“Heb Ffiniau” Academaidd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymddangos mewn arddangosfa deithiol ryngwladol

Date: Rhagfyr 202

Mae Alec Shepley, Deon Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yma yn PGW, wedi cyfrannu ar arddangosfa deithiol ryngwladol sy’n torri tir newydd, “Heb Ffiniau”.

Mae’r casgliad sydd yn brosiect digidol ac arddangosfa ffisegol esblygol i’w gweld ar hyn o bryd yn Meta Forte, Fenis. Mae Alec yn un o 300 o artistiaid ar draws 22 o gymunedau o amgylch y byd gafodd eu dethol i fod yn rhan o’r prosiect yma.

Nod “Heb Ffiniau” yw dileu rhwystrau, creu clymbleidiau, a chysylltu â chymdogion. Mae’n anelu at ddwyn pobl greadigol ynghyd, i gydweithio ar arddangosfa deithiol ryngwladol o weithiau ar bapur - casgliad o dudalennau artistiaid.

Ar ddiwedd pob arddangosfa, mae’r tudalennau yn cael eu rhwymo at ei gilydd i greu llyfr sydd yn symud wedyn i leoliad arall i gael eu datgymalu, eu harddangos, ac yna eu hailosod cyn symud eto i’w lleoliad newydd.

Alec shepley exhibition

Roedd y prosiect yn greadigaeth Heather Parnell a Jonathan Powell o Elysium, Abertawe. Mae’n cynnwys gweithiau ar bapur gan unigolion a grwpiau o artistiaid gyda’u ‘hynys arddangos’ eu hunain.

Roedd yr arddangosfa i’w gweld yn Fenis tan 27ain Tachwedd (Diwrnod olaf Biennale Fenis).

Mae Alec yn siarad am ei waith a fu’n rhan o’r arddangosfa:

“Mae fy ngwaith yn dechrau gyda lluniadu ac yn aml yn newid i rywbeth arall - dros dro fel rheol ac mewn ‘gwagle rhyngol’ - rhwng yr unigol a’r cyfunol, rhwng diben a chwarae. Yn fy ysgrifennu rwy’n cyfeirio at y syniad o le nad yw’n le - gwagle nad yw eto’n le, neu o leiaf os bu unwaith yn le, ei fod rhywsut wedi colli ei hunaniaeth o fewn yr uwchgynllun, a’i fod yn araf ddisgyn oddi wrth ei ffurfweddiad sefydliadol. Drwy ymestyn iaith ymarfer lluniadu i fod yn gyfrwng cyfarfyddiad yn hytrach nac yn ddiben ynddo’i hun, mae realiti a ffuglen yn cydblethu o fewn y maes gweithredu ehangach.”

Alex Shepley's work, flag

“Ac felly gennyf i, ‘Baner Ecotonia’ – man dychmygol (a Heterotopig) rhwng pob man arall – mewn gwirionedd mae’n ddarn o dir (ar Fynyddoedd y Berwyn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru) a lle rwy’n ei alw’n ‘gartref’. Roedd y darn yma’n teimlo’n addas ar gyfer Heb Ffiniau a’r syniad o brosiect llyfr/gweithiau teithiol ar bapur”.

Mae Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ymwneud yn barhaus â phrosiectau dynamig. Os hoffech ddysgu gan ein staff profiadol a thalentog, yna edrychwch ar ein cyrsiau a’n gradd Celfyddyd Gain.