Dr Jo Turley

Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg

Picture of staff member

Mae Jo wedi bod ym Mhrifysgol Wrecsam ers 2009, gan ddechrau fel myfyriwr ac ennill ei gradd BSc (Anrh) mewn Seicoleg yn 2012, ac yna symud ymlaen i fod yn Gynorthwyydd Ymchwil yn yr adran Seicoleg. Ar ôl hynny, aeth Jo ati i astudio a chwblhau ei gradd PhD. Roedd ei thesis yn canolbwyntio ar yr effaith seicolegol o gyfathrebu digidol ar blant rhwng 7-11 mlwydd oed. 

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau PhD, parhaodd Jo i weithio yn yr adran Seicoleg fel Cynorthwyydd Addysgu Graddedig ac yn ystod y cyfnod hwnnw llwyddodd i gwblhau ei Thystysgrif Addysgu Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch. Yn sgil hyn, daeth Jo yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Yn 2016, daeth Jo yn Ddarlithydd Seicoleg llawn amser gan fynd yn ei blaen i fod yn Uwch Ddarlithydd yn 2020.

Mae Jo hefyd yn diwtor Cyswllt Academaidd Seicoleg ar gyfer dau goleg partner yng Ngroeg ac ar hyn o bryd mae’n aelod Siartredig o Gymdeithas Seicolegol Prydain, gyda’i phrif feysydd addysgu ac arbenigedd yn cynnwys seicoleg gymdeithasol, seiberseicoleg a dulliau ymchwil ansoddol.
Yn ei hamser hamdden mae Jo yn mwynhau bod yng nghwmni ei theulu, darllen, coginio, a theithio dramor.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2019 Psychometric Properties of Three Measures of "Facebook Engagement and/or Addiction" Among a Sample of English-Speaking Pakistani University Students, INTERNATIONAL JOURNAL OF MENTAL HEALTH AND ADDICTION, 17. [DOI]
Turley, Joanne;Lewis, Christopher Alan;Musharraf, Sadia;Malik, Jamil A.;Breslin, Michael J.
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2018 Psychometric properties of three measures of “Facebook engagement and/or addiction” among a sample of English speaking Pakistani university students, [DOI]
Turley, Jo;Lewis, Christopher Alan;Musharraf, Sadia;Malik, Jamil A;Breslin, Michael J
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2016 Psychological Type of Person-Centered Counselors, Psychological reports, 118. [DOI]
Robbins, Mandy;Turley, Joanne
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2016 Prison building ‘Does size still matter?’: A Re-Assessment, 
Madoc-Jones, Iolo;Williams, E;Hughes, Caroline;Turley, Jo
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
An Introduction to Research Design PSY412
Social Psychology PSY617
Social Psychology PSY622
Cyberpsychology PSY623
Social Psychology PSY752
An Introduction to Data Analysis PSY414
Research Project PSY619
Clinical Psychology PSY607