Jon Laughton

Araith ar gyfer: Jon Laughton

Cyflwynir gan: Dr Rob Bolam

Rwy’n falch o gael cyflwyno Jon Laughton ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam. 

Mae Jon wedi mwynhau gyrfa hir a disglair, sy’n rhychwantu 40 mlynedd, yn y diwydiant awyrofod rhyngwladol, gan gynnwys swyddi ar lefel Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu a Phrif Swyddog Gweithredol, yn gweithio yn British Aerospace a SAFRAN. Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad i’w ddiwydiant, fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Awyrenneg yn 2010.

Dechreuodd ei yrfa academaidd ym 1980, pryd enillodd radd mewn Meteleg o Brifysgol Manceinion. Enillodd MA o Ysgol Reolaeth Lancaster yn 2004, a MSc  mewn Technoleg a Gweithrediadau UAS a’r Gyfraith yma yn Wrecsam, ym mhle graddiodd gyda chlod yn 2019.

O 2004 ymlaen, roedd Jon wedi sefydlu a rhedeg ei gwmnïau ei hun, gan arbenigo mewn cefnogi cwmnïau awyrofod ar hyd a lled y byd ym maes perfformiad gweithgynhyrchu, datblygu arweinyddiaeth, perfformiad cadwyni cyflenwi, rheoli rhaglenni, cynnal a chadw ac atgyweirio awyrennau mewn modd darbodus, ynghyd â datblygu rhaglenni newydd ar gyfer awyrennau â chriw, a di-griw. 

Ar ôl astudio ar gyfer ei MSc yn Wrecsam, daeth Jon wedyn yn ddarlithydd sesiynol a oedd yn cefnogi’r Rhaglen Feistr ar gyfer Systemau Awyrennau Di-griw (UAS), gan ddatblygu deunyddiau ychwanegol mewn perthynas ag adeiladu UAS ag adenydd sefydlog. Roedd wedi noddi gwelliant sylweddol o ran cyfleusterau gweithdy a labordy ar gyfer y radd, ac wedi arwain cyfranogiad blynyddol y Brifysgol yn yr ‘Universities UAS Challenge’ rhyngwladol, sy’n cael ei redeg gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.

Yn gyfochrog â hyn, roedd Jon wedi cefnogi datblygiad cyffrous prosiect ‘Fast Fan’ a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a arweiniwyd gan Dr Bolam yma yn Wrecsam. Mae’r prosiect hwn, sy’n torri tir newydd ac yn flaenllaw trwy’r byd, wrthi’n datblygu cysyniad newydd sbon ym maes gyriant trydanol ar gyfer awyrennau di-griw bach, a allai arwain at ddatblygiadau cyffrous yn yr ardal at y dyfodol.

A hwnnw bellach wedi hanner ymddeol, mae Jon yn mwynhau treulio mwy o amser yn mwynhau ei ddiddordeb mewn garddio. Mae o hefyd yn adeiladu ac yn hedfan awyrennau model a reolir o bell, ar gyfer cyflawni campau hedfan trachywir, ac mae’n gadeirydd clwb awyrennau model lleol. Mae o wedi dal ati i ysgrifennu a recordio caneuon gyda hen ffrind prifysgol ers 1979 – gan greu’r hyn y mae Jon yn ei ddweud yw’r ‘caneuon gorau y gwnewch chi fyth eu clywed’!

Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i’n Prifysgol, mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno Jon Laughton i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.