Ymunais â Phrifysgol Wrecsam ym mis Hydref 2023. Dyma fy swydd barhaol gyntaf yn y byd academaidd. Yn y gorffennol, bûm yn gweithio fel cynrychiolydd gwerthu yn y diwydiannau technoleg ac adeiladu, yn ogystal â chryn amser ym maes adwerthu.
Y tu allan i’r gwaith, rwy’n dipyn o ffan pêl-droed, ac rwyf wedi cymhwyso’n hyfforddwr a dyfarnwr. Arferwn hyfforddi plant gan amlaf, ond mi es yn fy mlaen i hyfforddi tîm amatur oedolion cyn i mi symud i Wrecsam. Pan nad ydw i’n hyfforddi, byddaf yn gwylio Clwb Pêl-droed Hibernian neu Dîm Cenedlaethol yr Alban (er mor boenus yw hynny!)
Mae fy niddordeb cyffredinol ym maes personoliaeth. Yn fwy penodol, edrychaf ar wahanol lefelau'r hierarchaeth bersonoliaeth, ac edrychaf i weld sut y gallwn wella cywirdeb rhagfynegol modelau canlyniadau personoliaeth. Mae gen i ddiddordeb mawr hefyd mewn gwahaniaethau grŵp, deall mwy am yr hyn sy'n bwysig i rai pobl, ond nid i eraill.
Cydweithwyr
Enw | Rôl | Cwmni |
---|---|---|
Dr René Mottus | Darllenydd | Prifysgol Caeredin |
Prof Wendy Johnson | Athro | Prifysgol Caeredin |