Andrew Sharp
Arweinydd Rhaglen BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig ac Uwch Ddarlithydd mewn Peiriannydd Trydan
Ar ôl cwblhau ei radd israddedig ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, buodd Andrew’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) fel technegydd afionig, yn dod o hyd i broblemau ac yn trwsio electroneg awyrennau ar lefel gydrannau, ac yna fel peiriannydd datblygu rhaglen profion Offer Profi Awtomataidd (ATE), yn dylunio ac yn rhaglennu algorithmau profion i gadarnhau defnyddioldeb a theilyngdod hedfan trydaneg awyrennau. Yma, dechreuodd Andrew fentora prentisiaethau a darganfod ei gariad at addysgu.
Yn 2008, gadawodd Andrew’r MOD a daeth yn ddarlithydd yn Coleg Cambria, cyn dod yn arweinydd rhaglen ar gyfer y diploma BTEC estynedig mewn peirianneg.
Ymunodd Andrew â Phrifysgol Wrecsam yn 2015, ac ar hyn o bryd, fe yw arweinydd rhaglen BEng Peirianneg Drydanol ac Electroneg.