Dr Tegan Brierley-Sollis

Cynorthwyydd Dysgu Graddedig – Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Picture of staff member

Mae Dr Tegan Brierley-Sollis yn Ddarlithydd Plismona, Troseddeg a Dulliau sy’n ystyriol o Drawma ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae Tegan yn aelod o Cyfiawnder: Y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam a phrosiect prifysgol Trawma ac ACE (Tawma a Phrofiadau Niweidiol mewn Plentyndod - TrACE. Mae gan Tegan brofiad o weithio a gwirfoddoli gyda phlant ac oedolion sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol, ar draws gwasanaethau statudol a gwirfoddol. Yn ystod ei hastudiaethau PhD, crëodd Tegan gysyniad i egluro trawma ac arfer sy’n ystyriol o drawma mewn ffordd eglur a hygyrch sydd erbyn hyn wedi cael ei ddatblygu’n animeiddiad o’r enw ‘Navigating the Storm’. Roedd PhD Tegan yn archwilio’r diwylliant newydd sy’n ystyriol o drawma o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder i’r Ifanc Gogledd Cymru. Mae hi hefyd ar y Tîm Datblygu Academaidd er mwyn datblygu prifysgol wybodus o ran trawma. Mae diddordebau ymchwil Tegan yn cynnwys trawma, dulliau sy’n ystyriol o drawma (yn arbennig o fewn y system cyfiawnder troseddol), trawma mechnïol, straen trawmatig, cyfiawnder i’r ifanc a Throseddeg Werdd. Ar hyn o bryd mae tegan yn ymchwilio i effeithiau goruchwyliaeth adfyfyriol gan gyfoedion am drawma mechnïol ymysg swyddogion yr heddlu. Mae hi hefyd yn rhan o astudiaeth beilot ar lyfr gwaith (yn seiliedig ar animeiddiad Navigating the Storm) sy’n cefnogi rheoli emosiynau o fewn ysgolion. Mae Tegan yn rhan o dîm ymchwil sy’n archwilio cefnogaeth ar gyfer staff niwrowahanol mewn addysg uwch. 


Modiwlau arweiniol Tegan:
SOC465 - Troseddau a Throseddwyr Arwyddion
SOC480 - Ymlyniad, Trawma a Throsedd
SOC660 - Cyfiawnder i’r Ifanc
POL602 - Bregusrwydd a Risg

 

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad
Navigating the Storm Education Workbooks prif ymchwilydd Prif nod y prosiect hwn yw gwerthuso llyfrau gwaith Navigating the Storm. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy archwiliadau gyda chyfranogwyr ynghylch cynnwys y llyfrau gwaith (a fydd wedyn yn cael eu haddasu ar gyfer eu defnyddio yn yr astudiaeth beilot hon). Bydd y broses yn cynnwys sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr ar ddarparu’r llyfrau gwaith. Byddwn wedyn yn archwilio effeithiolrwydd y llyfrau gwaith unwaith mae cyfranogwyr wedi gwreiddio ac wedi darparu’r llyfrau gwaith i blant yn eu hysgolion. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gydag athrawon o fewn ysgolion cynradd yng ngogledd Cymru. Rydym yn ceisio gwerthuso’r llyfrau gwaith er mwyn cynorthwyo i ddeall pa weithgareddau allai gefnogi rheoli emosiynau ymysg unigolion sydd wedi profi trawma/niwed yn ogystal ag amrywiaeth o fecanweithiau lles. Bydd yr amcanion canlynol yn cael eu hystyried: Cynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o draweffaith anallu i reoli emosiwn o fewn yr ystafell ddosbarth, amlinelliad o’r llyfr gwaith a gweithgareddau a awgrymir ar gyfer sicrhau ei fod yn briodol o fewn sefydliad addysgiadol - Peilota’r llyfr gwaith ymysg amrywiol ysgolion cynradd yng ngogledd Cymru; gwerthuso’r profiad o ddefnyddio’r llyfr gwaith o safbwynt rheoli emosiwn a lles o fewn ysgolion cynradd.
Vicarious Trauma – Clwyd Alyn (Peer Supervision and Reflection to support Wellbeing) prif ymchwilydd Prif nod y prosiect hwn yw archwilio gwerth cefnogaeth a goruchwyliaeth rhwng cyfoedion o ran gwella lles yr heddlu. Bydd yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol gyda chyflogeion yr heddlu yn seiliedig ar ba mor effeithiol yw’r model myfyriol rhwng cyfoedion. Rydym am geisio gwerthuso’r model hwn o fewn Heddlu Gogledd Cymru er mwyn bod o gymorth i ddiwylliant o fod yn berthnasol, wedi’i ddatblygu o waith ymchwil cyfyngedig ar effaith trawma mechnïol a straen trawmatig eilaidd ar gyflogeion yr heddlu. Bydd yr amcanion canlynol yn cael eu hystyried: - Cynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o draweffaith trawma mechnïol/straen eilaidd ar gyflogeion yr heddlu (gan gynnwys llosgi allan/salwch) (yn y gweithdy cyntaf) - Amlinellu model adfyfyrio a goruchwylio rhwng cyfoedion a sicrhau ei fod yn briodol o fewn cyd-destun plismona (yn yr ail weithdy) - Peilota model goruchwyliaeth adfyfyriol rhwng cyfoedion (a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn lleoliadau gwaith cymdeithasol) - Gwerthuso’r profiad o ddefnyddio’r model o safbwynt lles a straen trawmatig eilaidd/ trawma mechnïol.
Vicarious Trauma - North Wales Police (Police Peer Supervision and Reflection to support Wellbeing) prif ymchwilydd Prif canolog y prosiect hwn yw archwilio gwerth cefnogaeth a goruchwyliaeth rhwng cyfoedion o ran gwella lles staff o fewn darpariaethau byw gyda chefnogaeth (SLPau). Bydd yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyfweliadau ansoddol gyda chyflogeion SLP yn seiliedig ar ba mor effeithiol yw’r model myfyriol rhwng cyfoedion. Rydym am geisio gwerthuso’r model hwn o fewn dau o gynlluniau byw gyda chefnogaeth ClwydAlyn er mwyn bod o gymorth i ddiwylliant o fod yn berthnasol, wedi’i ddatblygu o waith ymchwil cyfyngedig ar effaith trawma mechnïol a straen trawmatig eilaidd ar rai sy’n gyflogedig o fewn y gwasanaethau cefnogaeth i fyw/digartrefedd. Bydd yr amcanion canlynol yn cael eu hystyried: - Cynnydd mewn gwybodaeth a dealltwriaeth o draweffaith trawma mechnïol/straen eilaidd ar staff SLP (gan gynnwys llosgi allan/salwch) (yn y gweithdy cyntaf) - Amlinellu model adfyfyrio a goruchwylio rhwng cyfoedion a sicrhau ei fod yn briodol o fewn cyd-destun SLP (yn yr ail weithdy) - Peilota model goruchwyliaeth adfyfyriol rhwng cyfoedion (sudd wedi’i ddatblygu’n fewnol ac sy’n cael ei dreialu mewn lleoliadau eraill gan y tîm ymchwil) - Gwerthuso’r profiad o ddefnyddio’r model o safbwynt lles a straen trawmatig eilaidd/ trawma mechnïol.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2023 Trauma- informed practice in the Welsh Youth Justice Service, Social Work in Wales.  Pennod Lyfr
2022 ‘‘Trauma Informed’: Identifying Key Language and Terminology through a Review of the Literature’,  Adroddiad Cyhoeddedig

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Attachment, Trauma and Crime SOC480
Vulnerability and Risk POL602
Youth Justice SOC660
Signal Crimes and Criminals SOC465