Mae gan Polly gefndir academaidd cryf yn y gyfraith ac ar hyn o bryd mae'n gwneud ymchwil doethurol ym maes tystiolaeth droseddol (ac yn disgwyl cwblhau’r ymchwil doethurol yn 2023). Mae gan Polly hefyd LLM (graidd meistr yn y gyfraith), MA mewn Ymchwil Gymdeithasol, a gradd israddedig yn y gyfraith (LLB). Yn y gorffennol, mae Polly wedi addysgu cyfraith droseddol a thystiolaeth droseddol ar y rhaglen israddedig ym Mhrifysgol Birmingham.
Y tu allan i'r gyfraith, roedd Polly yn sglefriwr ffigwr cystadleuol ers talwm, ond rydych chi bellach yn fwy tebygol o’i chael yn darllen ac yn siarad am lyfrau gydag eraill sy’n rhannu ei chariad tuag at lyfrau.