TROSEDDWYR: YDYN NHW’N CAEL EU GENI NEU EU GWNEUD?

A beth am lofruddwyr? Beth am blant sydd yn lladd plant eraill? Ydyn nhw’n cael eu geni’n ddrwg neu eu gwneud felly?

Chwefror 12fed 1993: y diwrnod pan newidiodd y system cyfiawnder troseddol am byth a’r ffordd y maent hwy, a chymdeithas, yn trin plant a phobl ifanc.

Ar y diwrnod yma, fe wnaeth dau fachgen deng mlwydd oed; Jon Venables a Robert Thompson, gipio, arteithio a lladd bachgen bach dyflwydd oed, James Bulger.

Nid dyma oedd y tro cyntaf i blentyn gael ei ladd gan blentyn arall, ac nid ychwaith y tro olaf. Ond roedd yna rywbeth am yr achos yma a wnaeth i’r cyhoedd fynnu dial, mynnu cosbau mwy llym a mwy difrifol. 

Anghofiwyd am oed y ddau gyflawnodd y drosedd, ac roedd sgyrsiau neu gwestiynau oedd yn ceisio mynd at graidd pam y byddai dau blentyn deng mlwydd oed yn gwneud y ffasiwn beth yn cael eu tawelu’n gyflym. Y consensws oedd bod y plant yma wedi eu geni’n ddrwg. Roedd y cyfryngau yn rhedeg penawdau yn gofyn i ddarllenwyr a gwylwyr wirio a oedd gan eu plant hwythau hefyd ‘farc y diafol’ arnynt. Fel nododd sawl ymchwilydd cymdeithasol, roedd plentyndod wedi ei daflu i sefyllfa o argyfwng. Roedd y syniad o ddiniweidrwydd plentyndod wedi ei daflu ymaith, ac er gwaethaf eu hoed, gwnaethpwyd y penderfyniad i gyhoeddi eu henwau a’u lluniau.  

Roedd gwleidyddion yn dadlau bod rhaid inni fod yn gadarn gyda phobl ifanc, er gwaethaf sut fywyd cartref oedd ganddynt; mewn gwirionedd, clywsom y dylem ‘gondemnio ychydig mwy, a deall ychydig llai’. Felly roedd y ffaith i Jon Venables a Robert Thompson eu hunain gael eu hystyried i fod yn ‘blant mewn angen’, y ffaith bod gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu wedi dod i mewn i’w bywydau ar fwy nag un achlysur, y ffaith bod y ddau wedi dioddef mwy nag un math o gamdriniaeth, yn cyfrif am ddim. Gwrthodwyd y syniad bod cymdeithas wedi eu gadael i lawr.

Ond beth am achos Sharon Carr, a enillodd y llysenw ‘Merch y Diafol’? Dim ond 12 mlwydd oed oedd Sharon pan drywanodd ddieithryn llwyr mewn parc yng ngolau dydd yn 1992. Dynes 21 mlwydd oed oedd ei dioddefwr ac roedd yr ymosodiad mor ffiaidd a’r anafiadau mor ddifrifol, nes i’r heddlu gredu mai dyn yn ei lawn dwf oedd yr ymosodwr. Oherwydd yn gamdybiaeth yma, ni chafwyd Sharon yn euog o’r llofruddiaeth yma nes iddi gael ei harestio ar ôl iddi ymosod a cheisio lladd person arall pan oedd hi’n 14 mlwydd oed. Ar ôl yr arestiad, daeth yr heddlu o hyd i ddyddiaduron niferus o law Sharon oedd yn dogfennu’r awydd fu ganddi am flynyddoedd lawer i gyflawni ymosodiadau o’r fath, gyda datganiadau fel ‘fe ges i fy ngeni i fod yn llofrudd’. ‘I mi mae lladd yn gymaint o wefr ac mae o’n gwneud i mi deimlo mor uchel, dydw i byth isio dod i lawr. Pob nos rydw i’n gweld y Diafol yn fy mreuddwydion - weithiau hyd yn oed yn fy nrych, ond rwy’n sylweddoli mai dim ond fi sydd yna’.

Beth, os oes rhai o gwbl, yw’r gwahaniaethau rhwng y ddau achos yma? A gafodd bob un o’r plant yma eu geni’n ddrwg? Neu a gawsant eu gwneud yn ddrwg? Pam i un achos ei bennu’n waeth na’r llall? A fedrwn ni ddysgu sut i weithio gyda phlant a phobl ifanc o’r fath i hwyluso gwir adferiad? A fedrwn ni atal troseddau o’r fath rhag digwydd?

Dyma rai o’r materion y byddwn yn eu harchwilio a’u trafod yn ein a’n rhaglen BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

 

Ysgrifennwyd gan Dr Karen Washington-Dyer, Darlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.