Meddwl awyr las o ymennydd du a gwyn

Light bulb in grains of sand on a beach with blue sky in the background

Dyma fy mlog cyntaf ac yn ei hanfod mae'n teimlo fel pe bai'n mynd yn groes i’r graen o ran yr hyn yr oeddwn i wedi rhagweld y dylai ymchwil fod. Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau.

Roedd fy marn ynghylch ymchwil wrth gychwyn ar fy nhaith fel ymgeisydd MPhil yn unionlin; llunio'r cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar y llenyddiaeth bresennol, cael cymeradwyaeth foesegol, casglu a dadansoddi'r data, ysgrifennu traethawd ymchwil, ceisio cyhoeddi ohono. Roeddwn i'n rhagweld y byddai rhwystrau a gwyriadau i’w goresgyn, ac nid oeddwn yn idealistig o bell ffordd ynghylch rhwyddineb y broses, ond o ran fframwaith ar gyfer beth i'w ddisgwyl, roedd yn gytûn iawn â'm dull trefnus i o feddwl a gweithio – dull a oedd yn cael ei yrru gan broses. Pan ddechreuais i'r prosiect, roedd cyfleoedd ar gael i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil yn ogystal â chyfranogi mewn ffyrdd eraill yn y diwylliant ymchwil ac rwyf wedi cymryd yr amser i fod yn rhan o hynny ym Mhrifysgol Wrecsam a thu hwnt.

Rwyf wedi mynychu a rhoi cyflwyniadau yng nghynadleddau Open House a Springboard ac Engage WU. Rwyf hefyd wedi ehangu ymwybyddiaeth o'm hymchwil drwy gyflwyno yng nghynhadledd Cymdeithas Seicolegol Prydain, symposiwm ar gyfer Cydweithredfa Adeiladu Galluedd Ymchwil (CBSC) Cymru, ac yn Sŵ Caer. Roedd hyn i gyd yn ddefnyddiol i mi, fel mynychwr ac fel siaradwr. Rwy'n ei chael hi'n fwy naturiol mynegi fy ymchwil ar lafar yn hytrach na'i ysgrifennu, ac mae cyflwyno yn rhywbeth rwy'n mwynhau ei wneud. Mae hyn yn dal i fod yn gydnaws â'm syniad i o sut y gallai rhywun ledaenu eu taith ymchwil oherwydd fy mod yn dal i drafod yr un gwaith yr wyf yn y broses o’i greu. Fel mynychwr, cefais flas ar y gwahanol ddulliau yr oedd cyfoedion a chydweithwyr yn eu defnyddio i gyflwyno eu hymchwil. Yr hyn doeddwn i ddim wedi ei werthfawrogi cyn hyn oedd y ffyrdd y gellir cymhwyso creadigrwydd i ymchwil a dyma lle dechreuodd fy marn am ymchwil ehangu.

Two people creating artwork on the floor

Mynychais y gweithdy Celfyddyd Ymchwil a rhoddais gyflwyniad ar gyfer y Gystadleuaeth Ymchwil Delweddu. Roeddwn i wedi gwneud addewid i mi fy hun i 'fod yn gyfforddus i fod yn anghyfforddus' ar ôl cael fy ysbrydoli gan weminar Menywod mewn Arweinyddiaeth a fynychais ac roedd ymdrechion yn seiliedig ar gelf yn y byd academaidd yn gyfle i mi gamu allan o'm parth cysur a gwneud rhywbeth a fyddai'n fy ngwthio i feddwl mewn ffordd wahanol, gan olygu y byddai fy ymchwil hefyd o bosib yn cyflwyno ei hun o safbwynt gwahanol o ganlyniad. 

Roedd y gystadleuaeth Ymchwil Delweddu yn caniatáu i mi ddatblygu naratif i rai o'r canfyddiadau nodedig, ac yn ei dro, fe wnaeth fy ngalluogi i ystyried sut y gallaf ddehongli cyfleoedd ar gyfer ymchwil bellach ar ôl i'r prosiect hwn ddod i ben. 

Nid oedd y drafodaeth ynghylch cael ymchwil gydag effaith yn rhywbeth yr oeddwn i'n teimlo y gallwn uniaethu ag ef o gwbl, roedd yn hyrwyddo syniadau a oedd mewn ffordd yn teimlo fel ‘pitch’ gwerthu wedi’i or-wneud, cysyniadau y priodolir gormod o bwysigrwydd iddynt  sy'n symud i ffwrdd o graidd yr ymchwil - siawns pe bai'r ymchwil yn ystyrlon, byddai'n siarad drosto'i hun? Mae'n ymddangos nad yw. Mae fy mhrofiad wedi bod yn un o dderbyniad annisgwyl a hyd yn oed anogaeth i ymchwilwyr fynd ati i greu o'u hymchwil, gan ddatblygu delweddau, animeiddiad, gweithgareddau a naratifau i danio mentrau newydd a all wneud yr ymchwil yn berthnasol i'r cyhoedd. Wrth fyfyrio ar hyn, roedd yn caniatáu imi weld rhywbeth roeddwn i'n gwybod oedd bob amser ar goll o'm hymchwil i. 

Fe wnaeth y cyfranogwyr a gymerodd ran roi data defnyddiol iawn i mi, ond roedd proffil y cyfranogwyr â’i heriau oherwydd er bod y cyfan ohonynt yn bodloni'r meini prawf i gymryd rhan, roedd un elfen yn sgiwio'r data - cafodd y cyfan eu recriwtio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd drwy Brifysgol Wrecsam yn hytrach na thrwy'r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth ei hun. Roedd hyn yn golygu bod cronfa o rieni a oedd yn defnyddio'r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth ar goll o’r canfyddiadau yr oeddwn yn eu rhannu ac yn bwysicach, roeddynt wedi osgoi cymryd rhan yn yr ymchwil. Cafodd fy mhrosiect ei ariannu'n rhannol gan y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth ac rwyf am i'r gwaith olygu y gall y ganolfan ei ddefnyddio i ddatblygu ei hymgysylltiad â rhieni ymhellach. Gyda hynny mewn golwg, mae'n rhaid i mi fynd â'm meddwl unionlin, wedi'i yrru gan ddull i mewn i ofod mwy creadigol ac ymgysylltu â meddwl 'awyr las'. Roedd rhywbeth a oedd ar un adeg i mi yn gyfystyr â 'gwneud pethau i fyny' wedi dod yn ddull ideolegol o feddwl, er mwyn fy ngalluogi i feddwl yn greadigol am sut y gallaf ddefnyddio fy nghanfyddiadau i ymgysylltu â'r rhieni yr oeddwn i eisiau eu recriwtio ar y cychwyn ond oedd heb ddod ymlaen. Dyma rai syniadau yr wyf wedi'u cael o'r dull mwy creadigol hwn o feddwl:

  • Grwpiau ffocws i rannu fy nghanfyddiadau a gofyn cwestiynau dilynol iddynt a gofyn pam eu bod yn cymryd rhan neu ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y ganolfan?
  • Podlediad, naill ai fel dilyniant gyda chyfranogwyr neu gyda rhieni newydd i drafod eu profiadau wrth adeiladu ar y canfyddiadau cyfredol.
  • Sesiwn ymarferol yn y ganolfan lle mae'r rhieni'n mynychu gweithdy ar feddwl am beth mae gwyddoniaeth yn ei olygu iddyn nhw.

Ar ôl myfyrio, nid yw’r daith hon yn ymwneud â chyflawni'r traethawd ymchwil ar gyfer cymhwyster yn unig, ond yn hytrach, sut y gallaf roi rhywfaint o ddata gwirioneddol i'r ganolfan y gallant ei ddefnyddio i lywio eu dyfodol, ac mae'n rhaid i hyn ddod allan o rywbeth mwy na fy nghanfyddiadau gwreiddiol yn unig. Gall y creadigrwydd y mae'r brifysgol yn ei annog o amgylch eich ymchwil craidd ddod yn fecanwaith ar gyfer hwyluso mwy o ddealltwriaeth ac effaith yn y gymuned yn y byd go iawn.