11 peth y dylai pob myfyriwr newydd eu gwneud yn Wrecsam
Os ydych chi newydd gyrraedd Wrecsam ac yn cynefino â bywyd yn y brifysgol, yn gyntaf oll, croeso! Yn ail, mae dod i arfer ag ardal newydd yn gallu cymryd amser, ond rydym ni wedi llunio rhestr o bethau y mae’n ‘rhaid’, yn ein barn ni, i unrhyw fyfyriwr eu gwneud, i gael y gorau o’u hamser yma yn Wrecsam, a hynny yn ystod Wythnos y Glas a thu hwnt!
Gwylio Clwb Pêl-droed Cymdeithas Wrecsam ar y Cae Ras
Mae gwylio Wrecsam yn chwarae gartref yn rhywbeth y mae’n rhaid ichi wneud tra’ch bod chi yma yn y brifysgol. Mwynhewch yr awyrgylch ar un o gaeau pêl-droed rhyngwladol hynaf y DU, a wyddoch chi ddim, efallai y byddwch chi’n un o Ddilynwr Wrecsam am byth!
Mynd i weld pa glybiau a chymdeithasau sydd gan Undeb y Myfyrwyr yn Ffair y Glas
Mae Ffair y Glas yn gyfle i weld dan yr unto pa glybiau, cymdeithasau a chyfleoedd sydd gan y brifysgol – hefyd mi fydd yna lawer o roddion rhad ac am ddim ar gael!
Mynd am noson allan yn nhafarndai, barrau a chlybiau Wrecsam
Mae yna ddigonedd o fannau i fynd iddynt yn Wrecsam i fwynhau noson allan – boed hynny’n ddiodydd hamddenol gyda ffrindiau neu’n glamp o noson fawr allan.
Cerdded ar draws traphont ddŵr Pontcysyllte
Os nad oes gennych chi ofn uchder, teithiwch 15 munud o ganol y dref i weld traphont ddŵr Pontcysyllte. Mae’r draphont ddŵr ei hun yn 126 troedfedd o uchder ac mae’n Safle Treftadaeth y Byd.
Mynd o amgylch ein horielau a’n hamgueddfa
Yn Wrecsam hefyd mae sawl atyniad diwylliannol a chelfyddydol – gan gynnwys Amgueddfeydd Wrecsam, Un Deg Un a Tŷ Pawb, ac mae pob un yng nghanol y dref.
Ymlacio yn Undeb y Myfyrwyr a bwyta pizza
Mae Undeb y Myfyrwyr yn lle gwych i ymlacio ar ôl darlith, neu dewch draw i un o ddigwyddiadau’r Undeb yn ystod Wythnos y Glas.
Gwrando ar gerddoriaeth newydd yng ngŵyl ryngwladol Focus Wales
Pob gwanwyn, mae cannoedd o fandiau yn tyrru i Wrecsam ar gyfer gŵyl ryngwladol Focus Wales. Mae sawl gig yn cael eu cynnal ar y campws!
Archwilio’r awyr agored
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddau safle arbennig yn Wrecsam – Erddig a Chastell y Waun. Ewch draw i weld beth sydd yno, ond mae yna lawer o lecynnau anhygoel eraill yn yr ardal ble cewch fynd am dro a mwynhau harddwch ein sir!
Mwynhau peint o Wrexham Lager
Fel un o lagerau hynaf y DU, o’i ddechreuad yn 1882 i’w adfywiad yn 2010, mae Wrexham Lager yn llawn hanes - yn sicr felly mae’n werth blasu ein diod leol ni, wrth ichi wneud Wrecsam yn gartref ichi dros y blynyddoedd nesaf!
Chwerthin llond eich bol yn Neuadd William Aston
Mae ein campws Plas Coch hefyd yn gartref i Neuadd William Aston, ble cewch gyfle i wylio comedïwyr, cerddorion a sioeau llwyfan. Mae llwyth o bethau’n digwydd yno, felly beth amdani!
Mwynhau eich amser yma
Yn bwysicaf oll, mwynhewch eich hunan! Mae’r cyfnod yn y brifysgol yn amser arbennig yn eich bywyd, wrth ichi astudio pynciau sydd yn eich tanio, gwneud ffrindiau newydd anhygoel, a phrofi llawer o bethau newydd – felly gwnewch y gorau ohoni – mae 3 mlynedd yn mynd mor gyflym!