Dr Robert Leigh

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Picture of staff member

Ar hyn o bryd mae Robert yn Arweinydd Rhaglen a Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac yn Gydymaith Addysgu yn Adran Economeg Tir, Prifysgol Caergrawnt. Cyn ymuno â Wrecsam, astudiodd Robert ym Mhrifysgol Durham, gan gwblhau MSc mewn Cyllid a Buddsoddi, a ma ear fin cyflwyno ei Ph.D. mewn Cyllid. Cyn astudio Cyllid, cwblhaodd Robert ei BSc mewn Ffiseg Ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae diddordebau ymchwil Robert mewn cyllid cartref, cyllid eiddo tiriog, cyllid corfforaethol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o dîm ymchwil sy'n adolygu cyllid Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.


Mae Robert wedi ymddangos ar ITV, newyddion y BBC, ac ar amrywiaeth o sioeau radio sy'n siarad am gyllid cartref, argyfwng costau byw, a materion economaidd. Ar hyn o bryd mae Robert yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Greenway Real Estates LTD, cwmni Prynu-i-Osod a sefydlodd yn 2019. Mae Robert hefyd wrthi’n cwblhau ei gymhwyster Dadansoddwr Ariannol Siartredig (CFA) ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes buddsoddi mewn sawl diwydiant gwahanol. Mae Robert yn mwynhau ymweld ag adeiladau hanesyddol a chwarae badminton!