Cyhoeddiad y Mis - Gorffennaf 2025

Herio Stigma drwy Stori: Sut y Gwnaeth Ffilm a Gafodd ei Chyd-greu gan Bobl â Dementia Newid Agweddau
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Dr Ian Davies-Abbott a’i gydweithwyr erthygl yn y Journal of Health Equity. Roedd yr astudiaeth hon yn ymchwilio i sut mae pobl yn siarad am ddementia a p’un a allai ffilm fer, wedi’i chyd-greu gan bobl sy’n byw â dementia, gan ddefnyddio dull o’r enw Ymchwiliad Gwerthfawrogol, helpu i newid y sgwrs.
Mae Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn canolbwyntio ar gryfderau yn hytrach na phroblemau. Fel dull a ddefnyddir mewn sefydliadau fel arfer, gwnaeth y tîm ei addasu ar gyfer grŵp o bobl iau sy’n byw â dementia. Dros gyfnod o un diwrnod, gwnaethant gymryd rhan yn y pedwar cam Ymchwiliad Gwerthfawrogol:
- Darganfod cryfderau’r gorffennol
- Breuddwydio am ddyfodol gwell
- Dylunio beth gallai newid edrych, a
- Chyflwyno neges— yn yr achos hwn, ffilm fer.
Dewisodd y grŵp gwblhau'r ffilmio ar yr un diwrnod â’r camau cynharach, gan deimlo y gallai aros wneud pethau'n fwy anodd oherwydd heriau'n ymwneud â'r cof. Yn ogystal, nid oeddent eisiau oedi gan eu bod yn mwynhau’r broses.
Ar y cychwyn, roedd un cyfranogwr yn cael trafferth adnabod profiadau cadarnhaol ar ôl diagnosis. Drwy addasu'r cwestiynau i edrych ar fywyd cyn y diagnosis, roeddent yn gallu rhannu myfyrdodau ystyrlon, yn enwedig yn ymwneud â’r thema Parch. Siaradodd cyfranogwyr am gael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am bwy ydyn nhw, ond am yr hyn maent wedi ei gyflawni yn eu gwaith a’u bywyd.
Ar ôl i'r ffilm gael ei chwblhau, fe’i dangoswyd i dri grŵp gwahanol: pobl gyffredin, aelodau teulu neu ofalwyr, a gweithwyr gofal iechyd. Bu pob grŵp yn trafod astudiaethau achos dychmygol cyn ac ar ôl gwylio’r ffilm. Dadansoddwyd eu hiaith gan ddefnyddio fframwaith lleoli gweledol, a helpodd i dracio newidiadau yn y ffordd yr oeddent yn siarad am bobl sy’n byw â dementia ar draws pedair thema: Perthyn, Gallu, Cefnogaeth a Dementia Anweledig.
Y grŵp o bobl gyffredin a ddangosodd y newid mwyaf arwyddocaol, yn enwedig yn achos y thema Perthyn. Cyn y ffilm, roeddent weithiau’n gweld pobl sy’n byw â dementia fel pobl a oedd yn gwrthod cymorth neu’n dod ag anawsterau arnynt eu hunain. Ar ôl y ffilm, roeddent yn parchu dewisiadau pobl i gefnogi ei gilydd.
Roeddent hefyd yn cydnabod cryfderau dan y thema Gallu, gan weld pobl â dementia fel pobl fedrus ac actif. Cyn gwylio’r ffilm, roeddent yn fwy amddiffynnol ac yn cymryd yn ganiataol bod pobl angen i rywun ‘ofalu amdanynt’. Ar ôl y ffilm, roeddent yn derbyn dewis personol.
Yn wrthgyferbyniol, ychydig iawn o newid a ddangosodd y grŵp gweithwyr gofal iechyd. Ac roedd agweddau aelodau teulu/gofalwyr yn gadarnhaol yn bennaf yn y thema Cefnogaeth, ond roeddent yn llai cadarnhaol yn y thema Dementia Anweledig. Gallai hyn adlewyrchu straen emosiynol neu gredoau hirsefydlog. Fel mae’r astudiaeth yn ei nodi, nid yw agwedd negyddol yn faleisus o reidrwydd— gall ddod o ragdybiau gosodedig dwfn.
Er nad oedd y tîm yn diystyru bias dymunoldeb cymdeithasol (pobl yn dweud yr hyn y maent yn meddwl y dylent ei ddweud), gwnaeth defnyddio grwpiau go iawn helpu i ddatgelu credoau gonest, hirsefydlog. Mae maint bychan y sampl yn cyfyngu ar y gallu i gyffredinoli, ond mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall y dull cadarnhaol, cyd-greadigol hwn gynhyrchu mewnwelediadau newydd.
Un cyfyngiad pwysig: dewisodd y cyfranogwyr â dementia beidio â chaniatáu rhannu eu ffilm y tu hwnt i’r astudiaeth. Er bod anogaeth gynyddol i bwysleisio gwaith creadigol gan bobl â dementia, rhaid i'w hawl i anhysbysrwydd ddod yn gyntaf.
Gallai astudiaethau yn y dyfodol gynnwys mwy o gyfranogwyr ac arweinwyr gofal iechyd, yn ogystal ag ymchwilio i ba mor hir y bydd unrhyw newidiadau’n parhau. Yr hyn sy’n glir yw bod angen teilwra ymdrechion gwrth-stigma. Mae profiadau presennol pobl â dementia— p’un a ydynt yn brofiadau personol neu broffesiynol— yn siapio'r ffordd y maent yn ei weld ac yn siarad amdano.
Dangosodd yr astudiaeth hon y gall rhoi llwyfan i bobl â dementia i rannu eu gweledigaeth greu lle i eraill ailfeddwl eu rhagdybiau— a gweld y person y tu hwnt i'r diagnosis.
Darllenwch yr erthygl lawn: Using Appreciative Inquiry to challenge stigmatising language about people living with dementia