Chwalu’r Distawrwydd: Menywod Awtistig yn Ailddiffinio Hyfforddi a Chynhwysiant yn y Gweithle

Mae Cara Langford Watts yn fyfyriwr ymchwil ôl-radd, yn Seicolegydd Hyfforddi ac yn Gyfarwyddwr cwmni hyfforddi ac ymgynghori sy’n arbenigo mewn hyfforddiant blaengar ar gyfer unigolion niwroamrywiol. Mae Cara wedi cyhoeddi papur sy’n ymchwilio i effeithiolrwydd arferion hyfforddi yn y gweithle o ran ymdrin ag anghenion menywod awtistig.

Mae’r erthygl yn ystyried rhai heriau y daw menywod awtistig ar eu traws yn y gweithle, yn cynnwys gwahaniaethu, adfyd a rhagfarnau systemig sy’n effeithio ar ddatblygiad proffesiynol. Hefyd, sonnir am heriau ehangach a ddaw i ran pobl awtistig, a chydnabyddir ffactorau fel cyfraddau diweithdra uchel, camddiagnosis, yr effaith ar y potensial i ennill incwm a disgwyliadau / rhwystrau cymunedol.

Caiff hyfforddiant arbenigol yn y gweithle ei ddarparu’n eang fel ymyriad galwedigaethol i gynorthwyo unigolion a helpu i fynd i’r afael â heriau yn y gweithle. Ond ni cheir digon o ymchwil yn ymwneud â hyfforddiant yn y gweithle ar gyfer menywod awtistig, felly collir cyfleoedd i wasanaethau a chynorthwyo’r gweithwyr hyn yn well. Er bod gwaith ymchwil o ran effeithiolrwydd hyfforddiant yn y gweithle eisoes wedi ennill ei blwyf, mae ymchwilio i effeithiolrwydd hyfforddiant yn y gweithle ar gyfer unigolion awtistig yn faes cymharol newydd, ac ni chynhwysir rhyw lawer o brofiadau personol gweithwyr awtistig (yn enwedig menywod awtistig) yn y data na’r llenyddiaeth.

Mae’r papur yn ceisio mynd i’r afael â’r bwlch hwn trwy roi cyfle i fenywod awtistig rannu eu profiadau o gael hyfforddiant yn y gweithle.

Y Dull

Casglwyd data ansoddol trwy ddefnyddio sampl cymharol fach, a arweiniodd at sgyrsiau dyfnach yn ystod cyfweliadau lled-strwythuredig. Canolbwyntiodd y sampl ar fenywod yn y gymuned awtistig a chanddynt brofiad o hyfforddiant yn y gweithle o fewn cyfnod amser penodol. Yna, cafodd y canlyniadau eu dadansoddi’n thematig a’u coladu ar ffurf naratif a oedd yn adlewyrchu cwestiynau’r ymchwil, gan gyflwyno’r stori o’r set ddata.

Y Canfyddiadau

Datgelodd naratif y cyfranogwyr brofiadau amrywiol o hyfforddiant yn y gweithle, ochr yn ochr ag anghenion a dymuniadau gwahanol. Tynnwyd sylw at heriau proffesiynol a phersonol yn ymwneud ag awtistiaeth, ynghyd â’r angen i ddeall awtistiaeth yn well a dathlu gwahaniaethau. Hefyd, trafodwyd profiadau amrywiol o hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y niwronodweddiadol.

Yn y tabl canlynol, nodir y themâu a’r is-themâu a ddeilliodd o’r data a ddadansoddwyd:

Tabl 1: Themâu ac is-themâu

Themâu Is-themâu
Profiad bywyd o awtistiaeth. •Perthynas yr hyfforddwr â’r profiad Awtistiaeth.
• Gwybodaeth yr hyfforddwr am Awtistiaeth a’i ddealltwriaeth o anghenion unigryw’r unigolyn.
Cydweddu â diwylliant sy’n cynnwys awtistiaeth. •Ableddiaeth sefydliadol – nid yw hyfforddiant yn ddigon.
• Anwybodaeth ddiwylliannol am hyfforddi.
Nid yw Amrywiaeth yn Nodweddiadol. • Y tu hwnt i fodelau hyfforddi presennol.
• Safbwyntiau cyson o ran awtistiaeth o fewn y maes hyfforddi ac ymchwil hyfforddi.

Profiad bywyd o awtistiaeth

  • Mae’n hanfodol deall profiad bywyd menywod awtistig
  • Y disgwyl oedd y byddai hyfforddwyr â phrofiad o niwroamrywiaeth yn dangos mwy o empathi a dealltwriaeth, ond ni anwybyddwyd effeithiolrwydd posibl hyfforddwyr â phrofiadau niwronodweddiadol yn unig
  • Hefyd, ystyriwyd y rhagfarnau posibl a goleddir gan hyfforddwyr sy’n uniaethu fel unigolion niwroamrywiol a’r rôl a chwaraeodd hyn yn y profiadau

Cydweddu â diwylliant sy’n cynnwys awtistiaeth

  • Roedd yr holl gyfranogwyr wedi dod ar draws stereoteipiau a stigma yn y gweithle. Pan gâi’r elfennau hyn eu cyfuno â rhwystrau eraill yn y gweithle yn ymwneud ag ableddiaeth a rhywedd, arweiniodd y canlyniadau at atal addasiadau rhesymol rhag cael eu rhoi ar waith
  • Mewn rhai achosion, arweiniodd amodau allanol at ‘ableddiaeth wedi’i fewnoli’, ac yn ei dro arweiniodd hynny at amharodrwydd i ddatgelu awtistiaeth, er mwyn osgoi gwahaniaethu
  • Er bod y cyfranogwyr wedi mynegi safbwyntiau cadarnhaol ynglŷn â’r modd y mae hyfforddiant yn y gweithle yn cynorthwyo menywod awtistig, mynegwyd pryderon ynglŷn â’r broses o ran ceisio ‘trwsio’ unigolion er mwyn iddynt gyd-fynd â chymdeithas ableddol

Nid yw amrywiaeth yn nodweddiadol

  • Soniwyd am brofiadau pan fethodd yr hyfforddiant â rhoi ystyriaeth ddigonol i faterion hollbwysig yn ymwneud ag awtistiaeth
  • Cydnabuwyd y dylai hyd ac arddull yr hyfforddiant amrywio, gan ddibynnu ar anghenion yr unigolion – yn hytrach na defnyddio dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’
  • Mae’n bosibl nad yw modelau hyfforddi yn ystyried anghenion menywod awtistig yn y gweithle (nac yn ymdrin ag anghenion o’r fath) oherwydd diffyg profiad bywyd yn yr ymchwil

Mae’r themâu a’r is-themâu yn pennu nifer o fylchau mawr y mae angen mynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau y gellir hyfforddi menywod awtistig yn effeithiol yn y gweithle. Er mwyn gallu darparu diwylliant cynhwysol, mae’n hollbwysig inni nodi a chydnabod cryfderau, gan arwain at fodelau hyfforddi addas i’r diben.

Darllenwch yr erthygl lawn.