Mae gennyf yrfa gyfoethog ac amrywiol, gyda’r thema gyffredin o weithio yn y sector addysg. Mae fy mhrofiadau a fy sgiliau yn cwmpasu creadigrwydd a gweithio'n agos gyda phobl, fel cyfarwyddwr fideo, cydlynydd gwirfoddolwyr, cwnselydd a goruchwyliwr ac athro ymwybyddiaeth ofalgar.
Mae gennyf bractis preifat sy'n cynnig cwnsela i oedolion a phobl ifanc, a goruchwyliaeth i hyfforddeion a goruchwylwyr cymwys, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n ymgymryd â rolau cymharol gymhleth a heriol yn emosiynol.
Yn fy rôl fel darlithydd sesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam, rwyf wedi addysgu ar y modiwl Gwydnwch ar gyfer Iechyd, sy’n rhoi cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Ofalgar. Yn flaenorol, rwyf wedi hwyluso'r grwpiau datblygiad personol ar y cwrs Diploma mewn Cwnsela. Ar hyn o bryd, rwy’n rhan o’r tîm staff, sy’n datblygu portffolio’r rhaglen, i ddarparu cyrsiau byr a DPP i’n graddedigion er mwyn iddynt allu parhau â’u dysgu a’u cysylltiad â’r brifysgol.
Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau nofio, cerdded, darlunio ac rwy’n datblygu diddordeb cynyddol mewn ysgrifennu.
Diddordebau Ymchwil
Mae gen i ddiddordeb yn natblygiad personol parhaus cwnselwyr a'u hunan-ofal. Mae hyn yn rhan bwysig o'u dysgu ar y Diploma, ac o fewn y maes cwnsela'n gyffredinol, ond mae'n oddrychol iawn, ac yn unigryw i'r unigolyn ac yn anodd i'w fonitro o safbwynt gwerthuso ei effaith ar fywyd a gwaith o ddydd i ddydd. Gall cwnsela fod yn broffesiwn ynysig, felly mae estyn allan am gymorth, fel y cynorthwyydd sydd angen ei helpu, fod yn anodd ac mae peth tystiolaeth bod gorweithio o fewn y proffesiwn yn cynyddu.
Gyda rheoliadau newydd yn dod i rym drwy ein corff proffesiynol mwyaf, o fewn y blynyddoedd nesaf, mae'n ofynnol cael nifer penodol o oriau datblygiad proffesiynol er mwyn cyflawni'r statws uchaf o fewn yr aelodaeth. Mae hyn yn rhywbeth newydd ac mae gen i ddiddordeb yn sut fydd cwnselwyr yn ymateb i hyn.
Diddordebau Addysgu
Dois i faes dysgu o gyfeiriad ysgafn, yn gyntaf o fewn y sector gwirfoddol, yn hyfforddi gwirfoddolwyr posib i gefnogi teuluoedd ar gyfer Dechrau'n Deg, ochr yn ochr â chynnig peth Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn cwrs byr Sgiliau Gwrando sylfaenol.
Hyfforddais fel Athro Meddylgarwch ym Mhrifysgol Bangor ac rwy'n parhau i fod â diddordeb i ddysgu o fewn y maes yn y dyfodol, yn arbennig felly yn dilyn llwyddiant y Modiwl Gwytnwch ar gyfer Iechyd.
Rwy'n parhau i ddysgu ar y Diploma ar gyfer cwnsela ac rwy'n gobeithio cyd-ddarparu rhai o'r cyrsiau byrion rydym wedi'u cynllunio.
Mae datblygiad proffesiynol a hunan-ofal cwnselwyr yn ddiddordebau addysgu ac ymchwilio ar gyfer y dyfodol.