Chelsea Batty
Dr Chelsea Batty
Mae Dr Chelsea Batty yn uwch-ddarlithydd ffisioleg chwaraeon ac ymarfer corff cymhwysol, a’i phrif ffocws ymchwil yw ffisioleg ymarfer corff clinigol.
Cwblhaodd Chelsea ei PhD ym Mhrifysgol Leeds Beckett, a oedd yn ymchwilio i effeithiolrwydd ymarfer corff o ran adsefydlu cardiaidd. Bu hefyd yn ymchwilio i fewnbwn dietegol, lefelau gweithgarwch corfforol, ymddygiad eisteddog a swyddogaethau endothelial.
Mae Chelsea yn wyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff ag achrediad BASES a statws gwyddonydd siartredig. Hi yw arweinydd ymgynghoriaeth ac ymchwil yr adran. Chelsea yw arweinydd rhaglen yr MRes mewn Chwaraeon, Ymarfer Corff a Gwyddorau Iechyd.
Ymhlith ei hobïau mae codi pwysau pŵer a hyfforddi ymarfer corff.