Dr Tristian Evans
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol - Llwyfan Map Agored Cymunedol
Mae Tristian Evans yn ymchwilydd yn yr Ysgol Gelfyddydau, Prifysgol Wrecsam, sy’n gweithio ar elfen mapio diwylliannol y prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus. Mae ei ddiddordebau ymchwil a’i ymarfer creadigol yn archwilio rhyngweithiadau rhwng y celfyddydau, yn aml yn cynnwys themâu yn ymwneud â’r amgylchedd a llesiant. Wedi’i hyfforddi fel pianydd a cherddolegwr, ac yn Gymrawd o’r Royal Schools of Music, mae wedi datblygu arbenigedd mewn dulliau ymchwil dadansoddol amrywiol, gan gynnwys dadansoddi amlgyfrwng, ac wedi cyflwyno a chyhoeddi ei ganfyddiadau yn rhyngwladol.
Wedi cydweithio ar nifer o brosiectau academaidd yn cynnwys agweddau o ddiwylliant Cymru, mae ei ymchwil a’i ddiddordebau creadigol wedi cynnig ystod eang o gyfleoedd i weithio gyda phlant, pobl ifanc a grwpiau cymunedol ar weithgareddau addysgiadol ac artistig. Mae cydweithrediadau creadigol yn cynnwys prosiectau ffilm a sain ac ymgysylltiadau gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Bangor, Canolfan Gelfyddydau Pontio, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a phrosiect ‘Unlocking our Sound Heritage’ y Llyfrgell Brydeinig.
Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio treftadaeth ddiwylliannol Ynys Môn fel rhan o’i weithgareddau ymchwil ar gyfer y Llwyfan Map Cyhoeddus, yn ogystal â goruchwylio gwaith ymarferwyr creadigol wrth iddynt ymgysylltu â phlant a phobl ifanc mewn ysgolion a chymunedau ar yr ynys.