Datgelu Cyfleoedd mewn Cynadleddau
Gan Shivani Sanger
Yn 2022, cychwynnais ar daith drawsnewidiol, ymhell y tu draw i ffiniau fy mharth cysur, i fynychu cynhadledd fawreddog Academi Gwyddor Fforensig America (AAFS) yn Seattle, yn yr Unol Daleithiau. Fel unigolyn a labelwyd yn aml fel “allblyg o fewnblyg” gan ffrindiau agos a theulu, roedd meddwl am rwydweithio mewn digwyddiadau o’r fath yn codi ofn arnaf i ddechrau.
Serch hynny, cefais wahoddiad i gyflwyno poster ar ymchwil fy ngradd meistr a dyna fy urddo i fyd y cynadleddau.
Ar ôl cyrraedd, gwelais gynulliad amrywiol o bobl broffesiynol yn y maes gwyddor fforensig. Roedd y sbectrwm yn amrywio o fyfyrwyr yn rhoi cynnig ar eu cyflwyniadau cyntaf i aelodau profiadol gyda hanes o fynychu cynadleddau. Fel un o’r genhedlaeth gyntaf i fynd i brifysgol ac fel menyw Indiaidd Brydeinig, roeddwn i’n wirioneddol bryderus am y posibilrwydd y byddwn yn cael fy ngwrthod o’r adran anthropoleg fforensig, lle sylweddolais yn fuan fy mod yn y lleiafrif.
Digwyddodd eiliad allweddol yn ystod derbyniad yn y gynhadledd, ble nes i fagu plwc i gychwyn rhwydweithio. Gyda 150 o gardiau busnes, daeth fy nod yn glir – dosbarthu’r cyfan ohonynt erbyn diwedd y gynhadledd. Chwiliais yn fwriadol am unigolyn gyda bathodynnau “Aelod” neu “Cymrawd” yn y gobaith o greu cyswllt gyda phobl broffesiynol brofiadol a allai gynnig cyngor gyrfa gwerthfawr. Mewn un o’r cyfarfyddiadau hyn, nes i groesi llwybrau gyda fy menter gyfredol ac fe wnaeth ei sylwadau craff yn ystod y 15 munud cyntaf nid yn unig altro cyfeiriad fy ngyrfa ond hefyd roi hwb i’m hyder i astudio anthropoleg fforensig fel llwybr gyrfa pendant.
Er nad oeddwn yn gallu mynychu cynhadledd AAFS 2023 oherwydd amgylchiadau personol, roeddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin y cysylltiadau a ffurfiais yn 2022. Roedd negeseuon e-bost rheolaidd i'r rhwydwaith, gan gynnwys fy mentor y mae gennyf gymaint o feddwl ohoni, yn sicrhau eu bod yn cael gwybod am ddiweddariadau yn fy ngyrfa, a oedd yn cynnwys dechrau ar fy nhaith PhD ym mis Medi 2023. Wrth i gynhadledd AAFS 2024 agosáu, cofrestrais yn brydlon, wedi'm tanio gan ymdeimlad greddfol y byddai cynnal y cysylltiadau hyn yn esgor ar fuddion hirdymor.
Wrth deithio i Denver, UDA, ar gyfer y gynhadledd, fe wnes ailgynnau cysylltiadau â fy rhwydwaith. Yn arbennig, cymerais y cyfle i fynd at fy mentor, nid yn unig ar gyfer profiad gwaith ond i fynegi fy eiddgarwch dros fentoriaeth. Fel mae’n digwydd a chyda lwc, roedd hi’n ddigon graslon i ymestyn y fentoriaeth gan roddi i mi oleuni arweiniol ar ffurf person proffesiynol medrus sydd â gwreiddiau dwfn yn y maes anthropoleg fforensig yn America. Mae'r fentoriaeth hon yn adnodd amhrisiadwy, sy’n golygu y gallaf geisio cyngor ac arweiniad wrth i mi geisio cyfrannu at faes Anthropoleg Fforensig yn yr Unol Daleithiau
Mae hanes fy mhrofiadau mewn cynadleddau yn tanlinellu'r rôl ganolog y mae cynulliadau o'r fath yn ei chwarae mewn twf personol a phroffesiynol. Y tu hwnt i'r cyflwyniadau a'r sesiynau, mae cynadleddau yn grwsibl ar gyfer meithrin cysylltiadau, torri rhwystrau, a datgloi cyfleoedd annisgwyl. Nid yw effaith drawsnewidiol y digwyddiadau hyn yn gyfyngedig i gyfnewid gwybodaeth yn unig, mae'n ymestyn i feithrin mentoriaeth, a all, fel yn fy achos i, fod yn gatalydd ar gyfer newid sylfaenol yn llwybr gyrfa rhywun. Yn ei hanfod, nid yw cynadleddau yn gynulliadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn unig; maent yn gyfryngau sy’n grymuso ac yn gyfle i wireddu potensial llawn rhywun yn y maes a ddewiswyd.