Prifysgol Plant yn hyfforddi'r genhedlaeth newydd o ddarlledwyr mewn sesiynau podlediad

Students recording a podcast

Date: Dydd Llun Mawrth, 23

Mae darlledwyr y dyfodol yn cael eu hyfforddi ar sut i bodlediad, diolch i'r sesiynau sy'n cael eu cynnal gan Brifysgol Plant ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW). 

Diolch i grant gwerth £1,000 gan gronfa Dinas Diwylliant Wrecsam, mae tîm y Brifysgol Plant wedi creu stiwdio bodlediad newydd yng Nghanolfan y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru ac maent wedi bod yn rhedeg gweithdai 'Become a Podcaster' i bobl ifanc rhwng 11-16 oed. 

Nod y sesiynau yw i bobl ifanc gynllunio a recordio eu podlediad eu hunain ar thema Wrecsam. 

Llond llaw o fyfyrwyr PGW sy'n gyfrifol am arwain y sesiynau i ddangos i bobl ifanc sut mae wedi'i wneud. 

Dywedodd Natalie Edwards, Rheolwr Prosiect Prifysgol y Plant Cymru PGW: "Mae'r sesiynau podlediad wedi bod yn hollol wych. Rydym yn falch iawn o ddweud, ers llwyddo i dderbyn cyllid Dinas Diwylliant, rydym wedi hyfforddi dros 30 o bobl ifanc ar sut i greu eu podlediad eu hunain. 

"Yr hyn sy'n wirioneddol wych yw'r ffaith fod hyn yn fwy na chreu podlediad yn unig - mae'r sgiliau yma'n drosglwyddadwy, er enghraifft, mae'n datblygu sgiliau cyfweld pobl ifanc, eu sgiliau technegol, yn ogystal ag adeiladu ar eu hyder. Mae'n wych gweld beth y gellir ei gyflawni yn ystod y sesiynau hyn, mae'n rhywbeth rwy'n teimlo'n hynod falch ohono." 

Dywedodd mer 14 oeVictoria Abraham, y mynychodd ei merch 14 oed, Ruth un o'r sesiynau: "Roedd Ruth wrth ei bodd gyda'r sesiwn a fynychodd, nid yn unig roedd yn llawer iawn o hwyl, roedd hefyd yn fuddiol o safbwynt addysgol. 

"Roedd hi'n wych clywed y podlediad gorffenedig, roedd hi a'i chyfoedion yn swnio'n wych. Mae ei TGAU yn prysur agosau a bydd y sgiliau a ddysgodd o'r sesiwn yn siŵr o fod o fudd iddi wrth fynd ati i sefyll arholiadau siarad a gwrando." 

Mae'r Brifysgol Blant yn PGW yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, grwpiau cymunedol a chyrchfannau dysgu ledled Wrecsam a Sir y Fflint i annog plant a phobl ifanc gyda'r nod cyffredinol o godi dyheadau, gwobrwyo cyfranogiad ac ysbrydoli cariad at ddysgu. Mae'r Brifysgol Y Plant yn gwneud hyn drwy ddathlu ac ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a gwirfoddoli y tu allan i'r ystafell ddosbarth.  

Mae gweithgareddau'n amrywio o chwaraeon, celf, diwylliant, datblygiad personol, STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a dysgu awyr agored. 

Cynhelir y sesiwn bodlediad nesaf o'r enw Pocket Money Podcasts – dosbarth meistr undydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed – ddydd Mercher 12 Ebrill rhwng 10yb a 2yp yn Adeilad y Diwydiannau Creadigol, Campws Plas Coch PGW yn Wrecsam. Mae rhagor o wybodaeth am y dosbarth meistr ar gael yma.