Sean Taylor

Araith ar gyfer: Sean Taylor

Cyflwynir gan: Andrew Woods

Pleser o’r mwyaf gennyf yw cyflwyno Sean Taylor ar gyfer gwobr Cymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam. 

Wedi’i eni a’i fagu yn Nyffryn Conwy, treuliodd Sean Taylor ei yrfa gynnar fel comando gyda’r Môr-filwyr Brenhinol, a ddilynwyd gan gyfnod fel gwarchodwr personol i enwogion. Ar ôl 26 mlynedd o deithio yn sgil ei waith, dychwelodd adref i harddwch Gogledd Cymru ar gyfer ei antur nesaf. 

Yn 2007, agorodd safle blaenorol Treetop Adventure ym mhentref twristiaid poblogaidd Betws-y-coed, a lwyddodd yn gyflym iawn i ddod yn un o’r cyrsiau antur â rhaffau uchel mwyaf poblogaidd yn y DU.

Gwireddwyd Zip World trwy freuddwyd Sean i adeiladu’r wifren wib fwyaf a chyflymaf yn y byd dros chwarel. Daeth y freuddwyd yn realiti ym mis Mawrth 2013 ar ôl 2 flynedd o waith cynllunio ac adeiladu. Velocity yw gwifren wib gyflymaf y byd, a’r hiraf yn Ewrop, ac mae’n cymryd ei lle â balchder ymhlith 27 o anturiau Zip World eraill, ar draws 6 safle yn y DU. 

Ond nid dyna ddiwedd y stori i Sean; yn 2002, gwelwyd Zip World yn mentro i fyd gwyliau byr, gan agor y gwesty Cymreig traddodiadol, Tyn-y-Coed, a ddilynwyd gan Gabanau Coedwig foethus yn safle Zip World ym Metws-y-coed yn 2023, sydd wedi ennill sawl gwobr. 

Ar ôl 10 mlynedd wrth y llyw, mae Sean yn dal i arloesi a chyflwyno profiadau i’r DU sydd gyda’r gorau yn y byd, ac yn sicrhau bod iechyd a diogelwch a gwreiddiau Cymreig yn ganolog iddynt bob amser.

I gydnabod ei gyfraniad neilltuol i Dwristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant Cymru, pleser o’r mwyaf gennyf yw cyflwyno Sean Taylor i’w dderbyn ar gyfer ein hanrhydedd uchaf, sef Cymrodoriaeth Er Anrhydedd Prifysgol Wrecsam.