.jpg)
Cymorth entrepreneuriaith
Y Tîm Entrepreneuriaeth
Rydym yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i archwilio, dechrau a datblygu eu syniadau busnes ac entrepreneuriaeth. P’un a ydych newydd ddechrau archwilio entrepreneuriaeth neu eisoes yn rhedeg busnes, mae ein tîm yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, cyfleoedd a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
Digwyddiadau a Gweithdai
Rydym yn cynnal rhaglen fywiog o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a chysylltiadau. Mae ein digwyddiadau’n helpu myfyrwyr a graddedigion i ddysgu gan sylfaenwyr profiadol, arbenigwyr diwydiant, a phartneriaid o Fusnes Cymru, mentrau lleol a sefydliadau cymunedol.
Rhestr o Ddigwyddiadau a Gweithdai 2026
| Teitl y Gweithdy | Dyddiad | Amser |
| Digwyddiad Cymdeithasol Entrepreneuriaeth (Cyfarfod Myfyrwyr a Graddedigion) | 16/11/2026 | 11:00-13:00 |
| Gweithdy Meddylfryd Entrepreneuraidd | 17/11/2026 | 13:00-15:00 |
| Rhwydweithio ar gyfer Mentrau Cymdeithasol | 18/11/2026 | 13:00-17:00 |
| Entrepreneuriaeth 101 | 19/11/2026 | 13:00-15:00 |
| Diwrnod Cyflwyno i'r Bwrdd Buddsoddi | 25/11/2026 | 10:00-14:00 |
| Parti Entrepreneuriaeth (Cyfarfod Myfyrwyr a Graddedigion) | 03/12/2026 | 12:00-14:00 |
| Gweminar Misol – Awgrymiadau AI ar gyfer Busnes | 09/12/2026 | 12:00-13:00 |
Archebwch ein digwyddiadau drwy ein tudalen Eventbrite
Cefnogaeth Un-i-Un
Gall myfyrwyr a graddedigion archebu sesiynau un-i-un personol am ddim gyda’r Tîm Entrepreneuriaeth. Mae’r cyfarfodydd un-i-un hyn wedi’u teilwra i’ch anghenion, boed hynny’n datblygu syniad, trafod camau nesaf ar gyfer hunan-fusnes, archwilio ffynonellau cyllid, neu gynllunio twf.
I archebu sesiwn un-i-un, e-bostiwch: Enhance@Wrexham.ac.uk
Mentora
Rydym yn cysylltu entrepreneuriaid â mentoriaid busnes profiadol, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus a gweithwyr proffesiynol lleol. Mae’r mentoriaid hyn yn darparu arweiniad a mewnwelediad parhaus i helpu i gryfhau eich hunan-hyder, mireinio’ch meddwl busnes, a datblygu eich menter.
Mannau Deori
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig amrywiaeth o fannau deori penodedig sydd wedi’u cynllunio i gefnogi myfyrwyr a graddedigion wrth iddynt ddatblygu eu syniadau a’u mentrau busnes.
Mae’r Lolfa Menter yn gwasanaethu fel gofod cyfarfodydd a digwyddiadau proffesiynol lle gall busnesau myfyrwyr weithio, cyfarfod, a chael mynediad at gefnogaeth, yn ogystal â chynnal apwyntiadau un-i-un, gweithdai, pop-ups, a gweithgareddau dydd agored.
Yn Ysgol Gelf, mae’r Shed Space yn darparu amgylchedd creadigol a chefnogol i fyfyrwyr a graddedigion sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, gan annog cydweithredu, rhwydweithio a thyfiant, ac mae hefyd yn gartref i glinig galw heibio wythnosol i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr celf.
Mae’r Forum yn gofod busnes cymdeithasol a chydweithredol a ariannir gan Menter ac Entrepreneuriaeth, yn croesawu myfyrwyr, staff, a chwmnïau allanol i gyfarfod, gweithio, a datblygu syniadau gyda’i gilydd tra’n cryfhau cysylltiadau gyda’r gymuned fusnes leol.
Gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn darparu amgylcheddau ymarferol i fyfyrwyr gysylltu, creu, a datblygu eu dyheadau entrepreneuraidd.
Ecosystem Entrepreneuriaeth
Mae ecosystem entrepreneuraidd Prifysgol Wrecsam yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i archwilio, dechrau, a datblygu eu mentrau eu hunain. Trwy gefnogaeth benodol gan y Tîm Entrepreneuriaeth, gweithdai a digwyddiadau ymarferol, mannau deori busnes, a chysylltiadau cryf gyda phartneriaid lleol, mae’r brifysgol yn creu cyfleoedd i adeiladu sgiliau a rhwydweithiau.
-(1).png)
Adrodiadd Effaith
Mae ein Adrodiadd Effaith yn dangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae cefnogaeth entrepreneuraidd yn ei wneud ym Mhrifysgol Wrecsam. Archwiliwch straeon llwyddiant myfyrwyr a graddedigion, prif gyflawniadau, a chanlyniadau ein gweithgareddau entrepreneuraidd ledled cymuned y brifysgol. Gweler ein llyfryn entrepreneuraidd effaith.
Adroddiad Effaith Entrepreneuriaeth 2025 - 2026