadau effeithiol a chyflym yn y gweithle?

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys arbrawf yn y labordy, lle cafodd y cyfranogwyr gyfarwyddyd i greu dau drac, un gyda llif gwaith cyfyngedig (h.y. dim ond 8 o ategion) a’r llall gydag offer diderfyn. Cafodd yr holl gyfranogwyr brofiad o’r ddwy ffordd a chreodd pob un ohonynt ddau drac cerddorol. Yna, dadansoddwyd y traciau gan y tîm ymchwil a chynhaliwyd arolygon ansoddol dilynol. Aeth y tîm i’r afael â rhai ystadegau disgrifiadol, gan ddadansoddi’r data ansoddol yn thematig; gwelwyd bod y cyfranogwyr o’r farn mai’r dull ‘diderfyn’ oedd y dull anoddaf, a bod oddeutu 80% ohonynt o’r farn bod y dull mwy cyfyngedig yn haws. Ond pan ofynnwyd i’r cyfranogwyr pa ddewis oedd orau ganddynt, y dull ‘diderfyn’ a ddaeth i’r brig!

Diolch i’n holl siaradwyr ac edrychwn ymlaen at sesiwn nesaf y Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil.