Springboard: Hyrwyddo Cynhwysiant mewn Ymchwil ac yn y Gweithle
Torri drwy’r Ffiniau: Llywio drwy Gamwahaniaethu mewn Ymchwil Ôl-raddedig – Safbwynt Punjabi Indiaidd Prydeinig
Yn agor Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig a Staff Springboard eleni roedd Shivani Sanger, myfyriwr PhD mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol sy’n arbenigo mewn anthropoleg fforensig. Cyflwynodd Shivani ei hun fel menyw Punjabi Indiaidd ail genhedlaeth a gofynnodd gwestiwn pwysig i’r gynulleidfa – pan fyddwn ni’n ein cyflwyno ein hunain, oes raid i ni ddweud beth yw ein hethnigrwydd? I bobl wyn, yr ateb pob amser yw ‘nac oes’.
Esboniodd Shivani nad oedd hi wedi profi camwahaniaethu erioed yn Llundain, y ddinas o le mae hi’ hannu, ond wedi iddi symud i ardal arall i wneud ei gradd meistr, roedd rhai unigolion penodol wedi trin Shivani yn annheg – triniaeth oedd yn gamwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Roedd y gweithredoedd hyn gan bobl mewn grym wedi newid cwrs bywyd Shivani am eu bod wedi ei hatal hi rhag symud ymlaen ar hyd llwybrau gyrfaol penodol yr oedd ganddi gymwysterau gwych ar eu cyfer ac wedi cael effaith negyddol sylweddol ar iechyd meddwl Shivani a’i hopsiynau ar gyfer y dyfodol.
Roedd Shivani’n ceisio canfod ymhle roedd hi’n perthyn drwy’r amser a pha gyfeiriad i’w gymryd gyda’i gyrfa. Cychwynnodd gyda hyfforddiant Ffisegol Cyswllt, Gwyddoniaeth Feddygol Fforensig, a symudodd ymlaen i Osteoarcheoleg Ddynol.
Cafwyd cam mawr ymlaen pan aeth Shivani i gyfarfod yr Academi Gwyddoniaeth Fforensig Americanaidd yn America lle lleisiodd ei siomiant â’r diffyg amrywiaeth yn y gymdeithas a’r panel. Mae hyn wedi arwain at newid araf a graddol mewn cynhwysiant; mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ond mae Shivani yn dod yn ei blaen yn wych erbyn hyn gyda’i PhD ym Mhrifysgol Wrecsam. Daeth â’i sgwrs i ben gyda dyfyniad gan Martin Luther King, oedd yn berffaith i roi ei sgwrs mewn persbectif.
Deall Niwroamrywiaeth | Cinio a Dysgu
Rhannodd Adjust eu harbenigedd mewn ymgynghori a hyfforddi ym maes niwroamrywiaeth mewn sesiwn cinio a dysgu. Rhoddwyd diffiniad o niwroamrywiaeth i ddechrau a chrynodeb o rai o’r niwrodeipiau sy’n perthyn i’r term ymbarél hwnnw, yna symudodd y sesiwn ymlaen i roi esboniad gan ddefnyddio cymhariaeth â ‘Cactws’:
Bydd cactws sy’n cael ei dyfu mewn amgylchedd diffaith gyda digonedd o haul, maint bychan o law a’r maetholion cywir yn y tir, yn tyfu a ffynnu. Ond, os byddwch yn codi’r cactws hwnnw gyda’i wreiddiau a’i blannu mewn gardd gefn yn Wrecsam heb ryw lawer o haul, llawer iawn o law a’r maetholion anghywir yn y pridd, bydd y cactws yn cael trafferth tyfu a ffynnu.
Gallwn ddefnyddio yr un egwyddor wrth sôn am bobl. Yn yr amgylchedd cywir, gyda’r cymorth a’r adnoddau cywir, gall bobl ffynnu a blodeuo.
Edrychodd y sesiwn ar stereoteipiau, cryfderau a heriau’r setiau sgiliau sydd gan bobl â dyslecsia, awtistiaeth ac ADHD. Cafwyd trafodaethau hefyd am rai o’r arloeswyr a’r cyfranwyr mwyaf mewn hanes, yn cynnwys Walt Disney, Alan Turing, Elon Musk, Albert Einstein a Leonardo da Vinci. Ystyriwyd bod eu syniadau newydd hwy wedi codi o niwroamrywiaeth. Ystyriaeth olaf y sesiwn cinio a dysgu oedd sut y gallwn greu gweithleoedd niwro-gynhwysol sydd o fudd i bawb.
Gwasanaethau Cynhwysiant – Cefnogi Myfyrwyr sydd â Niwroamrywiaeth
Dywedodd Sarah Roberts a Rachel Jones o’r Gwasanaethau Cynhwysiant wrth y gynulleidfa am y cyngor ac arweiniad arbenigol sydd ar gael a’r ffaith mai un o’r prif bethau yr oeddent yn canolbwyntio arnynt oedd galluogi trosglwyddiad esmwyth i’n myfyrwyr o addysg bellach i addysg uwch. Mae’r gwasanaeth a gynigiant yn cynnwys asesiad a chymorth gyda’r Lwfans Myfyrwyr Anabl, sy’n wasanaeth mewnol a ariennir gan gynllun bwrsari’r GIG. (Cafwyd rhai newidiadau’n ddiweddar am yr hyn y gellir ei ariannu, felly cysylltwch ag un o’r tîm os ydych yn ansicr sut i gynghori eich myfyriwr).
Siaradodd y ddwy ymhellach am fentora arbenigol, a sut mae ganddynt staff a thiwtoriaid dysclesia mewnol sy’n gallu hyfforddi myfyrwyr mewn materion penodol, ond sydd hefyd yn helpu gydag anghenion iechyd meddwl ehangach. Mae’r tîm hefyd yn cysylltu ag amrywiol adrannau ar draws y brifysgol ar faterion hygyrchedd fel ystadau, llety a rhannau eraill o Wasanaethau’r Myfyrwyr.
Er nad oes raid i fyfyrwyr ddatgelu anabledd neu angen, a does dim rhaid iddyn nhw ymgysylltu, siaradodd y tîm ynglŷn â pha mor bwysig yw ceisio eu cefnogi nhw gyda lle maen nhw arni. Rhoddwyd enghraifft o arfer da gan y fframwaith OIA (Beirniaid Annibynnol Swyddfa) – creu modiwlau cynhwysol sy’n darparu gwahanol fathau o asesiad er mwyn cael ffordd sy’n debygol o weithio i bawb. Mae hyn yn cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd, sy’n nodi mai’r amgylchedd sy’n peri’r anabledd.
Cyflwyniad i Irlens a chael effaith gadarnhaol ar daith y myfyriwr
Yn y sesiwn hon, aeth Nettie Thomas â ni drwy’r ffyrdd posibl y mae pobl gydag Irlens (neu wahaniaethau prosesu o ran eu golwg) yn gweld testun ar dudalen, yn arbennig os yw’n destun du ar gefndir gwyn. Dangosodd Nettie eu Delwedd Ymchwil Delweddu o gefndir gwyn gyda thestun du – roedd yn edrych fel petai gan y dudalen swigod awyr oddi tani oedd yn gwneud i’r geiriau chwyddo a chyfuno, a’u gwneud yn anodd iawn eu darllen.
Prif neges Nettie yn y fan yma oedd mai un cam cyntaf mawr a hawdd fyddai peidio defnyddio testun du ar gefndir gwyn. Mae’n newid syml y gall staff ei ddefnyddio yn eu gwaith addysgu ac ysgolheigaidd, ond gallai helpu darllenwyr y geiriau’n enfawr. Cwestiwn diddorol gan un o’r gwylwyr ar y diwedd oedd beth fyddai’r lliw delfrydol i’w ddewis, ond dywedodd Nettie fod pob person yn wahanol, ac mai’r ffordd orau o ymdrin â hyn yw drwy ddarparu’r defnyddiau i gyd mewn fformatau y gellir eu golygu. Yna gall bobl newid cyflwyniadau a dogfennau i’w dewis liw.
Dathliad Brecwast Diwylliannol
Roedd nifer dda iawn ohonoch wedi ymuno â ni i gael brecwast diwylliannol blasus iawn am ddim yn United Kitchen! Diolch Aramark am y dewis o fwydydd a ddarparwyd. Cawsom churros a burritos Mecsicanaidd, smwddis amrywiol, crempogau Americanaidd, frittatas Sbaenaidd a chaws pob Cymreig! Gwych.
Menywod mewn STEM yng Nghymru
Wedi i Maria agor prif ddiwrnod y gynhadledd, rhoddodd Dr Louise Bright o Brifysgol De Cymru gyflwyniad llawn gwybodaeth i ni am yr ymraniad rhywiau mewn pynciau STEM o’r ysgol hyd ei safle presennol fel Deon Cyswllt mewn Addysg Uwch.
Dangosodd Louise ystadegau eglur iawn am y ffordd y mae merched yn perfformio’n well na bechgyn yn yr ysgol mewn pynciau STEM, a’r ffordd y mae’r pynciau hyn ar waelod y rhestr o yrfaoedd i fenywod, sy’n mynd yn bennaf i mewn i’r proffesiynau gofalu. I ddynion, fodd bynnag, roedd peirianneg ar frig y rhestr gyda’r proffesiynau gofalu ar y pen isaf.
Rhannodd Louise ei phrofiadau personol hithau o weithio ei ffordd drwy ei gyrfa addysg bellach, gan ddechrau gyda PhD. Roedd Louise yn unig iawn fel myfyriwr ymchwil yn gweithio mewn ysbyty, heb rwydwaith o fyfyrwyr eraill o’i hamgylch i gymdeithasu â nhw neu i drafod y broses ymchwil â nhw. Parhaodd yr unigedd yma pan oedd Louise yn y gwneud ei doethuriaeth, ac roedd yn ei rhwystro hi rhag gwybod am brofiadau arferol pob dydd o fod yn academydd, fel cael ei gwrthod pan oedd yn ceisio cyllid. Felly, roedd hyder Louise yn isel ac roedd hi’n ei hamau ei hun, a dewisodd ochr-gamu i yrfa reoli broffesiynol.
O ganlyniad i brofiadau Louise ei hun, a’i hymwybyddiaeth o natur menywod mewn pynciau STEM, sefydlodd rwydwaith ym Mhrifysgol De Cymru, ac yn ddiweddarach, ehangodd hwnnw i Rwydwaith Menywod mewn STEM Cymru, sy’n cynnwys Cymru gyfan.
Darganfod Disgwrs ac Amrywiaeth
Agorodd Hayley y sesiwn hon drwy siarad am y ffordd y mae geiriau a rolau yn ein rhoi ni mewn sefyllfaoedd grymus a breintiedig a dywedodd fod angen i ni ddadansoddi ein hiaith i sicrhau ein bod yn gweithio mewn ffyrdd sy’n gwrthwynebu gwahaniaethu.
Esboniodd Hayley beth yw ystyr ‘disgwrs’, sef ffyrdd adeiladol a chynhyrchiol sefydledig o siarad, lle mae’r geiriau a ddefnyddiwn yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn ymateb i’n gilydd, yn meddwl, yn siarad ac yn darllen. Nod y fethodoleg o ddadansoddi disgwrs yw “gwneud y cyfarwydd yn ddieithr”, hynny yw, canolbwyntio ar ymadroddion arferol sydd efallai’n hynod o rymus neu’n portreadu negeseuon negyddol. Gallai fod yn bryd dod o hyd i opsiynau eraill.
Yna, cyflwynodd Hayley nifer o gerddi i ni, gan ofyn i’r gynulleidfa ddarllen a rhoi sylwadau am eu cynnwys. Roedd un o’r cerddi hyn yn cyfleu’r syniad bod diffyg cydbwysedd grymus hyd yn oed yn niffiniadau’r geiriaduron o eiriau. Y thema oedd du/gwyn a sut mae’r ddau air hyn , a’r pethau maen nhw’n eu cynrychioli, yn tueddu i ffafrio’r rhai sydd mewn grym bob amser: y bobl wyn. Mae’r rhain yn ymadroddion pob dydd y mae pobl yn eu defnyddio yn eu bywydau dyddiol, ond dydyn nhw ddim yn poeni’r rhan fwyaf o bobl fel arfer am nad yw’r bobl hynny yn y grŵp a orfodir i deimlo fel ‘y lleill’.
Sesiwn Hyfforddi am y Siarter Cydraddoldeb Hil
Wedi i ni gael un neu dau o anawsterau technegol (roedd yn siŵr o ddigwydd rywbryd!), aeth Yasmin ac Ali ati i dywys y cyfranogwyr drwy Fodiwl 1 yr Hyfforddiant Staff am y Siarter Cydraddoldeb Hil. Amlinellwyd ychydig o egwyddorion ar gyfer trafodaeth lle mae’r ddwy ochr yn eu parchu ei gilydd, yna dechreuodd yr hyfforddiant gyda throsolwg hanesyddol o ffactorau sydd wedi dylanwadu ar ideolegau hiliol.
Nesaf, symudodd y sesiwn ymlaen i ganolbwyntio ar hiliaeth mewn perthynas â’r cyd-destun AU, sy’n gallu ymddangos mewn amrywiaeth o ffyrdd, o lefel yr unigolyn hyd lefel y sefydliad. I gefnogi’r enghreifftiau hyn o hiliaeth wedi’i ymwreiddio, rhoddwyd dyfyniadau o’r Arolwg am Gydraddoldeb Hiliol i Staff a Myfyrwyr.
Aeth y sesiwn ymlaen i archwilio hiliaeth ymhellach yn y cyd-destun AU, gan gysylltu â chyfansoddiad grŵp hiliol ein prifysgol, lle mae swyddi’r arweinwyr uwch i gyd wedi’u gwneud gan bobl wyn. Yna symudwyd ymlaen i gyflwyno ‘croestoriadedd’. Gorffennodd y tîm gyda chrynodeb byr o’r hyn y mae ein prifysgol yn ei wneud er mwyn symud ymlaen ac ymdrin â’r hiliaeth sydd wedi ei adeiladu i mewn i seiliau sefydliadau addysg uwch drwy’r Siarter Cydraddoldeb Hil.
Iaith wedi ei hysbysu gan Drawma : Caffi Diwylliant
Arweiniodd Tegan ein hail Gaffi Diwylliant ar Iaith wedi’i Hysbysu gan Drawma. Soniodd am y ffordd y byddai’r drafodaeth a syniadau sy’n codi o’r sesiwn yn cael eu defnyddio mewn dogfen arweiniad newydd ar gyfer gwneud Ymchwil wedi’i Hysbysu gan Drawma.
Ar ôl edrych yn sydyn dros y rheolau perthnasol, rhoddodd Tegan drosolwg i ni o agweddau wedi eu hysbysu gan drawma a phwysigrwydd defnyddio iaith wedi’i hysbysu gan drawma. Yna roedd yn rhaid i ni ateb nifer o gwestiynau yn ymwneud ag iaith sensitif mewn grwpiau ac adrodd yn ôl.
Yr Hyn sy’n Werthfawr i ni – ystyriaethau i academyddion sy’n ymgysylltu ag arbenigwyr drwy brofiad mewn addysgu ac ymchwil
Yn y sesiwn hon, daeth Outside In i ymweld â’r Brifysgol. Grŵp ffocws yw hwn sy’n cynnwys arbenigwyr trwy brofiad, ac roeddent yn siarad am yr elfennau y maen nhw’n eu gwerthfawrogi yn yr academyddion sy’n gweithio gyda nhw. Yn aml iawn, maent wedi eu galw nhw’n ‘llyfrgell ddynol’ am fod ganddynt gymaint o brofiad ac arbenigedd mewn pynciau a materion y bydd staff yma yn ei addysgu neu’n ymchwilio iddo. I academyddion sydd eisiau osgoi ystumiau gwag, mae Outside In yn grŵp hynod o werthfawr i’w gynnwys mewn ymdrechion academaiddd gyda myfyrwyr a staff.
Bingo Cymraeg
Arweiniwyd y Bingo Cymraeg gan Teresa Davies (oedd yn ei gyhoeddi yn Saesneg hefyd!) yn Undeb y Myfyrwyr a chafodd rhai ohonoch eich gwobrwyo gyda danteithion melys a gwin! Diolch i bawb a ddaeth.
Dathlu Gwahaniaeth – Sut mae’r celfyddydau’n codi ymwybyddiaeth o EDI
Rhoddodd Alec a Tracey gyflwyniad gyda darluniau o’r ffordd y cododd y celfyddydau ymwybyddiaeth o EDI – roedden nhw’n ymdrin â phrosiect diweddar yn Nhŷ Pawb gyda’r elusen iechyd meddwl KIM Inspire, lle’r oedd gwirfoddolwyr wedi datblygu lle gwyrdd ar do’r hen faes parcio.
Ymchwil Cydweithredol ar Les Pobl Ifanc nas Clywir yn Aml (15-21 oed)
Rhoddodd Dr Leighann Ryan Culleton, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Wrecsam, sesiwn lawn gwybodaeth am y rhaglen Youthreach, ymateb Llywodraeth Iwerddon i rai sy’n ymadael â’r ysgol yn gynnar, i roi cyfleoedd i bobl ifanc gael hyfforddiant a chynhwysiant cymdeithasol. Yna bu Leighann yn trafod ymchwil i’r rhaglen Youthreach i gael gwell dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc.
Iechyd LHDTC+ a goblygiadau ar gyfer gwaith ymchwil
Daeth Joy Hall, Athro Ymweld mewn Nyrsio, yn ôl i Brifysgol Wrecsam i roi sgwrs ar ystyriaethau iechyd LHDTC+ ar gyfer ymchwil. Bu Joy yn profi ein gwybodaeth gyda chyfres o osodiadau ‘cywir’ ac ‘anghywir’ yn ymwneud â materion iechyd pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol neu draws, gan ddatgelu ffeithiau diddorol iawn. Yna, cyflwynodd Joy ystadegau i ddangos mor ddifreintiedig oedd y gymuned hon mewn perthynas â materion iechyd penodol am amryw resymau; er enghraifft, gall pobl LGDTC+ fod ofn gofyn am ofal iechyd, mae ganddyn nhw iechyd meddwl gwaeth, ac maen nhw’n fwy tebygol o ddatblygu canser serfigol, yr anws neu’r fron.
Gorffennodd Joy drwy esbonio beth oedd y goblygiadau ar gyfer gwaith ymchwil gyda grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’, gan amlinellu newidynnau sy’n croestorri, fel pryder proffesiynol ymchwilwyr, rhyngweithiau, hanes, straen bod yn y lleiafrif a chroestoriadedd. Ei phrif neges oedd: dyfalbarhewch! Mae angen gwneud mwy o ymchwil gyda’r grwpiau hyn, ac er ei bod hi’n heriol sicrhau recriwtiaid, ni ddylem roi’r ffidil yn y to.
Ystyriaethau Ymchwil Cyfranogol
Rhoddodd Wulf gyflwyniad ar bwnc y mae wedi hen arfer ag o – ymchwil cyfranogol. Dechreuodd gyda myfyrdodau am ei daith a’r gwersi a ddysgwyd, gan bwysleisio nad oedd hon yn sesiwn ‘sut i wneud hyn’ ond yn hytrach ‘beth i’w ystyried’. Yna esboniodd Wulf beth yw ymchwil cyfranogol a phethau i’w hystyried o fewn eich prosiect ymchwil eich hun os byddwch chi eisiau cychwyn ar daith ymchwil cyfranogol eich hun.
Staff niwroamrywiol yng Ngrŵp Ymchwil Addysg Uwch y DU
Rhoddodd Gwen grynodeb o gynlluniau’r tîm ymchwil i wneud nifer o brosiectau ar niwroamrywiaeth sydd newydd ennill cymeradwyaeth foesegol. Ymysg y rhain mae Diwrnod Digwyddiadau, a fydd yn gofyn barn amrywiaeth o bobl sy’n dod â newidiadau yn y brifysgol; cyfweliadau gyda staff gwasanaethau proffesiynol ac academyddion niwroamrywiol, yn rhai sydd â chyfrifoldeb rheolwr llinell a rhai sydd heb gyfrifoldeb o’r fath; ac ymchwil awtoethnograffig sy’n cynnwys hunan-fyfyrio gan y tîm ymchwil.
Mae’r grŵp ymchwil wedi sicrhau grant yn ddiweddar hefyd, gan y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfaoedd Cynnar, a fydd yn ariannu’r Diwrnod Digwyddiadau.
Archwilio profiadau rhieni a gofalwyr o wasanaethau gofal a chymorth i’w plentyn sydd ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru
Amlinellodd Dawn Jones sut yr oedd ei gwaith ymchwil yn dod yn ei flaen. Mae’n waith ymchwil sydd wedi ei ariannu gan Welliant Cymru i brofiadau rhieni a gofalwyr o’r cymorth a roddir i’w plant sydd ag anableddau dysgu. Dyma’r ail brosiect gan Dawn am y maes astudio yma. Y tro hwn, mae Dawn yn arwain grwpiau ffocws ar-lein er mwyn dod i ddeall yn iawn beth yw barn pobl am ansawdd y profiadau cymorth (neu ddiffyg cymorth) o fewn y tirlun gofal cymdeithasol.
Datgloi Potensial: Llywio Niwroamrywiaeth yn y Gweithle Addysg Uwch
Cafwyd galwad o Sbaen gan Caro Gorden, a fu’n darllen Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn ddiweddar ym Mhrifysgol Wrecsam. Rhoddodd gyflwyniad personol a llawn gwybodaeth am lywio ei ffordd drwy niwroamrywiaeth mewn Addysg Uwch. Siaradodd Caro am ei phrofiad o ddod i ben ei thennyn oherwydd ei bod yn gaeth i’w gwaith, yn ceisio ymdopi â niwroamrywiaeth oedd heb ei ddarganfod, ac yn wynebu digwyddiad bywyd heriol ar ben hynny. Achosodd hynny oll i Caro wneud y penderfyniadau gorau a allai iddi hi a’i theulu, felly ymadawodd ag Addysg Uwch a bellach mae hi’n Anogwr llawrydd gyda Neurodirections.
Siaradodd Caro am ei ADHD ei hun, a hefyd cyfeiriodd at Awtistiaeth yn y gweithle, gan dynnu sylw at rai o’r heriau allweddol y mae pobl yn gallu eu hwynebu. Hefyd, awgrymodd ddulliau y gallai pobl eu defnyddio i ymdopi â galwadau prysur gweithle AU, yn ogystal â sut i gael gafael ar Access to Work ac asiantaethau preifat eraill.
Un o brif negeseuon cyflwyniad Caro oedd bod yn rhaid i weithleoedd gael eu llenwi â charedigrwydd a bod â diwylliant gwrthfwlio cryf, oherwydd gall un person lygru’r amgylchedd gweithio cyfan. Cafwyd llawer o negeseuon cefnogol yn y sgwrs ac roedd nifer o bobl yn teimlo cysylltiad â nifer o’r pethau a ddywedwyd.
Cefnogi Niwroamrywiaeth ym Mhrifysgol Wrecsam
Yn y sesiwn hon, rhoddodd Rose Norton a Stacey Ledger grynodeb penodol i ni o’r hyn y mae Prifysgol Wrecsam yn ei gynnig i gefnogi ei staff niwroamrywiol. Cychwynnodd y ddwy gyda chwis Kahoot byr am niwroamrywiaeth, a’r bobl gyda’r bysedd cyflymaf a enillodd!
Yna rhoddodd y tîm drosolwg byr o niwroamrywiaeth a thrafodwyd pwy y gallai unigolion fynd atynt yn y brifysgol os bydden nhw angen cymorth neu le i aros; roedd y bobl hyn yn cynnwys rheolwyr llinell, adnoddau dynol, partneriaid busnes adnoddau dynol, iechyd galwedigaethol a’r rhaglen cymorth i weithwyr cyflogedig. Siaradodd Rose a Stacey am y cynllun Mynediad at Waith, a dogfen arweiniad i staff sydd ar y gweill, Un neges allweddol i’w chymryd adref oedd, siaradwch â phobl a gofynnwch am y pethau rydych eu hangen, oherwydd ni all y brifysgol eich helpu os nad ydyn nhw’n gwybod!
Y canfyddiad gan bobl eraill unwaith y mae’n amhosib bellach i guddio amrywiaeth oddi wrth y normaledd derbyniol
Rhannodd Dr Carey Pridgeon ei stori bersonol am fod yn wahanol a chael ei drin yn annheg drwy’r ysgol ac yn ei amrywiol rolau yn y gweithle. Mae Carey yn eistedd ar Bwyllgor Moeseg y Brifysgol yn awr ac yn mwynhau’r ffaith bod Prifysgol Wrecsam yn gwerthfawrogi ei gyfraniadau.
Cloi’r Gynhadledd ond beth nesaf… lansio’r Rhwydwaith Staff
Caeodd Fran Thomason y gynhadledd drwy roi crynodeb o’r wythnos, o’i chalon, a dweud ei bod yn edrych ymlaen at weld sut y gallwn ni fel prifysgol fod yn well gydag EDI. Yn ei sleid gyntaf roedd yn ei chyflwyno ei hun mewn ffordd gwbl hygyrch: enw, rhagenwau, teitl swydd, disgrifiad gweledol, gwybodaeth am fynediad, dod i fy adnabod i, a sut rwy’n teimlo heddiw.
Siaradodd am thema’r gynhadledd, oedd yn hyrwyddo amgylchedd diogel, teg a chroesawgar i ddathlu ein gwahaniaethau ein gilydd a grymuso unigolion, ond hefyd yn myfyrio ar ffyrdd o wneud cynadleddau’r dyfodol mor gynhwysol ag y bo modd. Ystyriaethau ar gyfer y tro nesaf: cynnwys mwy o’r iaith Gymraeg, ystyried iaith arwyddion a dolenni clyw, rhoi disgrifiad o gynllun ystafelloedd, ac ati.
Yn olaf, siaradodd Fran am lansio’r rhwydwaith staff niwroamrywiol a’r rhwydwaith staff niwrogynhwysol – ffordd wych o orffen yr wythnos! Diolch yn fawr i bawb a gyfranodd at roi’r digwyddiad ar waith. Os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith niwroamrywiol sy’n pennu eu hunaniaeth eu hunain, neu’r rhwydwaith niwrogynhwysol sy’n agored i bawb, cysylltwch â Fran neu’r Swyddfa Ymchwil.