Rhoi sylw o’r newydd i berthnasedd tystiolaeth: chwalu mythau a chamsyniadau

Awst 2024

Ym mis Gorffennaf roedd erthygl ddiweddar gan Polly Hernandez, Darlithydd yn y Gyfraith, dan y teitl "The revival of evidential relevance: overcoming myths and misconceptions” a gyhoeddwyd yn y Criminal Law Review Journal [Crim. L.R. 2024, 7, 458-470].

Cyflwyniad

Pan fyddwch chi’n meddwl am achosion llys troseddol a'r dystiolaeth a gyflwynir i’w cefnogi mewn achosion o'r fath yn y DU, mae'n debygol eich bod yn ymwybodol o'r egwyddor "perthnasedd." P'un ai yw eich gwybodaeth am berthnasedd y dystiolaeth yn deillio o astudiaethau academaidd, o ddramâu ffuglennol ar y teledu wedi’u gosod yn y llys neu o ffynonellau eraill, efallai eich bod yn ymwybodol bod yn rhaid i dystiolaeth mewn achosion troseddol fod yn "berthnasol" cyn y gellir ei derbyn. Ystyrir bod tystiolaeth yn berthnasol os yw'n "gwneud i’r ffaith sy'n gofyn am dystiolaeth yn fwy neu’n llai tebygol".

Efallai y byddwch yn ystyried bod perthnasedd tystiolaeth wedi hen sefydlu o ran y diffiniad a’r defnydd ohono ledled y system gyfreithiol droseddol, o ystyried ei fod yn cael ei ddefnyddio ers amser ac yn gyffredin. Fodd bynnag, mae erthygl Polly yn archwilio'r syniad hwn, gan awgrymu bod "myth amlwg yn bodoli o ran perthnasedd: myth fod perthnasedd yn fater tystiolaethol "sydd wedi hen sefydlu" nad yw’n peri problemau yn y llysoedd troseddol. "

Fel rhan o brosiect ymchwil a gynhaliwyd gan Polly yn edrych ar berthnasedd tystiolaeth mewn theori ac ymarfer, cynhaliwyd cyfweliadau gydag 20 o fargyfreithwyr troseddol. Mae'r cyfweliadau hyn wedi cyfrannu at y drafodaeth yn yr erthygl ar y ddealltwriaeth o’r prawf perthnasedd, a’r defnydd ohono, sut mae'n gweithio'n ymarferol a'r anghysonderau a ddaeth i’r amlwg. Mae'r erthygl hefyd yn nodi bod y drafodaeth hon yn amserol gan ei bod yn ymwneud â phapur ymgynghori diweddar a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gyfraith ynghylch materion tystiolaethol mewn erlyniadau am droseddau rhywiol. Mae'r papur ymgynghori yn ystyried tystiolaeth o ymddygiad rhywiol, gan gynnig model hidlo tystiolaeth newydd sy'n datblygu'r prawf perthnasedd. Mae rhai o'r anawsterau sy'n ymwneud â "pherthnasedd" yn cael eu hystyried yn yr erthygl, a gelwir ar Gomisiwn y Gyfraith i gydnabod yr anawsterau hyn ac archwilio rheolaethau posibl y gellid eu rhoi ar waith.

Perthnasedd Rhesymegol neu Berthnasedd Cyfreithiol

Ystyrir y cydadwaith rhwng perthnasedd y dystiolaeth a ph’un ai yw’r dystiolaeth yn dderbyniol yn yr erthygl, o gofio nad yw penderfynu ynghylch perthnasedd yn rhoi sicrwydd y bydd y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno a'i hystyried. Mae un math o broses lle mae disgresiwn i eithrio tystiolaeth yn gofyn a yw'r dystiolaeth yn:

  1. Berthnasol
  2. Yn amodol ar reol eithrio
  3. Yn amodol ar eithriad cynhwysol i unrhyw reol eithrio berthnasol

Mae rhan perthnasedd yn y broses dystiolaethol hon yn tynnu sylw at wahaniaeth rhwng perthnasedd tystiolaeth (eitem 1) a ph’un ai y gellir ei derbyn ai peidio (eitemau 2 a 3), a defnyddiwyd y broses hon gan yr awdur yn y prosiect ymchwil a'r erthygl, er mwyn cysondeb ac eglurder.

Yna rhoddir ystyriaeth i'r prawf perthnasedd. Mae dau ddull cyffredin:

  1. Rhesymegol - mae angen sefydlu cysylltiad rhwng y dystiolaeth a'r ffaith dan sylw, yn yr ystyr gyffredinol ac mewn ffordd resymegol.
  2. Cyfreithiol - mae angen sefydlu cysylltiad rhwng y dystiolaeth a'r ffaith dan sylw, yn yr ystyr gyffredinol ac mewn ffordd resymegol ac mae angen iddi hefyd ddangos "gwerth ychwanegol" sy'n "werth tystiolaethol ychwanegol", sy'n golygu y gellir ystyried unrhyw anfanteision o dderbyn y dystiolaeth.

Mae'r erthygl yn nodi bod diffyg ymchwil i sut mae'r prawf perthnasedd yn cael ei ddefnyddio’n ymarferol, yn cynnwys pa brawf y dylid ei ddefnyddio a phryd.

Gan fynd yn ôl at bapur Comisiwn y Gyfraith ynghylch materion yn ymwneud â thystiolaeth mewn erlyniadau o droseddau rhywiol, darperir trosolwg o'r gofynion presennol o ran tystiolaeth sy’n dderbyniol. Manylir na ellir derbyn tystiolaeth o hanes rhywiol oni bai ei bod yn dod o fewn un o bedwar "dehongliad" o dderbynioldeb a'i bod yn bodloni meini prawf eraill. Yn ôl papur Comisiwn y Gyfraith a nifer o'r bargyfreithwyr a gafodd eu cyfweld, mae’r fframwaith presennol yn rhy gyfyngol a chymhleth. Mae papur Comisiwn y Gyfraith yn cynnig symud i ffwrdd o'r safonau eithrio o ran tystiolaeth, sy'n cyd-fynd â newid ehangach o'r safonau eithrio o ran tystiolaeth mewn meysydd eraill o'r gyfraith, i ddull posibl sy'n seiliedig ar berthnasedd y dystiolaeth o ymddygiad rhywiol. Byddai'r dull newydd yn defnyddio "model disgresiwn strwythuredig" gyda phrawf perthnasedd gwell a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r dystiolaeth fod â "gwerth tebygolrwydd sylweddol". Mae hyn yn gogwyddo tuag at y prawf perthnasedd cyfreithiol, fel y manylir uchod. Mae'r erthygl yn galw am ragor o fanylion ynghylch gwerth sylweddol y dystiolaeth fel rhan o'r cynnig diwygio ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd deall y profion ar gyfer perthnasedd, yn enwedig wrth eu defnyddio fel rhan o fframwaith arfaethedig i ddiwygio'r gyfraith.

Gwybodaeth am Safbwyntiau a Dulliau

Trwy gyfrwng cyfweliadau ymchwil gyda bargyfreithwyr cafwyd gwybodaeth allweddol am safbwyntiau a dulliau'r prawf perthnasedd yn y system cyfiawnder troseddol. Roedd consensws cyffredinol ar draws y cyfweliadau gyda'r bargyfreithiwr fod perthnasedd yn "fater tystiolaethol sefydlog a di-broblem" a ddefnyddir yn  gyson.

B14: “Rwy'n credu bod [bargyfreithwyr] i gyd yn gwybod yn eithaf clir beth yw tystiolaeth sy’n Rwy'n credu, o’i roi yn y ffordd fwyaf syml, fod angen i ni ofyn 'ydi'r dystiolaeth yn mynd i helpu’r rheithgor yn seiliedig ar fanylion yr achos penodol?’”

B12: “Os nad yw rhywbeth yn berthnasol, mae hynny fel arfer yn hollol amlwg ... anaml y bydd p'un a yw'n berthnasol ai peidio yn rhywbeth lle mae ansicrwydd mawr.”

Trafodwyd gwahaniaethau posibl o ran canlyniadau, ond ni ddywedwyd bod cysondeb y defnydd a wneir o’r prawf perthnasedd yn broblem:

B2: “Dydw i ddim yn credu bod anghysondeb ynghylch y gyfraith a ddefnyddir. Rwy'n credu, heb os, fod anghysondebau yn y dull a ddefnyddir gan farnwyr a chyfreithwyr, ynghylch a yw rhywbeth yn berthnasol neu beidio.”

B3: “Rwyf bob amser yn ceisio cael gwared ag unrhyw beth sy'n amherthnasol, wyddoch chi, ac nad yw’n glir, dydi pob bargyfreithiwr ddim yr un peth. Efallai y bydd bargyfreithwyr eraill yn dweud 'o rwy’n meddwl bod hynny'n berthnasol iawn' ac rydych chi'n rhyw fath o feddwl 'o wn i ddim.”

Gan ystyried y posibilrwydd o wahanol ganlyniadau, dywed Polly mai "prif thema’r data o’r cyfweliadau oedd rhagdybiaeth ar y cyd bod dealltwriaeth bargyfreithwyr o berthnasedd yn debyg a’u bod yn defnyddio’r un dull wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â pherthnasedd". Awgrymir bod yr ymatebion i bapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith yn debygol o adlewyrchu ymatebion y rhai a gafodd eu cyfweld, gan nodi bod perthnasedd yn gyson a dibynadwy. Fodd bynnag, mae'r data ymchwil a gasglwyd yn herio hyn, gan ddangos sut, ar adegau, y ceir anghysondeb yn y dull o ymdrin â pherthnasedd yn ymarferol.

Dethol

Gofynnwyd i'r 20 o fargyfreithiwr yn y cyfweliadau ddweud a oeddent yn defnyddio’r profion perthnasedd rhesymegol neu gyfreithiol yn ymarferol:

  • Nododd 9 y prawf rhesymegol fel y prawf priodol

B1: “Rwy'n credu bod perygl gwirioneddol yn yr ail un [perthnasedd cyfreithiol] ... Rwy'n meddwl mwy am agwedd ymchwiliol, y broblem sydd gennych chi, ac rydych chi'n gweld hyn yn yr achosion mwyaf difrifol ... rydych chi'n dechrau defnyddio prawf tystiolaethol tybiannol [tystiolaeth], sy’n oddrychol yn y pen draw, ac o safbwynt y person sy'n defnyddio'r prawf tystiolaethol hwnnw ... Nawr yr anhawster yw, os ydych chi'n defnyddio’r prawf tystiolaethol hwnnw, bydd y deunydd hwnnw yn cael ei golli i bob pwrpas, oherwydd ni fydd hyd yn oed yn ymddangos ar yr amserlen ddatgelu ac mae hynny'n creu problem. Oherwydd bod yna wybodaeth nad oeddech hyd yn oed yn gwybod amdani yn mynd i ymddangos yn ddiweddarach ... Felly, byddwn yn gwrthod prawf tystiolaethol, rwy'n meddwl. Ydi o’n rhesymegol, hynny yw, yn berthnasol ... Rwy'n meddwl os ydych chi'n dechrau ... tanseilio ail gam unrhyw fath o brofion tystiolaethol, ac mai prawf perthnasedd yw’r cyntaf, ai’r ail yw tystiolaeth neu ddeunydd nas defnyddiwyd, ai’r trydydd yw ddeunydd nas defnyddiwyd. Ydi o’n sensitif, a oes modd ei datgelu? Ond am y gweddill ac yna gwybodaeth dystiolaethol. Mae hyn... ymhellach i ffwrdd. Rwy'n credu ei fod yn brawf penodol.”

  • Nododd 5 y prawf cyfreithiol fel y prawf priodol

B15: “Fel yr wyf yn ei ddeall, fe fuaswn i'n dweud [perthnasedd cyfreithiol] oherwydd ei fod yn gwneud i chi ganolbwyntio ar gadernid y dystiolaeth, sy'n angenrheidiol. Efallai eich bod yn meddwl bod rhywfaint o dystiolaeth yn berthnasol i rywbeth yn yr achos, yn rhesymegol, ond dydi hynny ddim o reidrwydd yn golygu ei bod yn ddefnyddiol i'r achos.”

  • Labelwyd 6 fel 'arall' gan eu bod yn defnyddio cyfuniad o'r ddau brawf, ddim yn defnyddio prawf neu heb nodi prawf

B2: “Rwy'n credu ei bod yn debygol mai cymysgedd a ddefnyddir yn ymarferol ... Dydw i ddim yn credu bod y rhan fwyaf o bobl yn eu gwaith bob dydd yn meddwl mewn gwirionedd os ydi’r hyn maen nhw’n ei ddefnyddio i benderfynu ynghylch y cwestiwn yn fater o resymeg neu o berthnasedd i brawf cyfreithiol ... yr unig ffordd y maen nhw’n mynd i ddechrau canolbwyntio ar ddiffiniadau cyfreithiol penodol o berthnasedd ... yw os oes rheidrwydd arnynt i asesu dehongliad statudol.”

Roedd dealltwriaeth o'r prawf perthnasedd a'r safbwyntiau ynghylch y prawf priodol yn amrywio rhwng bargyfreithwyr, sy'n gwrth-ddweud yr honiad yn y data bod y ddealltwriaeth a'r dull gweithredu yn gyffredinol ac yn gyson. Mae'r erthyglau'n nodi "Nid beirniadaeth o fargyfreithwyr yw hon nac awgrym o ymarfer gwael, ond mae’n ein hatgoffa o bwysigrwydd deall sut mae profion dewisol - fel perthnasedd - yn cael eu defnyddio’n ymarferol".

Er y gall ymddangos y gallai cynigion diwygio Comisiwn y Gyfraith i gynnwys trothwy gwerth tystiolaethol sylweddol yn y prawf perthnasedd ar gyfer tystiolaeth hanes rhywiol helpu i leihau'r gwahaniaethau sy’n bodoli ar hyn o bryd, mae'r erthygl yn awgrymu nad yw'n mynd yn ddigon pell. Nid yw'r trothwy uwch o ran perthnasedd yn dileu'r dehongliad goddrychol a gelwir ar Gomisiwn y Gyfraith i roi arweiniad a manylion ychwanegol i helpu i sicrhau bod profion perthnasedd yn gyson. 

Defnyddio

Dangosodd y data ymchwil y gall ffactorau eraill, y tu allan i'r prawf perthnasedd, ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau sy'n arwain at anghysondebau pellach. Roedd barnwyr a phartïon eraill yn y  llys yn rhan o'r dylanwad allanol:

B11: “Rwy'n gwybod os ydw i... o flaen barnwr X yna efallai y bydd yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i mi o ran y dystiolaeth rydw i eisiau ei chynnwys yn yr achos, ac yn rhoi amser a chyfle i mi egluro ei gwerth i'r rheithgor. Efallai y bydd barnwr Y yn defnyddio dull mwy brysiog, felly gwn pan fydda i gerbron barnwr Y fod angen i mi ddod at y pwynt a gallai hynny olygu hepgor rhai pethau y byddwn wedi'u cynnwys fel arall.”

B20: “Yn bendant, dydych chi ddim am greu enw ymhlith cydweithwyr fel rhywun sy’n anghytuno â phob darn o dystiolaeth y mae'r erlyniad yn dymuno ei gyflwyno. Byddai hynny'n wrth-reddfol. A siarad yn dactegol, dydi o ddim yn ddoeth i chi fynd yn groes i’r barnwr heb reswm da.”

Yn ôl y datganiadau hyn y gall cwmpas y dylanwad fynd y tu hwnt i'r prawf perthnasedd penodedig, gan nodi eu bod yn "enghreifftiau o themâu a ddaeth i'r amlwg o gyfweliadau ac nad ydynt yn cynnwys y ffactorau sy'n arwain ac yn dylanwadu ar benderfyniadau cyfreithiol ynghylch perthnasedd.”

Casgliad

Rhoddodd y drafodaeth unigryw ar y modd y mae ymarferwyr yn ystyried ac yn defnyddio perthnasedd wybodaeth werthfawr am y ffactorau sy'n dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau. Canfuwyd bod myth amlwg yn bodoli o ran perthnasedd: myth fod perthnasedd yn fater tystiolaethol sydd "wedi hen sefydlu" nad yw’n peri problemau yn y llysoedd troseddol.

Yn ôl y bargyfreithwyr a gafodd eu cyfweld mae’r prawf perthnasedd yn "sefydlog ac yn ddibynadwy" a rhagwelir y bydd y safbwynt hwn yn cael ei fwydo yn ôl i bapur ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar dystiolaeth o ymddygiad rhywiol. Fodd bynnag, mae'r data ymchwil yn dangos yn glir "anghysondebau sylweddol yn nulliau bargyfreithwyr o ymdrin â pherthnasedd, a’u dealltwriaeth o’r mater", gyda dealltwriaeth a’r trothwyon a ddefnyddir yn amrywio yn ymarferol.

Yn yr erthygl manylir bod cynnig Comisiwn y Gyfraith i wella'r prawf perthnasedd, yn tybio bod perthnasedd a natur y prawf tystiolaethol yn glir, bod dealltwriaeth ohono, ei fod yn benodol ac yn gyson. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn dangos nad yw hyn yn wir. Awgrymwyd felly y gallai "canllawiau ychwanegol ynghylch prawf perthnasedd gwell fod yn ychwanegiad defnyddiol at gynnig Comisiwn y Gyfraith i gynorthwyo bargyfreithwyr ymhellach yn y broses o wneud penderfyniadau". Byddai hyn yn cefnogi newid sylweddol tuag at gysondeb ac eglurder. Darllenwch yr erthygl lawn yn y Criminal Law Review Journal