Daniel Knox

Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Cynnyrch

Picture of staff member

Dylunydd/Peiriannydd a Darlithydd mewn Dylunio Cynhyrchion gyda 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant a phedair blynedd o brofiad mewn addysg uwch ym Mhrifysgol Trent Nottingham (2020-21) a Phrifysgol Wrecsam (2021 hyd y presennol). Mae fy ngyrfa’n cwmpasu mwy nag un sefydliad, lle bu gennyf rôl hollbwysig o ran creu atebion perfformio a chyfarpar achub bywydau ar gyfer Awyrlu’r Unol Daleithiau, ynghyd â dyluniadau arloesol ar gyfer brandiau blaenllaw fel Dyson ac Unilever. Yn arbennig, yn Survitec (2010-13), gweithiais ar brosiect mwyaf Survitec (Ensemble Criw Awyr Integredig [IAE]), yn ystod cam ymchwil a datblygu a oedd yn werth miliynau o ddoleri, er mwyn datblygu ensemble hedfan peilotiaid ar gyfer yr F-35 Lightning II newydd. Roedd fy rôl yn cynnwys rheoli’r prosiect ar draws gwahanol ddiwylliannau a chylchfaoedd amser a gweithio ar gontract gyda Mustang Survival yng Nghanada, gyda Survitec yn Lloegr a chyda Tiax LLC yn Boston. Datblygais/dangosais sut y gallai defnyddio deunydd newydd esgor ar effeithlonrwydd, yn ogystal â lleihau amser ac ynni gweithgynhyrchu yn fawr ac arbed llawer o gostau. Yn dilyn y cam datblygu tair blynedd, ar ôl cadw at dargedau’r fanyleb a dangosyddion perfformiad allweddol, ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau ac ar ôl pasio adolygiad dylunio (CDR), symudwyd y prosiect yn ei flaen at gamau eraill, yn cynnwys gwerthuso/profi.

Diwydiant | Yn Dyson (2015-18), bûm yn arwain timau peirianneg i gyflawni functional assembly, gan bennu a lliniaru rigiau a chan ysgogi targedau’r fanyleb. Fe wnaeth fy nghyfnod yn Hwb Technoleg Dylunio Byd-eang Unilever (2017-21) bontio bylchau rhwng ymchwil a datblygu ar y naill law a chadwyni cyflenwi a chaffael ar y llaw arall, gan ddarparu tystiolaeth a chyngor ynglŷn â datblygu/profi prosiectau. Ysgogodd hyn ddiwylliant o arloesi, dylunio ar gyfer masgynhyrchu a datblygu strategaethau a oedd yn cyd-fynd â Chynllun Byw’n Gynaliadwy Unilever, gan arwain at batent rhyngwladol ar gyfer ateb pecynnu cynaliadwy. Rwyf wedi ymrwymo i feithrin ymwybyddiaeth a chynaliadwyedd amgylcheddol, fel y dangosir trwy fy mentoriaeth gyda Chynllun Addysg Beirianneg Cymru. Yn 2023, cynorthwyais fyfyrwyr i ennill gwobr gynaliadwyedd genedlaethol am ddylunio, adeiladu a chynhyrchu ateb ar gyfer problem gynaliadwyedd gymunedol (o’r enw: Peirianneg a Grymuso Pobl). Bûm yn arwain prosiectau pecynnu pwysig, a hefyd bûm yn hwyluso i drosglwyddo technoleg ac yn gweithredu mesurau arbed costau oddi mewn i dimau Dylunio Byd-eang, gan weithio gyda nifer o bartneriaid mewnol (ymchwil, cyflwyno cynhyrchion newydd, brand, marchnata, ffurfio, profi, eiddo deallusol, caffael, diogelwch a rheoleiddio) ac allanol (cadwyni cyflenwi, cyfarpar, gweithgynhyrchwyr), gan gyflwyno dyluniadau i’r farchnad.

Ymchwil | Rwy’n un o gynghorwyr Ecological Citizen(s) Network+, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol UKRI (£3.4m) (EP/W020610/1), gan gydweithio gyda’r RCA a Sefydliad Amgylchedd Sweden Prifysgol Efrog i sefydlu’r Ecological Citizen(s) Network+, a chan gyfrannu at ddatblygu gwybodaeth yn y maes a llywio polisïau ac arferion. Trwy fy ngyrfa amlweddog, rwyf wedi ymrwymo i ysgogi newid cadarnhaol, hyrwyddo cynaliadwyedd a meithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a dylunwyr. Fel un o Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch, rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu cydweithredu rhyngddisgyblaethol, arloesedd ac arferion cynaliadwy er budd y gymdeithas a’r amgylchedd.

 

Diddordebau Ymchwil 

Dinasyddion Ecolegol (EC) – Co-I  

Dinasyddion Ecolegol EPSRC – Y Coleg Celf Brenhinol, mewn cydweithrediad â Sefydliad Amgylchedd Stockholm Prifysgol Efrog a Phrifysgol Wrecsam. 

I wireddu'r  Effaith drawsnewidiol technolegau digidol ar agweddau ar fywyd cymunedol, profiadau diwylliannol, cymdeithas y dyfodol, a'r economi.  

Er rhyddhad ein planed – pennod o'r enw ‘Product design and sustainability at design level’.

Dull dosbarthu i AI (Deallusrwydd Artiffisial) ac uniondeb academaidd'.

 

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiadau Math
2023 DEFINING ECOLOGICAL CITIZENSHIP: CASE-STUDIES, PROJECTS, & PERSPECTIVES ANALYSED THROUGH A DESIGN-LED LENS, POSITIONING “PREFERABLE FUTURE(S)”, Design for Adaptation Cumulus Conference Proceedings Detroit 2022. 
Dr. Robert Phillips1, Dr. Sarah West2, Alec Shepley3, Sharon Baurley1, Tom Simmons1, Dr. Neil Pickles3, Daniel Knox3
Cyhoeddiad Cynhadledd

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2023 SolidWorks Associate (CSWA)  SolidWorks
2022 Cymrawd yr Academi Addysg Uwch Academi Addysg Uwch
2022 DriveWorksXpress Cydymaith DriveWorks

Cymdeithasau Proffesiynol

Sefydliad Ariennir gan
Academi Addysg Uwch Cymrawd

Pwyllgorau

Dyddiad Pwyllgorau Ariennir gan
2024 Pwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam Aelod

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Blwyddyn
Prifysgol Wrecsam Urch Darlithydd 2024
Prifysgol Wrecsam Darlithydd 2021-2024
Prifysgol Caer Darlithydd Gwadd BA (Anrh)
Dylunio Cynnyrch
2019 - 2020
Prifysgol Nottingham Trent  HLP yn BA/ BSc Dylunio Cynnyrch 2020 - 2021
Unilever - Adran Dylunio Byd-eang Uwch Beiriannydd Dylunio 2017 - 2021
Dyson – Adran Ymchwil, Dylunio a Datblygu Peiriannydd Dylunio Uwch ac Uwch 2014 - 2017

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Blwyddyn
Prifysgol Wrecsam Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch 2021 - 2022
Prifysgol Nottingham Trent  Baglor yn y Celfyddydau Dylunio Cynnyrch 2003 - 2006
Prifysgol Wrecsam Gradd Meistr mewn Addysg ac Arwain Addysg ac Arwain 2022

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Disgrifiad
Ymagwedd wasgaredig tuag at AI (Deallusrwydd Artiffisial) ac uniondeb academaidd 2023
Diffinio dinasyddiaeth ecolegol; Astudiaethau achos, prosiectau a safbwyntiau; wedi’u dadansoddi trwy lens dan arweiniad dylunio, gan osod ‘dyfodol a ffefrir’
Diffinio dinasyddiaeth ecolegol; Astudiaethau achos, prosiectau a safbwyntiau; wedi’u dadansoddi trwy lens dan arweiniad dylunio, gan osod ‘dyfodol a ffefrir’ Diffinio dinasyddiaeth ecolegol; Astudiaethau achos, prosiectau a safbwyntiau; wedi’u dadansoddi trwy lens dan arweiniad dylunio, gan osod ‘dyfodol a ffefrir’.
2022

Diddordebau Addysgu

Dylunio cynhyrchion, peirianneg dylunio, cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur, dylunio cynaliadwy

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Design and CAD ENG496
Product Design ENG6AF
Creative Futures: Making a living. ARD548
CAD & Digital Production ENG794
Concept Design ARD464
Environmental sustainability ARD555
Generative Design and Artificial Intelligence ENG6C5
Human centred design ENG797
Sustainable Design ENG477
Prototypes and production 2 ARD566
CAD and digital production ENG794
Digital Fabrication ARD465
User centred design 2 ARD577
Manufacturing and the Marketplace ARD628
Generative design and immersive realities ENG796
Prototypes and Production 1. ARD466
User Centred Design 1. ARD467
Ergonomics and human factors ENG558
Product Design Degree Project ARD627