John Moses

Araith ar gyfer: Professor John Moses

Cyflwynir gan: Dr Jixin Yang

Rwy’n falch o gael cyflwyno’r Athro John Moses ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam. 

A hwnnw’n hanu’n wreiddiol o Bonciau (Rhosllannerchrugog, Wrecsam), mae John E. Moses yn Athro Cemeg ‘Click’ ac yn aelod o Ganolfan Canser Labordy Cold Spring Harbor yn Efrog Newydd. Mae ei ymchwil, sydd wedi’i leoli yn y groesffordd rhwng cemeg a bioleg, yn ymroi i wneud gwaith arloesol ym maes technegau Cemeg ‘Click’ ar gyfer darganfod meddyginiaethau gwrthganser a gwrthfiotig newydd. 

Dechreuodd taith academaidd yr Athro Moses yma yn NEWI (sef Prifysgol Wrecsam erbyn hyn), ym mhle dyfarnwyd Diploma Cenedlaethol BTEC iddo mewn Gwyddoniaeth. Fe aeth ymlaen â’i yrfa ym myd gwyddoniaeth gan astudio cwrs gradd ym Mhrifysgol Caerfaddon, a ddilynwyd gan DPhil yn Rhydychen, ym mhle cafodd ei fentora gan yr Athro Syr Jack Baldwin, FRS. 

Daeth cyfnod allweddol yn ei yrfa yn 2004, pryd y cafodd ymuno â grŵp yr Athro K. B. Sharpless, a oedd wedi ennill Gwobr Nobel ddwywaith, yn Sefydliad Ymchwil Scripps yn La Jolla, Califfornia, a chael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiadau ym maes Cemeg ‘Click’. Mae Dr Moses a’i ffrind a’i fentor, Dr Sharpless, yn dal i gydweithio hyd heddiw.

Yn 2005, fe’i hanrhydeddwyd â Chymrodoriaeth RCUK-EPSRC ym maes Cemeg Meddyginiaethol Canser yn Ysgol Fferylliaeth, Coleg Prifysgol Llundain, ym mhle’r oedd ei ymdrechion arloesol ym maes Cemeg ‘Click’ wedi hwyluso ymchwil a oedd yn torri tir newydd ym maes datblygu cyffuriau gwrthganser.

Yn dilyn cyfnodau yn Nottingham a Melbourne (Awstralia), yn 2020, derbyniodd rôl Athro Sefydlol Cemeg yn Labordy Cold Spring Harbor, sef y sefydliad ymchwil sy’n arwain y byd ym maes bioleg molecwlaidd a geneteg.

Ar wahân i’w weithgareddau academaidd, mae’r Athro Moses wedi ymroi i ddatblygiadau gwyddonol byd-eang, gan gefnogi sefydliadau addysgol mewn gwledydd fel India. Mae o hefyd yn darparu ei arbenigedd fel ymgynghorydd a thyst arbenigol ar gyfer y diwydiant fferyllol. Mae ei gyfraniadau ym myd Cemeg ‘Click’ wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys dyfarniad gwobr urddasol Horizon yn 2021, gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Gan gydbwyso ei amser rhwng Long Island a Manhattan, mae’n rhannu ei fywyd gyda’i bartner, Sarah. Mae’n dal i gadw tŷ yn Wrecsam, sy’n agos i’w galon bob amser, yn enwedig fel encilfan i dreulio amser gwerthfawr gyda’i fab, Glyn. Mae ganddo ddiddordeb brwd iawn mewn chwarae’r gitâr trydan, ac mewn cerddoriaeth roc/metel, llenyddiaeth, gwylio’r teledu (yn enwedig ‘Welcome to Wrexham’), ynghyd â gweithgareddau awyr agored. 

Mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i Wyddoniaeth, mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r Athro John Moses i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.