campus tower

Araith ar gyfer: Andrew Scott

Cyflwynir gan: Spencer Harris

Rwy’n falch o gael cyflwyno Andrew Scott ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.

Mae Andy Scott yn fwyaf adnabyddus fel gitarydd un o fandiau mwyaf llwyddiannus y DU yn y 70au - Sweet - ac fel cefnogwr ffyddlon i glwb pêl-droed Wrecsam.  Tyfodd Andy i fyny yn Wrecsam a hwnnw wrth ei fodd â cherddoriaeth a chwaraeon. Canodd mewn corau yn Eglwysi Plwyf Rhosddu a Wrecsam, ac ar achlysuron arbennig, yn y Gadeirlan yn Llanelwy.

Roedd y 1950au a’r 1960au wedi gosod y safon ar gyfer cerddoriaeth boblogaidd a arweiniodd Andy at yrfa ym myd cerddoriaeth. Ym 1966, fel rhan o fand The Silverstones, ymddangosodd ar y sioe dalent ar y teledu o’r enw Opportunity Knocks, gan ennill am 5 wythnos yn olynol, ond, yn y diwedd, collodd y rownd derfynol i Freddie Starr. Daeth ei gyfle cyntaf go iawn i gyrraedd y brig gyda The Silverstones ym 1967, pan gawsant gyfle i gefnogi Jimi Hendrix ym Manceinion.

Roedd ei fand nesaf, The Elastic Band, yn nodedig am y ffaith mai bryd hynny y dechreuodd Andy ymddangos fel prif gitarydd, a hefyd roedd ei frawd, Mike, a oedd yn chwarae’r gitâr bas a’r sacsoffon, wedi ymuno â’r band. Roedd y band wedi arwyddo cytundeb â chwmni recordiau Decca, ac wedi rhyddhau rywfaint o recordiau sengl ac un albwm, a enillodd glod mawr. Tua’r adeg hon hefyd y cyfarfu â Mike McCartney, sef brawd Paul, a symudodd Andy ymlaen i ddod yn rhan o’r band cefndir ar gyfer The Scaffold.

Ym 1970, symudodd Andy i Lundain ac ymunodd â The Sweet. Fe aeth y band ymlaen i werthu miliynau o recordiau a chawsant lwyddiant yn y siartiau ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys America. Ar ôl i’r aelodau gwreiddiol roi’r gorau i deithio ym 1981, penderfynodd Andy ddal ati. Mae Sweet yn dal yn brysur hyd heddiw, yn teithio ar hyd a lled y byd ac yn rhyddhau recordiadau newydd yn rheolaidd.

Mae Andy wedi derbyn sawl gwobr fel artist, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd cerddoriaeth. Ym 1978, fe gafodd ei gân Love is Like Oxygen ei henwebu yn y DU ar gyfer gwobr urddasol Ivor Novello, ac roedd y gân wedi ennill y wobr ASCAP Americanaidd y flwyddyn honno hefyd. Mae sawl cân arall gan Sweet wedi ymddangos ar draciau sain ffilmiau a rhaglenni teledu, yn fwyaf diweddar, Guardians of the Galaxy II, ac mae sawl artist o bob cenhedlaeth wedi’u dynwared.

Mae o wedi ymddangos ar Top of the Pops yn gwisgo rhoséd Wrecsam, ac wedi perfformio mewn amryw ddigwyddiadau, gan gynnwys rhai yma yn y Brifysgol, yn Neuadd William Aston, i godi arian ar gyfer ei hoff glwb Wrecsam pêl-droed yn ystod y dyddiau tywyll ar ddechrau’r 2000au.

Mewn cyfweliad y llynedd gyda The Wrexham Leader, wrth ymateb i gwestiwn ynghylch pa mor aml y mae’n dod i Wrecsam y dyddiau hyn, ‘Ddim digon’ oedd ateb Andy. Mae’n bleser gennym felly ei groesawu’n ôl i dderbyn ein hanrhydedd uchaf ym Mhrifysgol Wrecsam.

I gydnabod ei gyfraniad neilltuol i Glwb Pêl-droed Wrecsam a’r gymuned ehangach, cyflwynaf Andrew Scott, brodor o’r ardal hon, i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd.