Mark Lewis Jones
Araith ar gyfer: Mark Lewis Jones
Cyflwynir gan: Dylan Rhys-Jones
Pleser mawr iawn gennyf yw cyflwyno Mark Lewis Jones ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.
Ganwyd Mark ym 1964 yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam, ac mae ei deulu’n dal i fyw yno. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl a bu’n ddisgybl yn Ysgol y Rhos ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.
Cafodd flas ar actio yn ei arddegau pan fu’n actio gyda Theatr Ieuenctid Clwyd. Fe aeth ymlaen wedyn i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan raddio yno ym 1986.
Mae ei yrfa ddisglair wedi cwmpasu gwaith actio ar y llwyfan gyda’r Cwmni Shakespeare Brenhinol ac yn Theatr y Globe yn Llundain, yn ogystal â rolau ar y teledu, ac mewn ffilmiau ysgubol enfawr.
Ymhlith ei waith helaeth ar y teledu y mae ymddangosiadau ar Waking the Dead, Jason and the Argonauts, Chernobyl, The Good Liar a The Passing, y derbyniodd wobr yr actor gorau ar ei gyfer yn seremoni BAFTA Cymru yn 2016. Chwaraeodd ran y tiwtor Cymreig, Dr Edward Millward, yn y bennod o’r Crown a oedd yn manylu ynghylch cyfnod y Tywysog Siarl yn Aberystwyth, ac yn 2018, cafodd chwarae’r brif ran yn Apostle ar Netflix, gyferbyn â Michael Sheen.
Mireiniwyd ei sgiliau mewn sawl drama yng Nghymru, yn enwedig Stella, ym mhle chwaraeodd gymeriad o’r enw Rob Morgan, sef cyn-ŵr Stella, a chwaraewyd gan Ruth Jones. Efallai eich bod wedi’i weld hefyd yn Game of Thrones, Hidden, Hinterland, Baker Boys, Merlin, Y Pris, Byw Celwydd a Torchwood, ac yn fwy diweddar yn y sioe Netflix lwyddiannus, ‘Baby Reindeer’, ym mhle derbyniodd glod mawr am chwarae rhan tad y prif gymeriad.
Ei ymddangosiadau enwocaf mewn ffilmiau Hollywood ar raddfa fawr oedd fel Hogg the Whaler yn Master and Commander: The Far Side of the World, ochr yn ochr â Russell Crowe, ac yn Phantom of the Opera gyda Mark Rylance. Mae wedi’i gydnabod hefyd wrth gwrs am actio yn Star Wars, yn rôl Captain Canady yn Star Wars: Episode VIII.
A hwnnw’n ddigon prysur gyda’i yrfa actio doreithiog, mae Mark hefyd yn rhedwr brwd, ac yn codi arian i elusennau’n rheolaidd. Cymerodd ran yn y Marathon des Sables, a chwblhaodd ei gystadleuaeth Ironman gyntaf yn 2023, yn Ninbych-y-pysgod.
Mae’n gweithio’n helaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, gyda’i wraig Gwenno. Mae ganddo 4 mab, Tomos, Barnaby, Alfie a Jacob. Mae Mark wedi cadw cysylltiad agos â Rhos ers iddo adael ym 1983, ac mae ei berthnasau agosaf a sawl ffrind o’i blentyndod yn dal i fyw yn y pentref.
Ac felly, mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i fyd Theatr a’r Celfyddydau Perfformio, pleser mawr gennyf yw cyflwyno Mark Lewis Jones, brodor o’r ardal hon, i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.