Cyfarfod Bord Gron – Staff Niwrowahanol
Ym mis Mehefin, cynhaliodd y grŵp ymchwil Cymorth i Staff Niwrowahanol ei ddigwyddiad cyntaf erioed – sef cyfarfod bord gron. Ar ôl cael arian gan gronfa grantiau rhwydwaith Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, estynnodd y tîm wahoddiad i academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol o brifysgolion y DU ddod i gampws Wrecsam i gael trafodaeth led-strwythuredig am brifysgolion niwrogynhwysol.
Defnyddiwyd dull ymchwil ‘arddull caffi’ – hynny yw, mae’r mynychwyr yn eistedd o amgylch bwrdd er mwyn ateb cwestiwn penodol, ac ar ôl i’r amser penodedig ddod i ben maent yn symud i fwrdd arall hyd nes y bydd pawb wedi eistedd wrth ymyl pob bwrdd. Ceisiodd y tîm gynnwys cymysgedd o bynciau academaidd ochr yn ochr â staff gwasanaethau proffesiynol ac ymchwilwyr ar bob bwrdd er mwyn casglu amrywiaeth o safbwyntiau ar draws rolau swyddi. Hefyd, roedd digonedd o deganau hunanysgogi ar gael ar y byrddau er mwyn i’r staff a’r cyfranogwyr allu eu defnyddio wrth gymryd rhan yn y digwyddiad bord gron.
Dyma’r cwestiynau a ofynnodd y grŵp ymchwil i’r mynychwyr:
• Beth yw’r rhwystrau sy’n atal niwrogynwysoldeb?
• Sut le fyddai prifysgol niwrogynhwysol yn eich tyb chi?
• Sut y byddech yn gwneud eich prifysgol chi yn brifysgol niwrogynhwysol?
• Beth mae eich prifysgol yn ei wneud ar hyn o bryd i gynorthwyo staff niwrowahanol?
Arweiniodd y cwestiynau hyn at wybodaeth werthfawr iawn. Mae’r tîm wrthi’n dadansoddi’r data, gan ddefnyddio Disgrifiad Ansoddol. Ochr yn ochr â hyn, mae aelodau’r tîm ymchwil (aelodau Niwrowahanol ac aelodau Niwronodweddiadol) wedi ysgrifennu eu myfyrdodau ynglŷn â’r digwyddiad a’r profiad o gymedroli’r gwahanol fyrddau.
Un neges hollbwysig a ddeilliodd o’r data oedd bod DEWIS yn bwysig. Pa un a ydych yn sôn am ddewis gweithio gartref neu yn y swyddfa, dewis lefel y goleuadau yn yr ystafell neu ddewis cyfathrebu trwy gyfrwng dulliau gwahanol – mae hi’n hollbwysig galluogi unigolion, yn enwedig unigolion niwrowahanol, i fod â rheolaeth dros eu llwyth gwaith a’u hamgylchedd.
Yn ddiweddar, cynhaliodd y tîm ymchwil ymarfer myfyrio cydweithredol a bydd yn recriwtio staff o brifysgolion y DU i gymryd rhan mewn cyfweliadau i drafod profiadau personol o fod naill ai’n aelod staff niwrowahanol mewn addysg uwch neu’n rheolwr llinell ar staff niwrowahanol.
Cadwch eich llygaid ar agor am ychwaneg o ddiweddariadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r prif ymchwilydd, emma.harrison@wrexham.ac.uk.