Sally Bottomley
Darlithydd Gwyddor Barafeddygol
Dechreuodd Sally astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010. Cymhwysodd fel Parafeddyg yn 2012 gan ddechrau ei gyrfa gyda gwasanaeth Ambiwlans Arfordir y De Ddwyrain am gyfnod byr, cyn cael swydd yn Wrecsam gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST).
Yn ystod ei chyfnod yn WAST, bu Sally'n gyfrifol am arwain yr ymateb i Ebola yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mentora Myfyrwyr Parafeddygol a threfnu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i staff. Derbyniodd Sally secondiad fel Arweinydd Tîm Clinigol yn 2017, cyn symud i swydd Rheolwr Gweithrediadau ar Ddyletswydd, gan ganolbwyntio ar les staff a rheoli digwyddiadau mawr.
Yn fwy diweddar, cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam, bu Sally'n gweithio fel Uwch-Barafeddyg. Roedd y swydd hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo rhagoriaeth glinigol, cefnogi staff ar deithiau clinigol a darparu gwell sgiliau a meddyginiaethau i'r rhai difrifol wael. Mae Sally wedi parhau â’i thaith addysgol gan gwblhau sawl modiwl yn ymwneud ag Ymarfer Clinigol Uwch tuag at ei gradd Meistr, megis mân afiechydon a diagnosteg glinigol. Rhydd y profiadau hyn ddealltwriaeth wych i Sally o'r proffesiwn Parafeddygol.
Yn ei hamser hamdden, mae Sally'n mwynhau cymdeithasu â ffrindiau a theulu a cherdded ei chi bocser, Stanley!
Mae gan Sally gynlluniau cyffrous ar gyfer y cwrs Gwyddor Parafeddygol ym Mhrifysgol Wrecsam ac mae’n edrych ymlaen at rannu ei brwdfrydedd am ofal cyn ysbyty gyda Pharafeddygon y dyfodol!