Joanne Prescott

Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Picture of staff member

Dechreuodd Jo ei gyrfa mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, lle roedd ei hyfforddiant yn arbenigo mewn gweithio gyda chleifion sydd wedi derbyn diagnosis o Sgitsoffrenia, Anhwylder Personoliaeth ac Iselder. Ers hynny mae wedi trosglwyddo i weithio gyda phlant sydd yn cael eu gofalu amdanynt o fewn lleoliad preswyl. Ym mlynyddoedd diwethaf ei gyrfa cyn-academaidd, chwaraeodd Jo ran hanfodol yn sefydlu prosiect peilot ar gyfer y lloches nos gyntaf i’r digartref yn Wrecsam lle bu’n gwasanaethu fel Gweithiwr Prosiect Hŷn.

Yn 2013, ymrestrodd Jo ar y Cynllun BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Wrecsam, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Yn ystod ei hastudiaethau ymgymerodd ag interniaeth gydag Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi, lle cyfrannodd at Arolwg Llawn ar y Cyd a gweithiodd yn uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth. Yn ogystal, hyfforddodd Jo fel Hwylusydd Cyfiawnder Adferol gyda Gwasanaeth Cyfiawnder i’r Ifanc Wrecsam a chyfranogodd yn y Panel Trefn Atgyfeirio. Treuliodd Jo amser hefyd yn gwirfoddoli gydag ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol yng Nghymru a Chylchoedd o Gefnogaeth ac Atebolrwydd, a thrwy hynny, yn y ddwy rôl, bu’n cefnogi pobl gydag euogfarnau. 

Wedi iddi gwblhau ei gradd, dilynodd Jo Dystysgrif Addysg i Ôl-raddedigion ym Mhrifysgol Wrecsam, a arweiniodd at gael ei phenodi’n Gynorthwy-ydd Dysgu Graddedig o fewn yr adran BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Dros y blynyddoedd, mae Jo wedi symud ymlaen i rôl Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

Cwblhaodd Jo ei doethuriaeth yn 2021, oedd yn dwyn y teitl ‘The Berwyn Way’: A Qualitative Study of the Rehabilitative Model at HMP Berwyn. Mae ei diddordebau ymchwil yn parhau i fod ymwneud â charcharu a lleoliadau carcharu, gyda ffocws arbennig ar addysg mewn carchar.

Yn ogystal â’i chyflawniadau academaidd, yn ddiweddar fe arweiniodd Jo ddatblygiad a chyflawniad modiwl y Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol Lefel 4 cyflwyniadol yng Ngharchar EM y Berwyn. Ynghyd â chydweithiwr, bu iddi beilota’r rhaglen addysgol hon, sydd nawr yn cael ei dysgu i ddysgwyr sy’n garcharorion mewn lleoliad carcharu.

Diddordebau Ymchwil

Carcharu

Carchardai / penydeg

Addysg yn y Carchar

Y Carchar ac addysgeg Carchar

Y Carchar ac adsefydlu yn dilyn cael eich rhyddhau

Ymatal rhag trosedd

Arfer carchar sy’n ystyriol o drawma

Digartrefedd

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rol Disgrifiad O/I
Deall y dirwedd llety i fenywod gydag anghenion cymhleth sydd yn, neu mewn perygl o fod, yn y system Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Ymchwilwr Deall y dirwedd llety i fenywod gydag anghenion cymhleth sydd yn, neu mewn perygl o fod, yn y system Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. 01/2022 - 01/2023
Adeiladu Carchar i Ogledd Cymru: Hanes CEF Berwyn Rheolwr Prosiect ac Ymchwilydd Arweiniol

Llyfr Adeiladu Carchar i Ogledd Cymru: Hanes CEF Berwyn

 Prosiect llyfr etifeddiaeth wedi’i ariannu gan y Loteri mewn cydweithrediad gyda A Degree of Responsibility (ADOR) ym Mhrifysgol Wrecsam, y Weinyddiaeth Cyfiawnder, a Lendlease. Wedi’i gyhoeddi yn 2017, mae’r llyfr yn dogfennu adeiladu carchar newydd - CEF Berwyn, gan ddal y daith o gynllunio hyd at ei gwblhau.

Darparodd y prosiect hwn olwg unigryw ar raddfa, heriau a thraweffaith dyluniad a datblygiad y carchar, gan ymgorffori safbwyntiau gan brif randdeiliaid. Drwy roi’r broses hon ar gof a chadw mewn print, mae’r llyfr yn gweithredu fel adnodd hanesyddol ac addysgiadol pwysig ar groestoriadedd pensaernïaeth, cyfiawnder ac adsefydlu.
01/2015 - 02/2017
Heddlu Gogledd Cymru: Gwerthusiad o Strategaethau Dioddefwyr Heddlu Gogledd Cymru 2016 Ymchwilydd Arweiniol

Mae gan ddioddefwyr troseddau fwy o amlygrwydd o fewn y system cyfiawnder troseddol, gan hynny, mae gwneuthurwyr polisi ac asiantaethau cyfiawnder troseddol wedi’u cymell i roi ar waith ystod o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr mewn lle i gwrdd â’u hanghenion.

Ar y pwynt cyswllt cyntaf wedi trosedd, mae gan yr Heddlu gyfrifoldeb pwysig i gefnogi dioddefwyr. Gyda hynny mewn golwg, nod yr ymchwil hwn oedd archwilio a oedd anghenion dioddefwyr troseddau yng ngogledd Cymru yn cael eu cwrdd gan Heddlu Gogledd Cymru, a ph’un a yw diwygiadau i wasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr yn cael eu gweld fel rhywbeth sy’n darparu gwasanaeth sydd wedi’i wella ac sydd o fudd. Datguddiodd canlyniadau’r astudiaeth hon ganfyddiadau cymysg ynghylch y gwasanaeth a ddarperir gan Heddlu Gogledd Cymru, a gafodd draweffaith ar fodlonrwydd cyffredinol gyda’r heddlu.

Mae’r astudiaeth yn awgrymu bod ardaloedd o arfer da’n bodoli, fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd gwell yn cael ei brofi gan bob dioddefwr trosedd.
01/2015 - 05/2016
Ailarchwiliad Llawn ar y Cyd o Waith Troseddu’r Ifanc yn Portsmouth: Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi Ymchwilydd Arolygiaeth / Swyddog Ymgysylltu Defnyddwyr

Mae’r arolwg yma o waith gyda throseddwyr ifanc yn Portsmouth yn un o nifer fechan o arolygiaethau yr ymgymerwyd â hwy’n flynyddol gyda chydweithwyr o’r arolygiaethau cyfiawnder troseddol, gofal cymdeithasol, iechyd a dysgu a sgiliau.

Roedd yr arolwg yn Portsmouth yn ailarchwiliad, o ystyried bod perfformiad wedi dangos deilliannau gwael i blant a phobl ifanc yn 2013. Roedd nifer y plant a’r bobl ifanc oedd yn mynd i mewn i’r system cyfiawnder i’r ifanc yn Portsmouth wedi parhau i godi. Roedd cyfraddau yn y ddalfa wedi disgyn. Y gyfradd aildroseddu a gyhoeddwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn Portsmouth ar adeg yr archwiliad oedd 45.6%. Parhaodd hyn i fod yn waeth na’r cyfartaledd perfformiad ar gyfer Cymru a Lloegr (36.6%) ond dangosodd welliant ar gyfraddau aildroseddu blaenorol. Fe wnaethom ganfod dros y 18 mis diwethaf bod YOT Portsmouth a’i bartneriaid wedi gweithio’n galed i godi safonau perfformiad. Roedd y gwelliannau a gyflawnwyd yn sylweddol ac ym mhob maen prawf a archwiliwyd roedd cynnydd wedi’i wneud.

Roedd Bwrdd Rheoli’r YOT wedi gosod cynllun gwelliant uchelgeisiol yn dilyn yr arolwg diwethaf ac roedd hyn wedi gofyn am ymgysylltiad llawn gan staff a rhanddeiliaid. Roedd pawb wedi ymateb i’r her yn effeithiol.

Roedd y gwytnwch a ddangoswyd yn drawiadol ac roedd y llwyfan ar gyfer cyflawni deilliannau gwell i blant a phobl ifanc wedi cael ei osod. Bwriedir i’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn gynorthwyo Portsmouth gyda’r gwelliant sy’n parhau.
04/2015 - 08/2015

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad  Math
2023 Understanding the accommodation landscape for women with complex needs who are in, or at risk of entering, the Criminal Justice System in Wales, 
Madoc-Jones, I., Gordon, C., Dubberley, S., Prescott, J., Washington-Dyer, K. Cooper, A., Robinson, J., Fitzpatrick, N., and Lewis, S.
Adroddiad Cyhoeddedig

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff dyfarnu
07-2021 Doethur mewn Athroniaeth (PhD) University of Chester
09-2016 BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Prifysgol Wrexham
09-2003 Nyrsio Iechyd Meddwl Prifysgol Bangor
09-2017 Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) Prifysgol Wrexham
08-2016 Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Prifysgol Wrexham 

Pwyllgorau

Enw Disgrifiad O/I
Tîm Datblygu Academaidd - TrACE Fel aelod o linyn TrACE (Profiadau Trawma-Gwybodus ac Niweidiol yn ystod Plentyndod) y Tîm Datblygu Academaidd, mae fy rôl yn cynnwys cyfrannu at integreiddio arferion sy'n seiliedig ar drawma ar draws y Brifysgol. Rwy'n gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i ymgorffori'r arferion hyn mewn gwasanaethau addysgu, dysgu a chymorth, gan sicrhau amgylchedd mwy ymatebol a chefnogol i fyfyrwyr. Yn ogystal, rwy'n cydweithio ar fentrau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddeall effaith trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan helpu i lywio arferion gorau a gwella dull y Brifysgol o gefnogi unigolion yr effeithir arnynt. 01/2023
Pwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam Fel aelod o'r Pwyllgor Moeseg, mae fy rôl yn cynnwys adolygu ceisiadau am gymeradwyaeth foesegol i sicrhau bod yr holl ymchwil a gynhelir o dan adain y Brifysgol yn bodloni'r safonau moeseg a'r uniondeb uchaf. Rwy'n asesu prosiectau sy'n aml yn cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol, data personol, anifeiliaid neu ymchwil gydag effaith amgylcheddol bosibl i sicrhau eu bod yn cynnal urddas, hawliau a lles pawb sy'n gysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso'r methodolegau arfaethedig, nodi pryderon moesegol posibl, a sicrhau bod ymchwilwyr yn cydymffurfio â chanllawiau moesegol a gofynion cyfreithiol sefydledig. Fy nghyfrifoldeb i yw cyfrannu at gynnal ymrwymiad y Brifysgol i ymchwil moesegol, cyfrifol ac effeithiol. 01/2023
Bwrdd Academaidd Fel cynrychiolydd academaidd Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ar y Bwrdd Academaidd, rwy'n cyfrannu at oruchwylio a llunio strategaeth a materion academaidd y Brifysgol. Mae fy rôl yn cynnwys rhoi mewnwelediad ac adborth ar bolisïau academaidd, sicrhau bod buddiannau ac anghenion y gyfadran yn cael eu cynrychioli'n dda wrth wneud penderfyniadau strategol, a chefnogi gwelliant parhaus safonau academaidd ar draws y sefydliad. Rwy'n gweithio ar y cyd ag aelodau'r bwrdd i wella'r profiad academaidd cyffredinol i fyfyrwyr a staff. 09/2024

Partneriaethau Ymgynghori a Throsglwyddo Gwybodaeth

Cleient Disgrifiad
CEM Berwyn Yn ddiweddar llwyddodd i gyflawni KTP ar gyfer y gwaith y mae Carchar Berwyn yn ei wneud a chyflwyno modiwl pwrpasol yn y gyfraith a chyfiawnder troseddol.

Gweithgareddau Allgymorth

Teitl Disgrifiad
Cyngor cyflogadwyedd, hyfforddiant ac addysg gyda dysgwyr carchar Fel rhan o dîm ymroddedig, byddaf yn ymweld â charchardai ochr yn ochr â chydweithwyr o Yrfaoedd a Chyflogadwyedd ac Allgymorth Cymunedol i ddarparu cyngor cyflogadwyedd, hyfforddiant ac addysg i ddysgwyr carchardai. Ein nod yw cefnogi adsefydlu drwy arfogi unigolion â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn y dyfodol. Rydym yn ymgysylltu â dysgwyr carchardai drwy ffeiriau gyrfaoedd, sesiynau briffio addysg a chynadleddau, gan gynnig arweiniad wedi'i deilwra ar barodrwydd am swyddi, hyfforddiant galwedigaethol a llwybrau addysg uwch. Trwy gydweithio â lleoliadau gwarchod, gallwn helpu i bontio'r bwlch rhwng dalfa a chyflogaeth ystyrlon, gan feithrin trosglwyddiad llyfnach i gymdeithas.

Rhaglenni / Modiwlau Cydlynu

Teitl Pwnc
Introduction to Criminology and Criminal Justice SOC479
Notorious Crimes and Criminals SOC476
Drugs, Alcohol and Crime SOC478
Signal Crimes and Criminals SOC465
Criminology SOC574
Constructing Guilt and Innocence SOC664
Contemporary Crime and Justice SOC735
Study Skills in Higher Education POL401
Multi-Agency Working to Manage Risk and Dangerousness SOC670
Introduction to Law and Criminal Justice SOC448