Astudio blwyddyn lleoliad
Mae’r Lleoliad Diwydiannol/ Diwydiant yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â lleoliad cyflogaeth, yn cynyddu eu cyflogadwyedd a rhoi ystod fwy amrywiol o sgiliau a phrofiadau i fyfyrwyr.
Rydym eisiau i’n myfyrwyr derbyn y profiad o drochi mewn gweithle cyffrous ac ysgogol, a fyddai’n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio’r sgiliau maent wedi ennill o’u hastudiaethau hyd hynny ac ymgyfarwyddo gyda’r gweithrediadau bob dydd yn y lleoliad yna. Mae sgiliau cyflogadwyedd yng nghalon ein cyrsiau gan gynnwys gweithio fel tîm, rheolaeth prosiectau, cyfathrebu a meddwl creadigol.
Mae’r modiwl Lleoliad Diwydiannol/diwydiant yn werth 120 o gredydau academaidd ac yn cynnwys tair elfen asesu mae’n rhaid i fyfyrwyr eu pasio er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus.
Sut mae cyrsiau Lleoliad Diwydiannol/Diwydiant yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam
Yn ystod lefel 5 (blwyddyn 2) o’r rhaglen, byddwch yn mynychu sesiynau tiwtorial am y flwyddyn lleoliad, gan gynnwys y broses o chwilio am leoliad addas, disgwyliadau o’ch blwyddyn lleoliad ac arweiniad ar greu eich cynnig. Yn yr ail semester, byddwch yn gweithio gyda Chydlynydd Lleoliad i gyflwyno eich cynnig, a fydd yna dan ystyriaeth ac adolygiad. Os ydych yn llwyddiannus yn ystod y broses yma, byddwch yn mynd ymlaen i wneud eich Lleoliad Diwydiannol/diwydiant yn ystod eich trydedd flwyddyn ac yna’n dychwelyd atom ar gyfer lefel 6 (blwyddyn 4 yn gyfan gwbl).
Dod o hyd i leoliad
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod o hyd i ac i ddiogelu cyfle lleoliad addas. Gall hwn ei wneud yn annibynnol, neu drwy gydweithio gydag aelod o staff yn y Brifysgol, neu drwy Ganolfan Gyrfaoedd y Brifysgol.
Gofynnir i fyfyrwyr creu Cynnig Lleoliad ar y dechrau i fanylu pwy fydd y darparwr lleoliad, y nodau ac amcanion allweddol o’r lleoliad, trefniadau gweithio, cyswllt yn y lleoliad, a dogfennaeth iechyd a diogelwch. Bydd rhaid i’r Brifysgol cymeradwyo cynigion a chaiff eu cyflwyno gan fyfyrwyr cyn gall eu lleoliad ddechrau.
Byddwch yn derbyn manylion ar sut mae’r broses lleoliad yn gweithio pan rydym yn gyrru cynnig i chi ar ein cyrsiau sy’n cynnwys Blwyddyn Diwydiannol.
Ar y lleoliad
Mae’r Lleoliad Diwydiannol/diwydiant fel arfer yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd (Hydref i Mai), fel ei fod dros y ddau semester Brifysgol arferol. Felly, bydd fel arfer yn parhau am: o gwmpas 24 wythnos, dim llai na 20 wythnos a dim mwy na 40 wythnos.
Disgwylir i fyfyrwyr fynychu’r lleoliad yn ôl yr oriau llawn-amser arferol o’r sefydliad. Bydd unrhyw eithriad o’r hyn wedi’u cytuno gyda’r Brifysgol ac wedi’u cyfathrebu gyda’r darparwr lleoliad cyn i’r lleoliad gychwyn.
Bydd pob myfyriwr yn derbyn Mentor yn y sefydliad, i’w cefnogi tra eu bod ar y lleoliad. Yn ddelfrydol, bydd y person yma yn aelod o staff bydd y myfyriwr yn debygol o dderbyn cysylltiad dyddiol hefo. Bydd Goruchwylydd Lleoliad o’r Brifysgol yn ymweld â’r myfyriwr a Mentor yn y sefydliad (fel arfer unwaith yn ystod y lleoliad) a chadw cysylltiad a bod yna i gefnogi pob myfyriwr.
Asesiad Lleoliad
Ceir myfyrwyr eu hasesu fel rhan o’r modiwl Lleoliad Diwydiannol/diwydiant. Mae’r asesiad wedi’i wneud i fyny o dair elfen. Ceir pob elfen ei raddio fel pasio neu fethu yn unig, ac mae’n rhaid pasio pob elfen er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus. Yr elfennau asesu yw:
- Manyldeb Lleoliad wedi’i greu gan y myfyriwr ac mae’n rhaid i arweinydd y modiwl neu’r goruchwylydd lleoliad a’r lleoliad ei gymeradwyo a’i gytuno. Bydd hwn yn manylu’r nodau a chynllun am y lleoliad.
- Adroddiad Cynnydd wedi’i greu gan y myfyriwr cyn diwedd y semester cyntaf (tua hanner ffordd drwy'r lleoliad) a fyddai’n dogfennu’r gwaith maent wedi gwneud hyd hynny a chynllun lleoliad wedi’i ddiweddaru.
- Log Dysgu, a fydd yn gofnodion dyddiadur o weithgareddau a phrofiadau’r myfyriwr yn ystod y lleoliad. Bydd hyn hefyd yn cynnwys sylwadau ac adborth gan eu mentor yn y sefydliad sy’n darparu’r lleoliad. Disgwylir i fyfyrwyr creu un cofnod bob 3 i 4 wythnos yn ystod eu lleoliad. Ceir hyn ei asesu ar ddiwedd y lleoliad.