Mentro: Ymgeisio am PhD
Gan Kirsty Le-Cheminant
Wrth i mi sgrolio ar-lein rhyw ddiwrnod, sylwais fod yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam yn hysbysebu swydd Cymhorthydd Addysgu Graddedig (CAG). Fel cyn-fyfyriwr o’r brifysgol, roeddwn yn chwilfrydig a chliciais i ddarllen y swydd ddisgrifiad. Gwelais fod disgwyl i ymgeiswyr, ochr yn ochr â’r swydd CAG, ymgeisio am PhD. Roeddwn yn ansicr, o ddarllen y meini prawf ar gyfer PhD, a oedd fy nghymwysterau’n bodloni’r gofynion, ond cefais f’annog i ymgeisio beth bynnag, oherwydd does wybod!
Erbyn y pwynt hwn, roedd y dyddiad cau yn agosáu. Felly, dechreuais weithio i gwblhau fy nghais ac ysgrifennu cynnig ymchwil. Roeddwn wedi bod allan ohoni ers blwyddyn erbyn hynny, ond fe ddaeth y cyfan yn ôl unwaith i mi ddechrau ysgrifennu a chefais f’atgoffa cymaint rwy’n mwynhau astudio. O’r tri maes o ddiddordeb a ddarparwyd i ddewis ohonynt ar gyfer cais ymchwil PhD, dewisais y testun oedd o’r diddordeb mwyaf i mi a chefais syniad ynghylch sut i ymchwilio iddo. Ar y cam hwn, syniad yn unig oedd y cynnig ac er bod y maes testun wedi aros yr un fath, mae fy syniad prosiect wedi newid ychydig. Roedd terfyn ar y nifer o eiriau, felly anelais i ysgrifennu cynnig cryno oedd yn cynnwys yr holl adrannau perthnasol a nodweddion pwysig cynnal prosiect ymchwil cadarn, gan ddefnyddio’r arweiniad a roddwyd ochr yn ochr â’r cais ac wrth gwrs y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod ngradd israddedig, gan fynd i’r afael â’r dasg fel petai’n aseiniad.
Yna cefais gynnig cyfweliad. Dyma’r cam lle dechreuais boeni. Nid wyf erioed wedi bod yn un hyderus mewn cyfweliad, felly dechreuais baratoi drwy gysylltu ag aelod o’r tîm a enwyd fel cyswllt ar y gwahoddiad i’r cyfweliad, roedd yn braf bod yn ôl mewn cysylltiad â’r tîm a chael sgwrs am y swydd a beth i’w ddisgwyl yn y cyfweliad. Y cam nesaf oedd cysylltu â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Mae’r tîm Gyrfaoedd yn cynnig gwasanaeth gwych y byddwn yn ei argymell i unrhyw fyfyriwr neu gyn-fyfyriwr sydd angen cymorth wrth wneud cais am swydd neu wynebu cyfweliad. Cefais gyngor gwych ganddynt ynghylch y math o gwestiynau i baratoi ar eu cyfer, yn enwedig cwestiynau cyffredinol yn ymwneud â’r brifysgol. Roedd yn rhaid i mi baratoi cyflwyniad 10 munud hefyd yn ymwneud â chyfrannu’n ehangach yn y brifysgol; roeddwn yn falch fy mod wedi paratoi’n dda gan i dechnoleg fy siomi ar y diwrnod!
Yn ystod y cyfweliad, gofynnwyd i mi sut y byddwn yn rheoli f’amser rhwng y swydd CAG ac astudiaethau PhD. Wrth gwblhau fy ngradd israddedig, roeddwn yn gwneud dwy swydd gan fy mod yn fam i ddau o blant. Roeddwn yn hyderus wrth egluro bod fy astudiaeth a fy mhrofiad gwaith blaenorol wedi bod yn llwyddiannus a fy mod wedi llwyddo i gyflawni gradd dosbarth cyntaf ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill. Mae bodloni terfynau amser wedi bod yn flaenoriaeth gen i erioed er mwyn cadw ar flaen tasgau amrywiol. Daeth fy nghyfweliad PhD ffurfiol yn ddiweddarach, ac roedd hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar drafod fy nghynnig ymchwil, er enghraifft egluro rhesymeg y prosiect, rhai o’r theorïau y byddai fy mhrosiect yn seiliedig arnynt, a’r fethodoleg.
Wnes i erioed amau fy awydd i barhau â’m hastudiaethau felly roedd ymgeisio am PhD yn gyffrous. Roeddwn wedi osgoi rhuthro’r cam nesaf ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig, ac rwy’n falch o hynny gan ei fod wedi golygu bod gen i nawr gyfle i weithio fel CAG wrth gwblhau fy PhD, sy’n gyfle gwych i mi. Rwyf wedi cael y cyfle i ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau ymchwil drwy gydol fy nghyfnod yn y Brifysgol ac rwy’n awyddus i ddilyn fy niddordeb mewn ymchwil. Drwy’r broses ymgeisio am PhD rwyf wedi dysgu, er ei bod hi’n bwysig bod yn drefnus a pharatoi, mae hi hefyd yn iawn i gymryd un dydd ar y tro, mentro, ac archwilio cyfleoedd wrth iddynt godi.
Dysgwch fwy ynghylch ymgeisio am Radd Ymchwil