Karen Griffiths
Prif Ddarlithydd/Arweinydd Proffesiynol Nyrsio
Dechreuais ar fy ngyrfa nyrsio sawl blynedd yn ôl drwy gyflawni fy Nhystysgrif Nyrsio Orthopaedig. Yna, cwblheais nyrsio cyffredinol a gweithio mewn ward feddygol acíwt fel Nyrs Staff. Roedd fy swydd gyntaf fel Uwch Nyrs ym maes Rhiwmatoleg. Yna, gweithiais mewn llawer o wardiau ac adrannau orthopaedig a chwblheais gwrs ymarferydd nyrsio brys a chymhwyster nyrsio plant yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl treulio blwyddyn fel Hwylusydd Lleoliadau Clinigol yn cefnogi myfyrwyr nyrsio ar leoliad, symudais i addysg uwch fel Darlithydd Nyrsio Plant.
Cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam roeddwn i’n Uwch Ddarlithydd Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Swydd Stafford gyda chyfrifoldebau ychwanegol fel Arweinydd Cwrs ac Arweinydd Dyraniadau Dysgu Ymarferol Nyrsio Plant. Gan fod gen i hyfforddiant yn y ddau faes, ro’n i hefyd yn cyfrannu at fodiwlau a rennir a modiwlau nyrsio oedolion.
Mae gen i Cocker Spaniel sy’n fy nghadw i’n brysur (ac yn gwneud i mi ymarfer corff). Rwy’n mwynhau gwylio amrywiaeth o chwaraeon ac yn mwynhau sioeau cwis a dramâu.