Yr Athro Caroline Gray

Athro Menter, Ymgysylltu a Throsglwyddo Gwybodaeth

Wrexham University

Graddiodd Caroline mewn Ffiseg o Brifysgol John Moores Lerpwl ac mae hi wedi gweithio yn y diwydiant optegol am fwy na 35 mlynedd. Ei arbenigedd yw gweithgynhyrchu a phrofi cydrannau optegol gydag arbenigedd penodol mewn Peiriannu Diemwnt Pwynt Sengl a phrosesu/sgleinio optegol rheoledig.

Mae hi wedi gweithio i Pilkington Visioncare, Technoleg Gofod Pilkington (technegol), ymgynghorwr dylunio optegol Optics and Vision a Pheonix Optical Technologies.

Ar hyn o bryd mae Caroline yn Gyfarwyddwr Safle Canolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr ac yn Gyfarwyddwr Prosiect Rhaglen Arbenigedd y Ganolfan Ffotoneg gwerth £7.2m.

Beth ydych yn hoffi ei wneud yn eich amser sbâr? Mae fy ngweithgareddau amser sbâr yn cynnwys hwylio, beicio a threiathlon. Rwy’n Hyfforddwr Personol cymwysedig gyda fy Stiwdio Gampfa fy hun ac rwyf hefyd yn cystadlu yn y gamp o rwyfo dan do yn Genedlaethol ac yn Rhyngwladol ac yn dal teitlau grwpiau oedran pencampwriaethau Ewrop a’r Byd.

Yn gyffredinol dwi'n mwynhau bron unrhyw beth sy'n mynd â fi tu allan. Fel arfer gyda fy mhartner hyfforddi, fy nghi. Rwy’n briod hefo Andy sydd yn rheolwr datblygu ac mae gennym ddau plentyn.