Dr Sharon Wheeler

Arweinydd Rhaglen: MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles

Picture of staff member

Ymunodd Sharon â Phrifysgol Wrecsam yn 2019, a chyn hynny bu’n gweithio ym Mhrifysgol Edge Hill a Phrifysgol York St John. Dyfarnwyd gradd PhD iddi o Brifysgol Caer yn 2013 wedi iddi hefyd gwblhau ei graddau MSc a BSc yno rhwng 2006 a 2010. Ar hyn o bryd mae’n arwain rhaglenni ôl-raddedig ar gyfer y maes Iechyd a Lles, ac yn darparu cyrsiau byrion ar Arfer Tosturiol wedi’i Rymuso (ECP) a ddatblygwyd ar sail ei gwaith ymchwil ar ofal tosturiol o fewn y sector iechyd a gofal.

Mae gan Sharon ddiddordeb arbennig mewn ‘Arweinyddiaeth ar gyfer lles’ - arwain gyda lles personol i greu systemau lles sy’n diogelu a hyrwyddo lles pobl a’r blaned. Mae’n tynnu’n bennaf ar gymdeithaseg a seicoleg er mwyn deall meddwl ac ymddygiad dynol a sut mae’r rhain yn berthnasol i iechyd, iechyd meddwl a lles.