Graddio 2024

Bydd graddio yn digwydd ar ein campws yn Wrecsam dros dridiau, dydd Mercher, Mai 29 – dydd Gwener, 31 Mai.    

Bydd yr achlysur hwn yn cynnwys seremoni ffurfiol lle byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan yn Neuadd William Aston i ysgwyd llaw â'r Is-ganghellor. Dilynir hyn gan ddathliad ar ffurf gŵyl, a fydd yn cynnig lle y tu allan i graduands a'u teuluoedd i ymlacio a chymysgu â'i gilydd. Bydd adloniant byw, gemau awyr agored, amrywiaeth o gyfleoedd tynnu lluniau gwahanol, dewis eang o stondinau bwyd, bar a llawer mwy i chi eu mwynhau 

Cliciwch yma i weld yr uchafbwyntiau o ddathliadau'r llynedd.

Hamperi Te Prynhawn

Mae detholiad o hamperi te prynhawn cartref/wedi’u gwneud â llaw ar gael i chi eu harchebu ymlaen llaw drwy wefan Ede & Ravenscroft (Cliciwch ar opsiynau hamper isod am fanylion). Bydd rhan o’r lawnt flaen yn llawn byrddau picnic a blancedi lle gallwch chi a’ch gwesteion eistedd a mwynhau eich te prynhawn. 

Content Accordions

  • Opsiynau Hamper

    Hamperi te prynhawn: 

    • Hamper Plant (i un) - £12.95 
    • Hamper Gwanwyn Clasurol (i un) – £19.35 
    • Hamper Llysieuol (i un) - £19.35 
    • Hamper Figan (i un) - £19.35 
    • Hamper Gwanwyn Clasurol (i ddau) – £29.25 
    • Hamper Llysieuol (i ddau) - £29.25 
    • Hamper Figan (i ddau) - £29.25

    Hamper gwanwyn clasurol (i un £19.35, i ddau 29.25) 

    Tarten Sawrus Coesyn Ham a Chaws Cheddar Aeddfed 

    Wyau Selsig Traddodiadol 

    Rhôl Selsig Traddodiadol 

    Rhôl Selsig gyda Chaws a Phicl 

    Sgons Llaeth Enwyn 

    Hufen Tolch Rodda’s 

    Jam Mefus 

    Cacennau Moron 

    Cacen Llus, Banana a Cheuled Lemwn 

    Cacen Dorth â Gwlith Lemwn

    Hamper llysieuol (i un £19.35, i ddau 29.25) 

    Tarten Sawrus Caws a Chennin Sifi 

    Wyau Selsig Llysieuol 

    Rholiau Enfys 

    Sgons gyda Hufen Tolch a Jam Mefus 

    Cacennau Moron 

    Cacen Dorth Llus a Banana 

    Cacen Dorth â Gwlith Lemwn 

    Hamper figan (i un £19.35, i ddau 29.25) 

    Sgons Figan 

    Potiau o Jam Mefus 

    Menyn figan 

    Torthau Litshi a Rhosyn 

    Torthau Cacen Moron 

    ‘Wyau’ Selsig Betys yr Enfys 

    Rholiau Enfys 

    Tarten Sawrus Madarch a Pherlysiau

    Hamper i blant (i  un £12.95) 

    Sgon Llaeth Enwyn 

    Pot o Hufen Tolch Rodda’s 

    Pot o Jam Mefus 

    Cacen Mochyn Bach 

    Bisgedi Teisen Frau neu Fisgedi Sinsir Wedi’u Siapio 

    Eising ac addurniadau DIY ar gyfer teisen frau a bara sinsir 

    Bocs Bach o Resins 

    Rhôl Selsig Blaen

Os ydych chi’n dymuno archebu hamperi te prynhawn ymlaen llaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny drwy wefan Ede & Ravenscroft cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 10 Mai am hanner nos. 

Sylwer, bydd lleoliad penodol ar gyfer casglu hamperi ar ddiwrnod eich seremoni raddio. Caiff hyn ei gadarnhau yn nes at yr amser. 

Cwestiynau cyffredin

Content Accordions

  • Fe wnes i fethu graddio y llynedd, a gaf i fynychu eleni?

    Mae'n ddrwg gennym glywed nad oeddech yn gallu dod i raddio. Yn anffodus, nid yw'n bosibl i raddedigion o flynyddoedd blaenorol gael eu cynnwys mewn unrhyw seremonïau yn y dyfodol. Mae pob cyfnod Graddio ar gyfer y myfyrwyr perthnasol a raddiodd o fewn y flwyddyn academaidd honno, ac mae'n rhaid eu rheoli'n ofalus o ran niferoedd sy'n mynychu a lle sydd ar gael yn lleoliad y seremoni. Mae hyn yn unol â'n harfer safonol ar gyfer unrhyw raddio. Ymddiheurwn am unrhyw siom a dymunwn yn dda i chi am eich holl ymdrechion yn y dyfodol. 

  • Ni allaf fynychu'r cwrs graddio eleni, a allaf fynychu'r flwyddyn nesaf?

    Yn anffodus, ni fydd yn bosibl eich cynnwys mewn unrhyw seremonïau yn y dyfodol, dim ond y seremoni raddio sydd ar ddod sy'n cael ei chynnal ar gyfer eich carfan. 

  • Mae angen Beth os bydd angen gwahoddiad arnaf ar gyfer fy VISA?

    Gellir defnyddio llythyrau gwahoddiad fel tystiolaeth o'ch rheswm dros orfod teithio i'r DU. Os oes angen llythyr arnoch, cysylltwch â Graduation@wrexham.ac.uk a darperir un.

    Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, rhaid i chi gael caniatâd dilys i fod yn y DU i fynychu eich seremoni. Os yw eich fisa myfyriwr i fod i ddod i ben cyn y seremoni, bydd angen i chi wneud cais am fisa ymwelydd. Gweler Cwestiynau Cyffredin isod am fwy o wybodaeth. 

  • Lle alla i gofrestru ar gyfer graddio?

    Mae cofrestru ar gyfer y Graddio eleni bellach wedi mynd heibio. Os na wnaethoch gofrestru erbyn y dyddiad cau, yn anffodus ni fyddwch yn gallu bod yn bresennol.

     

  • Lle gallaf gael tocynnau gwadd ar gyfer graddio?

    Byddwch wedi derbyn e-bost sy'n cynnwys gwybodaeth am archebu tocynnau gwadd, gynau a ffotograffiaeth. Bydd yr e-bost hwn gan Ede & Ravenscroft a Graduation@wrexham.ac.uk. Rydym yn cynghori eich bod hefyd yn gwirio'ch mewnflwch sothach. Sylwer, bydd gennych hyd at 15 Ebrill i archebu tocynnau i westeion.

  • Faint o docynnau y gallaf eu cael?

    Mae croeso i bob myfyriwr ddewis hyd at 2 docyn i westeion yn rhad ac am ddim. 

  • A allaf archebu neu brynu mwy na 2 docyn?

    Mae'n bosibl y bydd tocynnau ychwanegol yn cael eu rhyddhau ar gyfer gwesteion yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae cynhwysedd y lleoliad yn gyfyngedig ac felly, bydd hyn yn cael ei bennu gan faint o docynnau cychwynnol a gedwir yn y lle cyntaf.

  • Beth yw'r gost ar gyfer llogi cap a gŵn?

    Mae pris hyn yn amrywio yn dibynnu ar lefel y dyfarniad - bydd gwybodaeth lawn am hyn ar gael drwy'r ddolen a gynhwysir yn yr e-bost a anfonwyd gan Ede & Ravenscroft a Graduation@wrexham.ac.uk. Rydym yn cynghori eich bod hefyd yn gwirio'ch mewnflwch sothach.

  • Lle Alla i Archebu Fy Ngŵn?

    Gallwch archebu'ch n nawr drwy'r e-bost a anfonwyd atoch gan Ede & Ravenscroft a Graduation@wrexham.ac.uk. Rydym yn cynghori eich bod hefyd yn gwirio'ch mewnflwch sothach.

  • Pryd Byddaf yn Clywed Mwy am Fy Anghenion Hygyrchedd?

    Os gwnaethoch dynnu sylw at unrhyw addasiadau arbennig a/neu ofynion hygyrchedd ar y ffurflen gofrestru, byddwch yn dawel eich meddwl bod y rhain wedi'u nodi. Bydd manylion pellach i helpu gyda hyn yn dod yn fuan.

  • Mae Gan Fy Ngwesteion Ofynion Hygyrchedd,Sut Alla I Roi Gwybod i Chi?

    Byddwch yn cael cyfle i dynnu sylw at unrhyw ofynion hygyrchedd neu addasiadau sydd eu hangen ar gyfer gwesteion unwaith y byddwch wedi archebu tocynnau gwadd, goin a'r opsiwn o ffotograffiaeth. 

  • A Oes Cod Gwisg?

    Bydd angen i chi wisgo dillad ffurfiol, mae gwybodaeth am logi'ch dillad ar gael ar yr e-bost a anfonwyd gan Ede & Ravenscroft a Graduation@wrexham.ac.uk. Rydym yn cynghori eich bod hefyd yn gwirio'ch mewnflwch sothach.

  • A fydd teulu a ffrindiau nad ydynt yn bresennol yn dal i allu gwylio'r seremoni?

    Bydd rhagor o wybodaeth am ffrydio'r seremonïau'n fyw ar gael yn agosach at yr amser. Os caiff y seremonïau eu sgrinio'n fyw byddwch yn gallu cyrchu'r rhain o'r dudalen Graddio Fideo Ffrydio. Er y byddwn yn ceisio ein gorau, ni allwn warantu'r gwasanaeth ffrydio yn ystod adegau o alw mawr gan eu bod yn cael eu darparu gan YouTube ac o'r herwydd allan o'n rheolaeth. 

Gwybodaeth Deithio

Cynhelir y seremoni yng Nghampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam yn Neuadd William Aston.

Prifysgol Glyndŵr, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW

Teithio mewn car – Bydd nifer gyfyngedig o lefydd parcio ar y safle yn ystod y Seremonïau Graddio ond bydd rhywfaint o lefydd parcio ar gael i’r rheiny sydd angen cymorth arbennig. Siaradwch gya stiward parcio ar ôl cyrraedd os oes angen cymorth arbennig arnoch.

Teithio ar drên – yr orsaf agosaf at gampws y Brifysgol yw Gorsaf Ganolog Wrecsam sydd oddeutu 5-10 munud ar droed o’r campws.

Gwestai – Mae gwestai gerllaw yn cynnwys:

  • Gwesty Premier Inn Canol Tref Wrecsam
  • Gwesty Ramada Wrecsam

Mae’r ddau westy yma yn ddim ond 5-10 munud ar droed o gampws y Brifysgol.

Rhowch Lyfrau Fel Rhodd!

Wrth i chi ddychwelyd i’r campws ar gyfer eich Seremoni Raddio hoffem hefyd groeaswu dychwelyd unrhyw lyfrau llyfrgell a allai fod gennych o hyd. Ni waeth pa mor hwyr ydynt, byddwn yn hapus i’w gweld yn cael eu dychwelyd. Bydd dirwyon yn cael eu hepgor ar lyfrau a ddychwelir a gellir eu gadael yn y mannau gollwng mewn gwahanol leoliadau neu eu rhoi i Farsial ar y diwrnod. 

Tystysgrifau Graddio

Nodwch y caiff eich tystysgrif ei hanfon atoch trwy’r post yn y misoedd sy’n dilyn gan y bwrdd dyfarnu a gadarnhaodd eich dyfarniad.

Os oedd eich man astudio yn y DU, neu eich bod yn fyfyriwr PG Ar-lein, anfonir y dystysgrif at y cyfeiriad ‘cartref’ sydd gennym ar ein ffeil ar hyn o bryd.

Os oeddech wedi astudio yn un o’n sefydliadau partner y tu allan i’r DU, anfonir eich tystysgrif i swyddfa ganolog eich Prifysgol, a’ch Prifysgol fydd yn gyfrifol am drefniadau anfon/casglu eich tystysgrif. Ar ôl anfon tystysgrifau, gall gymryd hyd at fis i’w danfon trwy’r Post Brenhinol, ar gyfer myfyrwyr yn y DU, a hyd at ddau fis i’w danfon trwy wasanaethau cludo post rhyngwladol i fyfyrwyr y tu allan i’r DU.

Manylion cyswllt myfyrwyr

A wnewch chi sicrhau fod gennym y manylion cyswllt cywir ar eich cyfer fel myfyriwr, gan gynnwys cyfeiriad cartref, e-bost personol a rhif ffôn symudol. Gwiriwch eich manylion cyswllt yma.

  • Mewngofnodwch i myuni.wrexham.ac.uk
  • Dewiswch ‘Cofnod Myfyriwr’
  • Mewgofnodwch i borth e:Vision gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair myfyriwr
  • Dewiswch ‘gwybodaeth bersonol’ o’r bar llywio ar frig y dudalen, ac yna gallwch weld eich ‘Manylion Personol’ a’ch ‘Manylion Cyswllt’
  • Fe welwch opsiwn i ddiweddaru eich manylion islaw pob adran

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Graddio, danfonwch e-bost i: graduation@wrexham.ac.uk

Gwobrau i Fyfyrwyr

Pob blwyddyn mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod llwyddiannau ei myfyrwyr drwy gyfres o wobrau.

Mae gwobrau yn adlewyrchu gwaith eithriadol, o lefel gradd sylfaen i PhD, ar draws ystod lawn portffolio academaidd y brifysgol.

Mae gwerth ariannol i rai gwobrau, ac maent oll yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i adnabod gwaith caled a lefelau uchel o gyflawniad ymysg ein myfyrwyr.

Darganfod mwy am ein gwobrau myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr.