Pump ffordd i edrych ar ol eich iechyd meddwl wrth astudio
Dylai’r brifysgol fod yn amser cyffrous, llawn hwyl ar gyfer myfyrwyr. Gwneud ffrindiau newydd a mwynhau profiadau newydd. I lawer, dyma fydd y tro cyntaf ichi fod yn annibynnol. Weithiau fe all yr hwyl stopio a gall y pwysau i gwrdd â therfynau amser a phasio aseiniadau eich llethu. Mae llawer o fyfyrwyr iau yn byw oddi cartref am y tro cyntaf ac mae’n bosib eu bod yn teimlo hiraeth. Gall materion ariannol hefyd beri straen ac iselder, yn ogystal â materion iechyd meddwl eraill.
Fodd bynnag, mae llawer o gymorth ar gael yn y brifysgol ac mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig gwasanaeth cwnsela am ddim. Mae eich tiwtor personol hefyd ar gael i’ch cynorthwyo ac i fod yn glust i wrando pan fo angen.
Dyma bump ffordd i chi edrych ar ôl eich iechyd meddwl tra’ch bod chi yn y brifysgol:
-
Gofynnwch am gymorth – Peidiwch â dioddef yn dawel. Mae yna bobl sydd yno i’ch helpu. Nid dim ond yno i’ch helpu’n academaidd mae’ch tiwtor personol. Maent yno i’ch cefnogi ym mha bynnag ffordd sydd ei angen. Byddant yn gallu cynnig gwybodaeth ar gymorth i gael mynediad ac os bydd angen estyniad ar gyfer eich gwaith cwrs, fe allant hwyluso hyn. Maent yn deall. Hefyd defnyddiwch y gwefannau a’r llinellau cymorth sydd ar gael.
-
Sefydlwch drefn – Bydd hyn o gymorth o ran rheoli’ch amser a bod yn effeithiol. Gall gosod amser deffro/cysgu hefyd fod yn dda i chi. Lluniwch amseroedd astudio penodol a gwnewch yn siŵr bod eich nodau yn rhai realistig. Yn bwysig iawn, cofiwch gymryd seibiant yn rheolaidd.
-
Edrychwch ar ôl eich corff – Peidiwch ag yfed gormod o gaffein, alcohol neu ddiodydd egni am eu bod yn bethau sydd yn gallu cynyddu gorbryder. Bwytwch ddiet gytbwys a gwnewch amser i wneud rhyw fath o ymarfer corff i bwmpio’r endorffinau o amgylch y corff .
-
Trefnwch amser ‘i fi’ – Mae gorffwys ac ymlacio yn bwysig iawn er mwyn osgoi llwyrlosgi. Sicrhewch eich bod yn rhoi amser i wneud pethau sydd yn rhoi boddhad i chi. Mae edrych ar ôl eich hunan yn hanfodol o ran iechyd meddwl da.
-
Cysgu – Mae’n rhaid ichi gysgu i adfywio a thrwsio’ch corff. Mae diffyg cwsg yn cyfrannu’n fawr iawn at orbryder ac iselder. Nid yw pawb angen yr un faint, ond rhaid iddo fod yn gwsg o ansawdd, ac yn ddi-dor.
Llinellau cymorth cyfrinachol
- Y Samariaid - 116 123 (DU)
- Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl neu’ch bod yn cefnogi person arall, ffoniwch SANEline ar 0300 304 7000
- Os ydych chi dan 25, ffoniwch The Mix ar 0808 808 4994
- Os ydych chi dan 35 ac yn dioddef gyda theimladau hunanddinistriol, neu’n pryderu am berson ifanc sydd yn dioddef, ffoniwch Papyrus HOPELINEUK ar 0800 068 4141
Gwefannau
SANE Elusen Iechyd Meddwl
MIND Elusen Iechyd Meddwl
Student Minds Elusen Iechyd Meddwl i Fyfyrwyr
Students Against Depression (Am wybodaeth a chyngor)
Ysgrifennwyd gan Natalie Roberts, myfyriwr BSc mewn Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Wrecsam.