John McClenaghen
Uwch Ddarlithydd mewn Celf Gain
- Ystafell: R26a
- Ffôn: 01978 293537
- E-bost: j.mcclenaghen@glyndwr.ac.uk
Cefais fy ngeni yn Falkirk, yr Alban.
Roedd fy nhaid yn aredig ac fy ewythr yn fugail ac yn hwsmon, ac mae bod yn rhan o deulu ffermio yn yr Alban ar ochr fy mam wedi dylanwadu ar fy ffordd o edrych ar fy mhrif bwnc creadigol, sef y tirlun.
Fel plentyn edrychwn ar y byd mewn rhyfeddod, cefais fy magu mewn tref ond roedd fy ewythrod yn ffermio a byddwn yn ymweld â nhw gyda fy rhieni a hynny’n teimlo fel symud rhwng dau fyd gwahanol iawn, gan efallai ddwysáu fy mhrofiad o’r ddau ac wedi rhoi ffordd i mi o edrych ar y byd sydd wedi aros gyda mi hyd nawr.
Astudiais yn Ysgol Gelf Glasgow, Prifysgol Huddersfield, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Caer a hyd at 2020 roeddwn yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer Celfyddyd Gain yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol. Yna es i’n rhan amser er mwyn canolbwyntio mwy ar beintio ac arddangos.
Rwyf bellach yn arddangos yn rheolaidd ac rwy’n cael fy nghynrychioli gan nifer o orielau ledled y DU gan gynnwys Oriel Russell, Llundain, Fountain Fine Art, Llandeilo, Oriel Heriot, Caeredin, Oriel Morningside Caeredin, Oriel Lemond, Glasgow, Fidra Fine Art, East Lothian ac Eion Stewart Fine Art, Swydd Aberdeen.
Rwyf hefyd yn ysgrifennu am ymarfer celf gan fod â phenodau mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Q-Art a Black Dog, Llundain ac rwyf wedi cyflwyno papurau ar baentio yn Oriel Gelf Whitworth, Manceinion ac i’r Gymdeithas Genedlaethol dros Addysg Gelfyddyd Gain.