Mrs Hayley Douglas
Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned
Mae gan Hayley fwy na 13 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn cychwyn o ddysgu Saesneg yn Siapan i fyfyrwyr llai academaidd.
Wrth ddychwelyd i'r DU, gweithiodd Hayley mewn amryw o roliau gwaith ieuenctid rhan amser yn ymgymryd â gwaith yn seiliedig mewn canolfannau a gwaith datgysylltiedig yn ardal Bryste. Yna cafodd waith llawn amser gyda Heddlu Avon a Somerset fel Gweithiwr Cyswllt Ieuenctid ar gyfer Bryste.
Yn dilyn hyn, gweithiodd Hayley i fudiad cymunedol yn rheoli darpariad ieuenctid symudol yng Ngogledd Somerset, yn gyrru bys dau lawr yn rheolaidd! Ar ôl symud i Ogledd Cymru gweithiodd Hayley i Gymunedau'n Gyntaf yn Fflint, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam fel Uwch Ymarferwr ac yn olaf fel Arweinydd Tîm i brosiect Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint.
Cafodd Hayley ei MA yng Ngwaith Ieuenctid a Datblygiad Cymunedol o Brifysgol De Montford i ennill ei chymhwyster JNC ac i adeiladu ar ei phrofiad gwaith ieuenctid a datblygu gwybodaeth a sgiliau mwy arbenigol ers ei gradd BA Troseddeg a Seicoleg o Brifysgol Keele.
Tu allan i'r gwaith mae Hayley i'w chanfod yn treulio amser gyda'i 2 fab ifanc sy'n ei chadw'n brysur ac mae hi'n edrych ymlaen at gwblhau ei PGCPD a chychwyn astudiaethau doethuriaeth yn y dyfodol.
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2022 | Discovering Discourse Analysis: Uncovering the ‘Hidden’ in youth work research, Methodological approaches to research in youth work: Changing the paradigm, Douglas, Hayley |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2021 | Educating Informal Educators on Issues of Race and Inequality: Raising Critical Consciousness, Identifying Challenges, and Implementing Change in a Youth and Community Work Programme, [DOI] Achilleos, Jess;Douglas, Hayley;Washbrook, Yasmin |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2023 | A joint children and adult approach to safeguarding, Social Work in Wales. [DOI] Hayley Douglas & Helena Barlow |
Pennod Lyfr |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Professional Supervision | YCW608 |
Research Project | YCW609 |
Theorising Youth and Community Work | YCW713 |
Leading and Managing Professionals | EDM706 |
Research Methods | YCW508 |
Working Together To Safeguard Self and Others | YCW413 |
Critical Pedagogy and Anti-Oppressive Practice | YCW709 |
Philosophy in Youth and Community Work | YCW710 |
Professional Placement 2 | YCW711 |
Dissertation | YCW714 |