Seminar Dathlu Ymchwilwyr Ôl-raddedig

Seminar Dathlu Ymchwilwyr Ôl-raddedig  

Ar ddechrau Mai, fe wnaeth rhai o'n Hymchwilwyr Ôl-raddedig gyflwyno eu gwaith ymchwil PhD cyfredol i fynychwyr ein Seminar Dathlu. Cyflwynodd yr Athro Mandy Robbins y seminar wedi i fynychwyr gael paned a chacen, gan gynhesu'r gynulleidfa gyda'i jôcs enwog! 

Y cyntaf i gyflwyno oedd Hanaan Al-Zubadi, Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn Gwyddorau Iechyd Clinigol, wnaeth roi sgwrs ar gytometreg llif. Mae cymhlethdodau ar ôl triniaeth wedi llawdriniaethau cancr y prostad a chancr y bledren, megis heintiau neu waedu yn parhau i fod yn achos pryder mawr, gyda llawer o farwolaethau yn rhai y gellid o bosib eu hosgoi yn flynyddol. Mae Hanaan yn archwilio bioddangosyddion mewn ymgais i adnabod rhai rhybuddion er mwyn osgoi'r cymhlethdodau ôl-drinaeth yma.  

Bydd Hanaan yn recriwtio 20 o gyfranogwyr o bob grŵp (rhai gyda chancr y bledren, neu gancr y prostad) a bydd yn cymryd sampl gwaed ac wrin ar nifer o adegau penodol. Byddant yn cymryd gwaed ar gyfer sgrinio arferol, cofnodi dangosyddion ymfflamychol, gweithrediad celloedd gwyn, a mesurau canlyniadau clinigol i benderfynu p'un a ydym yn gallu rhagweld pwy sy'n fwyaf tebygol o fod mewn peryg wedi llawdriniaeth. Gallai'r gwaith hwn arwain at sicrhau gwell gofal i gleifion ac osgoi cymhlethdodau wedi llawdriniaeth sy'n arwain at afiechyd difrifol. Mae gwaith ymchwil Hanaan ar hyn o bryd yn aros am gymeradwyaeth moesol IRAS BCUHB lleol.   

Nesaf, cafwyd cyflwyniad gan Louise Bosanquet, Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol gyda Tim Wynn o'r grŵp ffocws Outside In. Deilliodd Outside In o'r mudiad anabledd sy'n datgan 'dim amdanom ni, hebom ni', gan nodi bod yn rhaid i waith ymchwil fod yn rymus ac yn creu cydwybod beirniadol. 

Cafwyd sgwrs ganddynt am greu cysyniad o arferion bob dydd o ymwneud mewn addysg gwaith cymdeithasol. Mae cynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn gwaith addysg cymdeithasol yn orfodol ar hyn o bryd, ond does dim un ffordd arbennig o wneud hyn. Mae Outside In, grŵp ffocws defnyddwyr gwasanaeth sy'n cynnwys arbenigwyr yn ôl profiad wedi bodoli ers 2006, ac mae ei aelodau gwerthfawr wedi bod yn ymwneud â'r brifysgol mewn sawl ffordd, o gyfweliadau, eistedd ar baneli, i fod yn aelod o Cyfiawnder: Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol.  

Rhannodd Louise a Tim gerdd o'r enw 'Y Llwybr a gymerwyd gan Outside In', a grëwyd yn ystod gweithdy haf. Fe wnaethant hefyd rannu delwedd o goeden yn cynrychioli Outside In fel astudiaeth achos, oedd yn arddangos system wreiddiau coed oedd yn amsugno amrywiol gysyniadau er mwyn i'r goeden dyfu. Yna, siaradodd Louise am ddulliau ymchwil eu grŵp ffocws a sut fyddent yn defnyddio'r data hwnnw er mwyn cynllunio cwestiynau cyfweld ar gyfer rhannau olaf y gwaith, yn ogystal â rhoi ethnograffeg ar waith a dadansoddi dogfennau ac arteffactau.  

Y trydydd i gyflwyno oedd Kirsty Le-Cheminant, Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn seicoleg, ar 'Archwilio gwerth gweithgareddau rhwng y cenedlaethau ar gyfer plant meithrin ac oedolion hŷn'. Siaradodd Kirsty am eu gwaith gyda meithrinfa Little Scholars Nursery a Memory Makers Café - grwpiau plant ifanc mewn cartrefi gofal a grwpiau cymunedol o oedolion hŷn. Rydym yn wynebu poblogaeth sy'n yn gynyddol heneiddio, a does gan yr oedolion hŷn hynny ddim wastad yr ansawdd bywyd gorau oherwydd problemau iechyd, unigrwydd, neu golled; o ganlyniad, mae angen dulliau newydd i gwrdd â gofynion poblogaeth gynyddol o oedolion hŷn.    

Mae gwahanu ar sail oedran yn gyffredin yn y DU, gyda stereoteipiau yn aml yn bodoli rhwng yr hen a'r ifanc. Fel sy'n cael ei adnabod gan y Theori Cyswllt Rhwng Grwpiau, gall cysylltiad gyda 'grŵp allan' leihau'r rhagfarnau rhwng gwahanol grwpiau. Bwriad Kirsty yw archwilio buddion ac anfanteision i blant oedran meithrin ac oedolion hŷn a chymunedau o gyfranogwyr mewn sesiynau rhwng cenedlaethau. Mae Kirsty'n edrych yn benodol ar unigrwydd, ymdeimlad o gymuned, a lles trwy gynnal arolwg ymhlith yr oedolion hŷn, a hefyd cyfweliadau, arsylwadau a holiaduron ansoddol gyda rhieni.  

Y pedwerydd i gyflwyno oedd Sophia Mitchell, Ymchwilydd Ôl-Raddedig mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, sy'n edrych ar niwroamrywiaeth y system cyfiawnder ieuenctid. Mae eu ffocws ymchwil yn ceisio rhoi cyfrif am drawma a niwroamrywiaeth mewn agweddau at gyfiawnder ieuenctid. Cyflwynodd Sophia rai ystadegau oedd yn dangos y dybiaeth bod traean o bobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol ac nad yw'r prosesau a'r gweithdrefnau presennol wedi eu hadeiladu yn y fath fodd fel bod pobl ifanc gyda ffyrdd gwahanol o feddwl yn gallu cael eu cymryd i ystyriaeth. 

Bydd gwaith ymchwil Sophia yn defnyddio dull lluniadaethol-deongliadol ansoddol, gan ddefnyddio adlewyrchu personol a dadansoddiad thematig er mwyn archwilio'r data a gesglir o gyfweliadau gyda phlant a phobl ifanc, a gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder i'r ifanc. Bydd Sophia yn rhoi'r arfer sy'n seiliedig ar berthnasau ar waith gan ddefnyddio dull wedi'i seilio ar drawma er mwyn archwilio anghenion hygyrchedd y bobl ifanc. Y traweffaith a ragdybir yw cynnydd mewn ymwybyddiaeth o ystyriaethau hygyrchedd a gwell dealltwriaeth o weithio gydag unigolion sydd wedi profi trawma a allai fod yn 'cael mynediad' i'r amgylchedd sy'n seiliedig ar drawma.  

Y nesaf i gyfrannu oedd Katherine Rowlands, un arall sydd ar ei hail flwyddyn fel Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn Seicoleg. Dechreuodd Katherine eu cyflwyniad gyda pheth ymgysylltu gyda'r gynulleidfa gan ofyn i ni p'un ai oeddem ni'n 'codi bawd' neu'n rhoi 'bawd lawr' i rai arogleuon penodol, gan gynnwys petrol, glaswellt, coffi a chŵyd! Roedd yr ymarfer hwn yn ymwneud â phwnc PhD Katherine ar wybyddiaeth arogleuol. Rhoesant gefndir bras ar fyd arogleuon, gan ddatgan bod pedair ffased ynghlwm wrth arogleuo: cemegolion allanol, ffisioleg fewnol, cynrychiolaeth feddyliol fewnol ac ymddygiad dynol yn y byd allanol. Arogl yw'r synnwyr sy'n cael ei esgeuluso, ond mae cynnydd wedi bod yn nifer y papurau academaidd ar y pwnc oddi ar pandemig COVID a'r symptom o golli blas ac arogl.  

Siaradodd Katherine ynghylch mor anodd yw arogl i'w enwi'n ymwybodol neu fod yn ymwybodol ohono, er ei fod o'n hamgylch, ac er gwaetha - neu o bosib oherwydd - y ffaith fod gorgyffwrdd sylweddol rhwng y systemau arogleuol a'r systemau gwybyddol. Mae Katherine yn bwriadu archwilio'r datgysylltiad hwn ymhellach drwy ddatblygu tasgau darllen ar-lein, gan ddefnyddio meddalwedd Gorilla, fydd yn archwilio iaith synhwyrau. 

Ein chweched siaradwr oedd Emma Randles, Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn Gwyddorau Iechyd Clinigol, a chyda'i phwnc ymchwil daeth â ni yn ôl gylch llawn i fio-ddangosyddion. Cyflwynodd Emma ar bwnc bio-dangosyddion ar gyfer darganfod cancr ymledol y bledren heb fod yn y cyhyrau, gan ddangos gwahanol dechnegau ar gyfer echdorri tiwmor yn y bledren (trawswrethra) i'r gynulleidfa. Siaradodd Emma ynghylch sut mae'r prosesau ar gyfer darganfod, trin a gofal ôl-driniaeth ar gyfer cancr y bledren yn gallu bod yn estynnol, ac mae yna broblemau gyda'r dulliau presennol, megis methu dod o hyd i friwiau gwastad yn y bledren.   

Nod Emma yw adnabod bio-ddangosyddion yn seiliedig ar waed ac wrin newydd ar gyfer adnabod cancr y bledren. Gan weithio gydag Ysbyty Maelor yn Wrecsam, byddant angen dewis pa fio-ddangosyddion i ganolbwyntio arnynt yn y lle cyntaf, ac yna gallant gasglu meinwe dros ben, a chymryd sampl gwaed ac wrin dilynol i'w harchwilio yn y labordy.  

Yn olaf, a chan fynd â ni i gyfeiriad hollol wahanol roedd Eranda Abeysinghe, Ymchwilydd Ôl-raddedig mewn Busnes. Mae Eranda yn edrych ar draweffaith strategaethau rheoli costau cynaliadwy.  

Dangosodd Eranda i'r gynulleidfa beth oedd pwysigrwydd y pwnc o safbwynt y gwrthdaro rhwng dyn ac eliffantod, gyda nifer o farwolaethau dynol ac ymhlith yr eliffantod yn deillio o boblogaeth fawr o eliffantod (oddeutu 6,000) yn sychdir Sri Lanka. Gan fod 70% o boblogaeth Sri Lanka yn Fwdhaidd, a chyda system yn seiliedig ar gred o beidio â lladd, mae eliffantod wedi eu hamddiffyn o dan gyfraith Sri Lanka.  

Mae bioamrywiaeth yn chwarae rôl hanfodol yn cynnal cydbwysedd ecolegol systemau, ac mae cwmnïau yn rhoi arian i mewn i amrywiol gynlluniau er mwyn cynnal y cydbwysedd hwn. Mae Eranda yn archwilio sut y gall strategaeth rheoli cost gynaliadwy fwyhau bioamrywiaeth anifeiliaid a diddordeb dynol ar gyfer pobl, y blaned, ac er elw. Byddant yn defnyddio dulliau cymysg, data eilradd, cyfweliadau ac arolygon ar gyfer eu hymchwil.  

Diolch yn fawr iawn i bob un o'n cyflwynwyr rhagorol - roedd yn wych clywed am eich gwaith ymchwil, ac edrychwn ymlaen at ganfod sut fydd eich prosiectau yn dod yn eu blaen dros y misoedd sydd i ddod.