Mae Anna yn Therapydd Galwedigaethol gyda thros 20 mlynedd brofiad o weithio mewn sawl maes ymarfer gwahanol. Treuliodd Anna ddwy flynedd ar ôl iddi raddio yn gweithio fel Therapydd Galwedigaethol yn Seland Newydd, oedd yn brofiad mor wych.
Yn y pymtheg mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yn y GIG ac fel ymarferydd annibynnol. Ar hyn o bryd mae Anna yn astudio rhan-amser ym Mhrifysgol Glyndŵr ar gyfer MSc mewn Gwyddorau Iechyd, ac yn gwneud hynny ochr yn ochr â’i rôl newydd fel hwylusydd Addysg ymarfer ar y rhaglen BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol a ddechreuodd ym mis Awst 2021.
Mae Anna yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored, bod hynny’n seiclo neu gerdded, ac mae’n aelod o gôr.