SUT I WNEUD I’CH BENTHYCIAD I FYFYRWYR FYND YMHELLACH

Gall y tro cyntaf ichi dderbyn taliad benthyciad i fyfyrwyr i’ch cyfrif banc fod yn foment arbennig.

I rai pobl, dyma fydd y tro cyntaf ichi gael cymaint o arian yn glanio yn eich cyfrif banc ar yr un tro, felly mae’n hawdd mynd dros ben llestri a gorwario yn yr wythnosau cyntaf hynny.

Ond hyd yn oed os ydych chi’n ofalus gyda’ch arian o’r cychwyn cyntaf, gall pethau fynd yn go dynn yn gyflym iawn. Gyda benthyciadau cynnal oddeutu £9,250 y flwyddyn ar gyfartaledd (mae hynny’n llai na’r lleiafswm cyflog ar gyfer swydd lawn-amser), talu am eich llety a phrynu bwyd, hawdd gweld o ble ddaeth ystrydeb y myfyriwr tlawd.

Ond peidiwch ag anobeithio – gall hyd yn oed y rhai hynny sydd heb daliadau hael gan fanc mam a dad wneud i’w benthyciad i fyfyrwyr fynd ymhellach gyda rhywfaint o gynllunio a’r awgrymiadau hawdd yma i’w dilyn.

Peidiwch â phrynu’ch holl werslyfrau

Os ydych chi’r math o berson sy’n hoffi paratoi, fel yr oeddwn i yn y brifysgol, mae’n bosib y byddwch chi am fynd allan a phrynu popeth sydd ar y rhestr ddarllen hyd yn oed cyn ichi eistedd i lawr ar gyfer eich darlith gyntaf. Peidiwch, da chi.

Mae gwerslyfrau yn bethau eithaf drud, felly arbedwch eich arian a phrynu dim ond y rhai hynny yr ydych chi wirioneddol eu hangen. Gofynnwch i’ch darlithiwr unwaith i’r cwrs ddechrau pa rai yn eu barn nhw sy’n hanfodol ac ychwanegwch nhw at eich rhestr siopa. Mi fedrwch chi fenthyg unrhyw rai eraill o’r llyfrgell.

Mae hi hefyd yn werth gwirio os oes angen yr argraffiad diweddaraf arnoch chi – bydd argraffiadau hŷn yn llawer rhatach. Mae’n bosib hefyd y byddwch yn gallu cael gafael ar rai ohonynt yn ail-law, boed hynny gan fyfyrwyr o flynyddoedd blaenorol neu ar wefannau fel eBay.

Yna, ar ddiwedd y flwyddyn, os nad ydych eu hangen mwyach, gwerthwch nhw ymlaen.

Traciwch eich gwario

Bydd yr holl restrau yma am reoli eich arian yn cynnwys argymhelliad i gyllidebu, ond yn sicr haws dweud na gwneud yw hynny. Diolch byth, mae sawl ap a gwasanaeth ar gael sydd yn eich helpu i gadw llygad ar eich gwario a chanfod ffyrdd o dorri lawr.

Rydw i’n hoff iawn o Yolt - sydd yn cydamseru gyda fy nghyfrif banc ac yn categoreiddio fy holl wariant er mwyn imi fedru gweld yn union ble mae fy arian yn mynd. Mae hi braidd yn ddychrynllyd y tro cyntaf ichi wirio a sylweddoli cymaint rydych yn ei wario yn McDonald’s a Deliveroo, ond mae o wedi fy helpu i ffrwyno fy ngwario.

Coginiwch

A sôn am Deliveroo, mae bwyta allan yn tynnu’n drwm ar eich arian, yn enwedig os yw hynny’n digwydd yn rheolaidd. Mae dysgu coginio nid yn unig yn sgil bywyd pwysig, mae’n ei gwneud hi hefyd yn llawer haws i arbed arian.

Os ydych yn byw mewn neuadd breswyl, mi fyddwch yn rhannu gyda grŵp o bobl, ac fe allech hi rannu’r coginio gyda nhw. Cymerwch eich tro i goginio ar gyfer eich gilydd rai dyddiau’r wythnos, y ffordd berffaith i adeiladu cyfeillgarwch. Hefyd, mae’n llawer haws coginio ar gyfer pedwar person nag yw hi ar gyfer un, felly hyd yn oed os byddwch chi’n bwyta ar eich pen eich hun, coginiwch fwy nag sydd ei angen arnoch a rhowch y gweddill yn y rhewgell. Drwy wneud hynny, byddwch yn gallu rhoi bwyd cartref da yn y ficrodon ar ddyddiau pan nad oes gennych chi awydd i fynd ati i goginio. Dim trafferth o gwbl!

 

Prynwch yr hanfodion

Mae yna lawer o ryseitiau syml ar gyfer amrywiaeth eang o brydau, ond mae ’na rai bwydydd sylfaenol y byddwch eu hangen bob tro. Swmp-brynwch y rhain, rhannwch nhw gyda gweddill y bobl yn eich fflat a bydd gennych chi brydau rhad iawn am wythnos. Yn fy mlwyddyn gyntaf, fe wnaethom ni brynu bag enfawr o datws o farchnad am ychydig o bunnoedd a bwyta tatws drwy eu crwyn am fisoedd.

Dyma ichi rai hanfodion i’ch rhoi chi ar ben ffordd:

  • Bag mawr o basta - mae’n para am byth, felly fydd ddim rhaid ichi boeni ei fod o’n mynd tu hwnt i’w ddyddiad. Mae’n gyflym, yn hawdd a phwysicaf oll, yn rhad. Mae’r un peth yn wir am reis.
  • Nionod - mi fydd ‘na nionod mewn bron popeth wnewch chi mewn saws. Os nad ydych chi am brynu’n ffres am nad ydych yn siŵr pa mor aml fyddwch chi’n eu defnyddio nhw, prynwch fag o nionod wedi eu torri a’u rhewi. Mae’r un peth yn wir am arlleg, ond mi wnaiff pen garlleg bara sbel go dda i chi.
  • Ciwbiau stoc – sail dda i bob saws
  • Llysiau wedi rhewi – wnân nhw ddim mynd yn ddrwg, ac mi fydd gynnoch chi lysieuyn iach unrhyw adeg.
  • Pizza wedi rhewi - os yw hi’n anodd cadw draw o’r siopau cludfwyd, mae hwn yn ddewis amgen rhad a hawdd. Mae’n coginio mewn llai o amser nag mae’n cymryd i un mwy drud ddod at y drws. Hanfodol ar gyfer argyfwng pen mawr wedi noson allan! 
  • Olew llysiau – ar gyfer coginio. Rhad iawn a hawdd eu rhannu gyda gweddill y fflat.
  • Tomatos mewn tun - unrhyw beth mewn tun a dweud y gwir. Yn enwedig os nad oes lawer o le yn y rhewgell.
  • Pasta/nwdls cyflym - weithiau does gennych chi ddim awydd coginio ac mae angen rhywbeth sydyn arnoch chi. Prynwch y stwff paced (yn hytrach ha phot) a bydd gynnoch chi fwy o le yn y cwpwrdd hefyd.

 

Rhowch stop ar yr hen arfer siopa ’na

Ydach chi wir angen y pâr newydd yna o ’sgidiau? Yr uchelseinyddion yna?  Beth bynnag arall ddaliodd eich llygad? Yr ateb, mae’n debyg, yw nad ydych chi. Ond nid yw hi fawr o hwyl dweud na wrth bob cysur, felly os oes gennych chi rywbeth drud mewn golwg, gwnewch yn siŵr bod lle ar ei gyfer yn eich cyllideb chi.

Ond nid dim ond y pethau drud sy’n gallu’ch baglu chi - meddyliwch am y pethau bychain rydych yn eu prynu’n aml - mae’r rheiny’n cronni’n gyflym iawn. Pethau fel prynu eich cinio pob dydd yn hytrach na dod â rhywbeth o’r tŷ, neu ddewis un neu ddwy eitem ychwanegol yn yr archfarchnad.

Wrth gwrs, fedrwch chi fyth stopio gwario’n gyfan gwbl. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi gerdyn NUS i gael disgownt myfyrwyr mewn ystod o siopau, ac ymunwch ag Unidays i siopa ar-lein. Chwiliwch am y bargeinion gorau - mae gwasanaethau fel Spotify ac Amazon Prime yn cynnig disgownt i fyfyrwyr, felly fe allech chi arbed cryn dipyn o arian os ydych yn  defnyddio’r rhain yn rheolaidd.

Ond cofiwch, nid yw cael ugain y cant oddi ar eitem gostiodd £100 yn golygu’ch bod chi wedi arbed £20 - mae’n golygu’ch bod chi wedi gwario £80. Byddwch yn gall gyda’ch cyllideb!

Rhowch y gorau i ysmygu

Ni fydd hyn yn berthnasol i bawb, ond os ydych chi yn ysmygu, yna efallai mai dyma yw’r amser i feddwl o ddifri am roi’r gorau iddi. I mi, fe wnaeth byw ar gyllideb myfyriwr yr hyn na lwyddodd yr holl rybuddion iechyd ei wneud – ar gyllideb o £60 yr wythnos, ‘doedd gwario £30 ar sigaréts ddim yn ymarferol bosib. 

Dewch o hyd i’r cyfrif banc gorau i fyfyrwyr

Mae ‘na lwythi o gyfrifon banc ar gael ar gyfer myfyrwyr, gyda’r banciau yn awyddus i’ch denu chi yn y gobaith y dewch chi’n gwsmer am oes. Bydd rhai yn cynnig pethau am ddim, fel cerdyn trên i fyfyrwyr, a bydd eraill yn cynnig cymhelliannau ariannol gwych.

Mae gan wefan MoneySavingExpert.com restr dda o gyfrifon banc i fyfyrwyr ac amodau pob un, felly byddwch yn gallu gweld yn gyflym iawn pa un fydd yn gweithio i chi. Peidiwch dim ond edrych ar faint y gorddrafft di-log, edrychwch faint o amser fydd gennych chi i’w dalu, a faint o log fydd raid ichi ei dalu ar eich balans unwaith ichi orffen astudio.

Gwaith rhan-amser

Fe all sicrhau incwm rheolaidd ochr yn ochr â’ch benthyciad myfyriwr fod yn help mawr pan ddaw hi’n ddiwedd pob tymor. Mae ein gwasanaeth gyrfâu a chyflogaeth yn hysbysebu rhai swyddi gwag, ond mi fedrwch chi ddefnyddio gwefannau fel Indeed i ganfod gwaith rhan-amser.

Wrth ddweud rhan-amser, dyna yn union rydym yn ei feddwl – rydych yn y brifysgol i astudio, felly os yw eich swydd yn mynd â’ch holl amser rhydd, mi welwch chi ei bod hi’n llawer anoddach sicrhau’r graddau sydd gennych chi mewn golwg.

Mae’n bosib hefyd y medrwch chi ennill rhywfaint o arian ychwanegol fel llysgennad myfyrwyr.

Siaradwch gyda’n tîm cyllido myfyrwyr

Mae gennym ni dîm pwrpasol wrth law i’ch helpu gydag ystod o faterion cyllido. O helpu i reoli eich cyllideb i gyngor ar ysgoloriaethau, nhw yw’r bobl i fynd atyn nhw os oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch arian.

Awgrymiadau ychwanegol:

  • Mae archfarchnadoedd disgownt yn gyfaill i chi – os ydych chi ar ein prif gampws yn Wrecsam, mae yna siop ALDI ar draws y ffordd ym Mhlas Coch.
  • Gwnewch arolygon sy’n talu arian.
  • Dewch yn siopwr cudd
  • Defnyddiwch Freecycle i gael gafael ar nwyddau am ddim gan bobl leol
  • Ydy’ch cytundeb ffôn chi ar fin dod i ben? Bargeiniwch fel y coblyn - dydy’r rhwydweithiau ddim am eich colli chi, felly fe wnân nhw ostwng eu prisiau yn aml, fel “disgownt ffyddlondeb”
  • Edrychwch am bethau i’w gwneud am ddim – amgueddfeydd, orielau, traethau, yr awyr agored – mae ‘na lwythi o bethau i’w gwneud yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a’r cyffiniau sydd yn rhad ac am ddim
  • Peidiwch â mynd ar gyfyl benthyciadau diwrnod cyflog – os bydd angen ichi bontio’r bwlch rhwng eich cyfrif banc a’r rhandaliad benthyciad nesaf, dewch i siarad gyda’n tîm cyllido am gymorth
  • Gwerthwch eich hen bethau, CDs, DVDs, gemau, dillad – os ydyn nhw dal mewn un darn yna gwerthwch nhw.
  • Archebwch docynnau trên ymlaen llaw am bris gostyngedig - neu beth am brynu tocynnau ar wahân ar gyfer gwahanol rannau o’r daith i leihau’r gost (gall TrainSplit helpu)