Creu mewntrepreneuriaid academaidd anfoddog?
Mewntrepreneur, enw, cyflogai sydd wedi'i ddewis i ddatblygu syniad neu brosiect arloesol o fewn cwmni.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Dr David Crighton o'r adran Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam a Dr William Shepherd o Brifysgol Gorllewin yr Alban gyhoeddi papur ar rolau newidiol darlithwyr prifysgol. Y dyddiau yma, mae darlithwyr o dan bwysau cynyddol i weithredu fel 'mewntrepreneuriaid' (intrapreneurs') yn eu sefydliadau, gan arwain at amharodrwydd neu ddiffyg brwdfrydedd i fabwysiadu arferion newydd.
Cefndir
Mae tirwedd addysg uwch wedi'i lywio gan gyfalafiaeth academaidd, h.y. y symudiad tuag at arferion sy'n cael eu gyrru gan y farchnad, a mabwysiadu egwyddorion busnes. Heddiw, mae prifysgolion yn wahanol iawn i'r hyn oeddent pan gawsant eu sefydlu, sef sefydliadau a arferai fod yn freintiedig ac yn darparu addysg oedd yn gyfyngedig i rai oedd yn gallu ei fforddio. Mae'r symudiad o fod yn fodel addysg uwch cyfyngedig i fod yn fodel cynhwysol wedi creu heriau a chyfleoedd i fyfyrwyr a phrifysgolion fel ei gilydd. Mae wedi ehangu mynediad ar gyfer myfyrwyr a oedd cynt heb gyfle i astudio, er ei fod ar gost ariannol bersonol. I brifysgolion, mae dadreoleiddio a chael gwared ar gapiau myfyrwyr wedi galluogi twf, ond y mae hefyd wedi cyflwyno ansicrwydd o ran ariannu oherwydd cystadleuaeth yn y farchnad. Mae hyn yn sylfaenol yn annog dull neo-ryddfrydig o fewn y sector, lle mae myfyrwyr yn cael eu hystyried yn ddefnyddwyr, a phrifysgolion yn ymateb iddynt felly.
Neo-ryddfrydiaeth
Mae neo-ryddfrydiaeth yn annog atebolrwydd yr unigolyn, ac mewn theori yn grymuso pobl i ddylanwadu ar y nwyddau a'r gwasanaethau maent yn eu derbyn. O fewn addysg uwch, mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn ariannu eu hastudiaethau eu hunain drwy ffïoedd a'u bod yn gweld eu haddysg fel buddsoddiad, sydd, o bosib, yn symud deinameg addysgu a dysgu. Mae prifysgolion yn cystadlu er mwyn recriwtio myfyrwyr, sy'n alinio gyda'r duedd o ganolbwyntio ar berthnasedd y farchnad o ran sgiliau. O ganlyniad, mae darlithwyr yn cael eu gorfodi i rôl anfoddog y mewntrepreneur, lle mae cwmpas eu gwaith yn cael ei reoli gan yr angen am greu refeniw a boddhau anghenion y defnyddiwr.
O Academydd i Fewntrepreneur Anfoddog
Er mwyn goroesi o fewn amgylchedd o fod dan bwysau cynyddol mewn sefydliadau addysg uwch, mae'n rhaid i unigolion addasu i strategaethau prifysgol. Gall hyn fod yn heriol i rai academyddion. Gyda phwysau i arddangos gwerth ariannol a chwrdd â thargedau anacademaidd yn gysylltiedig gyda recriwtio myfyrwyr ac ariannu ymchwil, mae'n bosib y byddant yn teimlo'r angen i gymryd agwedd entrepreneuraidd tuag at eu rôl oherwydd bod rheidrwydd i wneud hynny yn hytrach nag o ddiddordeb gwirioneddol.
Mae'r newid hwn yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i staff academaidd, gan y gall nodweddion entrepreneuraidd megis cymryd risgiau a chreadigrwydd gynyddu arferion academaidd traddodiadol, o bosib. Darllenwch y papur llawn.
Ymchwil Pellach
Ar hyn o bryd mae'r tîm wrthi'n datblygu'r gwaith ymchwil hwn drwy astudiaeth ansoddol ar y cyd rhwng yr Alban a Chymru gyda'r bwriad o adnabod gweithgareddau mae darlithwyr yn eu hystyried i fod â ffocws academaidd neu fasnachol. Tra'n archwilio elfennau o gyfalafiaeth academaidd, y prif nod yw deall i ba raddau y mae mabwysiadau nodweddion entrepreneuraidd yn gallu gwella arferion academaidd.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda â David.crighton@wrexham.ac.uk