AILWEFRIO EICH GYRFA DROS YR HAF!

Dydi hi ddim yn gyfrinach - mae cymryd rhywfaint o wyliau blynyddol yn un ffordd o daro'r botwm ailosod, ond mae yna lawer o bethau eraill y gallwch chi eu gwneud i ailwefrio’ch gyrfa dros yr Haf

"Allan o’r swyddfa"

Yn gyntaf oll, dylai cymryd ‘amser i ffwrdd’ olygu cymryd amser i ffwrdd. Bydd gorffwys ac ailwefrio yn fuddiol i'ch iechyd a'ch cynhyrchiant, felly ceisiwch sicrhau eich bod yn cymryd peth amser i ffwrdd o'r gwaith i “ddad-blygio” ac yn diffodd eich hun rhag eich gwaith.

Summer Recharge Blog 1

Dechreuwch eich diwrnod yn gynharach

Ddim yn berson bore mewn gwirionedd? Peidiwch â phoeni, gallwch ei gymryd at y newid fesul diwrnod trwy ddeffro 30 munud yn gynharach nag y byddech chi fel arfer wythnos ar y tro. Mae codi yn gynnar yn dileu'r angen i ruthro yn y bore a bydd yn eich galluogi i ddechrau'ch diwrnod ar nodyn fwy optimistaidd a ddylai aros gyda chi trwy gydol y dydd. Mae rhai pobl yn dod o hyd i ysbrydoliaeth annisgwyl a lefelau uwch o gynhyrchiant yn y boreau tawel cynnar, felly gwnewch y mwyaf o'r cyfle i arbrofi ac i archwilio hyn dros yr Haf os allwch chi.

Summer Recharge Blog 2

Meddwl tymor hir yn y tymor byr!

Manteisiwch ar fisoedd tawelach yr haf i asesu eich opsiynau gyrfa, ailalinio'ch blaenoriaethau, a gosod nodau newydd ar gyfer y misoedd i ddod. Ysgrifennwch eich nodau tymor hir ac yna rhestr o'r hyn y gallwch chi ei wneud tuag at eu cyflawni! Bydd gosod y rhain mewn du a gwyn yn dod â nhw i flaen eich meddwl a bydd rhannu pethau'n gamau ac yn dasgau llai yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y buddion tymor byr wrth weithio tuag at eich nodau tymor hwy.

Summer Recharge Blog 3

Uwchsgilio a chyflawni

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer unrhyw ddosbarthiadau ar gyfer yr Haf? Boed yn rhai sydd â'r nod o lenwi'r bylchau yn eich set sgiliau broffesiynol neu'r rhai sy'n canolbwyntio ar eich iechyd a'ch lles, eich cymhelliant, eich hyder neu feysydd twf personol eraill? Yr adeg hon o'r flwyddyn yw'r amser perffaith i godi llyfr newydd, dysgu rhywbeth newydd neu trefnu mynychu cwrs neu encilio - gall pob un o’r rhain rhoi hwb i’ch cymhelliant a tharo'r botwm ailwefrio.

Summer Recharge Blog 4

Cadwch y sgwrs i fynd

Ydych chi eisiau tyfu yn eich rôl bresennol? Ymgysylltwch â'ch rheolwr yn eich datblygiad gyrfa eich hun trwy gadw cyfathrebu ar agor ac yn llifo. Gofynnwch iddo ef neu hi gwrdd â chi i drafod cynydd yn eich gyrfa pan fyddwch chi'n dychwelyd o'ch gwyliau Haf a gofyn iddyn nhw rannu'r hyn maen nhw'n meddwl yw'ch sgiliau pennaf ac ym mha feysydd y gallwch chi eu datblygu. Trafodwch eu nodau tymor hir ar gyfer y cwmni, y tîm, a chi a gadewch iddyn nhw wybod ble mae'ch meddwl a pha feysydd rydych chi'n teimlo yr hoffech chi'ch hun eu datblygu.

Summer Recharge Blog 5


Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cynnal nifer o Gyrsiau Byr a Chyrsiau Proffesiynol ar draws ystod eang o feysydd pwnc. Mae'r Tîm Menter yn Glyndŵr hefyd yn cynnig Cynlluniau Hyfforddi Pwrpasol AM DDIM i fusnesau, gan wneud mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant i weithwyr yn haws nag erioed o'r blaen. Am fwy o fanylion cysylltwch â'r tîm trwy enterprise@glyndwr.ac.uk

 

Ysgrifennwyd gan Ann Bell. Ymunodd Ann gyda'r Tim Menter fel Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog yn 2020.